Defnyddio technegau micropigmentiad datblygedig

URN: SKABA8
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 04 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n defnyddio dylunio micropigmentiad a thechnegau gyda theclyn neu offer llaw er mwyn gwella cyflwr croen, efelychu, coethi neu guddliwio nodweddion ar yr wyneb neu gorff. Mae micropigmentiad datblygedig yn gwella cyflwr y croen drwy ieuangu’r croen a thechnegau ymlacio creithiau ac yn creu effeithiau fel efelychu ffoliglau blew, cuddliwio’r croen pen, areolâu efelychedig a brychni. Bydd yn rhaid i ymarferwyr esthetig hefyd ddatblygu templed dyluniad i’r cleient er mwyn dangos y deilliannau dichonol ar sail anghenion y cleient. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth micropigmentiad datblygedig. 2. cytuno ar **amcanion y driniaeth** a thempled dyluniad gyda'r cleient 3. cytuno ar strategaeth rheoli poen gan ddwyn i ystyriaeth lefel goddefedd y cleient, gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 4. chwyddo a goleuo'r **man triniaeth** 5. dewis math a maint y **nodwydd**, llwytho a defnyddio'r **cyfarpar** yn unol â phrotocol y driniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr 6. dewis a defnyddio **pigmentau** lliw yn unol ag **amcanion y driniaeth** 7. defnyddio **technegau triniaeth** a ****technegau **mewnosod** mewn ffordd a fydd yn creu'r **effeithiau** dymunol, gan ddilyn protocol y driniaeth  8. gwirio lles y cleient a monitro lefel adwaith y croen drwy gydol y driniaeth 9. addasu'r driniaeth i fodloni anghenion y cleient 10. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth 11. cadarnhau bod yr **effeithiau** terfynol yn bodloni'r cynllun triniaeth ac anghenion y cleient 12.  tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r **man triniaeth** yn dilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 13. cwblhau cofnodion y cleient a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth data 14. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 15. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 16. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 17. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaeth bellach gyda'r cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth gynnal triniaethau micropigmentiad datblygedig 2. y rhesymau dros gytuno ar y templed dyluniad 3. y ffactorau sydd angen eu hystyried wrth lunio templed dyluniad  4. y dewisiadau ar gyfer rheoli poen a'r peryglon cysylltiedig posib 5. y gofynion a'r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer canfod, cadw a defnyddio anesthetig lleol a drwyddedir ym Mhrydain 6. pam fod angen ichi chwyddo a goleuo'r man triniaeth 7. y gwahanol fathau o gyfluniadau nodwyddau a thechnegau mewnosod er mwyn creu'r effeithiau dymunol 8. sut i ddewis, cymysgu a phrofi pigmentau lliw i ddwyn i ystyriaeth: 8.1 amcanion y driniaeth 8.2 **dosbarthiad croen** 8.3 **nodweddion croen** 9. mathau, fformiwleiddiadau, defnyddiau a chyfyngiadau pigmentau pan gân nhw eu cymysgu a'u gwanhau   10. gofynion diogelwch ar gyfer pigmentau gan gynnwys: 10.1 cofnodi'r casgliadau pigment gaiff eu defnyddio 10.2. storio 10.3 taflenni data deunyddiau 10.4 dyddiad dod i ben 11. egwyddorion damcaniaeth lliw yn gysylltiedig gyda dewis y pigment 12. sut mae pigmentau lliw yn newid drwy gydol y broses iachau ac wedi iachau 13. rhoi'r ddamcaniaeth lliw ar waith er mwyn newid canlyniadau lliw annymunol wedi'r broses iachau 14. dewis, defnyddio a chymhwyso gwahanol driniaethau ac offer micropigmentiad datblygedig 15. pam eich bod yn trin y croen i ofalu eich bod yn gosod pigment effeithiol 16. y gwahanol fathau o gyflyrau cyflwynedig sydd angen eu cyfeirio at wasanaeth meddygol cyn y driniaeth 17. gwahanol fathau ac achosion cyflyrau hypopigmentiad a all elwa o ficropigmentiad  18. y risg ynghlwm â chynnal triniaeth micropigmentiad ar fitiligo 19. sut gall triniaethau ieiengu croen gael eu defnyddio ar y cyd â micropigmentiad er mwyn sicrhau y deilliannau gorau posib 20. sut i adnabod gwahanol fathau o feinweoedd creithiau 21. rhagofalon cynnal triniaethau micropigmentiad ar greithiau crebachiadau, hypertroffig a cheloid 22. y technegau triniaeth priodol er mwyn cyflawni'r dyfnder lliw a dosbarthiad pigmentiad 23. sut mae technegau triniaeth gwael yn effeithio ar y canlyniad terfynol 24. y rhesymau dros addasu'r driniaeth er mwyn bodloni anghenion corfforol a meddyliol y cleient 25. **adweithiau niweidiol** posib a sut i fynd i'r afael â nhw 26. y gwahanol dechnegau o gael gwared ar bigment a'u cyfyngiadau 27. effeithiau triniaethau laser ar bigment yn y croen 28. pwysigrwydd cadarnhau'r effeithiau terfynol i fodloni'r cynllun triniaeth a boddhad y cleient 29. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth 30. yr **anatomi a ffisioleg**** **sy'n berthnasol i'r safon hon 31. y gwahanol fathau o gyflyrau tyfiant blew a sut maen nhw'n effeithio ar y driniaeth micropigmentiad 32. gofynion cyfreithiol ynghlwm â chwblhau a storio cofnodion cleientiaid 33. deilliannau disgwyliedig y driniaeth yn dilyn triniaeth micropigmentiad datblygedig 33. diben gweithgareddau gwerthuso 34. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 35. **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau

Cwmpas/ystod

**** **** **** **** **Gwybodaeth Ychwanegol** Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg. Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal. Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.   Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.

Cwmpas Perfformiad

**Amcanion y driniaeth** 1. diffinio nodweddion naturiol 2. creu nodweddion 3. cywiro nodweddion 4. gwella a chydbwyso nodweddion 5. cyflwyno lliw i'r croen  **Nodwydd** 1. gwastad 2. magnwm 3. cylch 4. pwynt sengl 5. goleddol 6. meicro 7. arlliw-wyr a llinellwr 8. nano** ** **Cyfarpar** 1. teclyn llaw 2. peiriant **Pigmentiadau** 1. organig 2. anorganig 3. gwanedydd pigment **Technegau mewnosod** 1. pwyntiliaeth 2. pendil 3. graddliwio 4. wyffurf 5. croeslinellu 6. ysgubiadau 7. strociau ** ** **Technegau triniaeth** 1. ymestyniad tair ffordd 2. dyfnder y nodwydd 3. cyflymder 4. pwysedd 5. ongl 6. dipio pigment 7. cynhaliwr garddwrn 8. ymddaliad a safle 9. pasiau triniaeth   ** ** **Effeithiau** 1. aeliau strociau blew 2. aeliau graddliwiedig 3. llinell o amgylch y llygaid 4. estyn blew amrannau 5. llinell o amgylch y wefus 6. cochni ar y wefus 7. graddliwio gwefus 8. efelychu ffoligau blew 9. cuddliwio croen y pen 10. efelychu areola 11. llacio creithiau 12. ieuangu'r croen 13. brychni

Gwybodaeth Cwmpas

**Dosbarthiad croen** 1. Graddfa Fitzpatrick 2. Llun-niwed Glogau   ** ** **Nodweddion croen** 1. math 2. lliw gwaelodol y croen 3. cyflyrau 4. anhwylderau **Adweithiau niweidiol** 1. hyperemia 2. crafiad cornbilen 3. pigment yn mudo 4. pothellu 5. anesmwythder gormodol 6. oedema 7. adweithiau yn arwain at gleisio 8. llosg danadl 9. pendro 10. llewygu 11. teimlad llosg 12. cyfog 13. anaffylacsis 14. poen 15. creithiau hypertroffig neu geloid ** ** **Anatomi a ffisioleg** 1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 2. y gwahanol fathau a strwythurau o feinweoedd creithiau 3. strwythur a swyddogaethau'r y blew a chylchred tyfiant y blew 4. y gwahanol fathau o gyflyrau tyfiant blew 5. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen 6. proses heneiddio'r croen gan gynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a'r amgylchedd 7. proses iachau'r croen a chlwyfau 8. lleoliad a gweithrediad y cyhyrau sy'n gyfrifol am ystumiau'r wyneb 9. y strwythurau wynebol, craniwm ac anatomegol 10. diben a gweithrediad ffagosytau a sut maen nhw'n effeithio ar y pigment
**Cyngor ac argymhellion** 1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr 2. cynnal triniaethau 3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig 4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau 5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

**Micropigmentiad** Caiff micropigmentiad ei ddefnyddio er mwyn creu effeithiau colur er mwyn amlygu'r aeliau, gwefusau a llygaid drwy broses dyddodi pigment ar haenau croenol uchaf y croen.  Gall triniaethau micropigmentiad datblygedig hefyd gael eu defnyddio i adfer golwg yr aeliau a'r amrannau sydd wedi'u colli yn sgil alopesia neu gemotherapi, cuddliwio mannau lle mae pigment wedi diflannu, creithiau a llosgiadau a gwella ac ail-ffurfio meinweoedd creithiau ar ôl llawdriniaeth neu drawma. **Wyffurf** Techneg mewnosod gaiff ei defnyddio gyda thriniaeth micropigmentiad, lle caiff pigment ei osod mewn symudiad gorgyffyrddol cylchol. **Pwyntiliaeth** Techneg mewnosod gaiff ei defnyddio gyda thriniaeth micropigmentiad lle caiff arwyneb ei orchuddio gyda smotiau mân o bigment lliw er mwyn creu effaith graddliwiedig. Caiff ei ddefnyddio ar fannau fel y llinell amrannau isaf. **Llacio creithiau** Caiff creithiau eu llacio gyda thriniaeth pigo'r croen heb ddefnyddio pigment, sy'n ysgogi twf colagen newydd ac iach, gan lyfnu a gwella golwg meinweoedd creithiau.   **** **** **** **Dosbarthiad Croen** Mae modd pennu dosbarthiad croen yn ôl lefel y melanin yn y croen a chaiff ei fesur gan ddefnyddio graddfa rifiadol Fitzpatrick. Caiff graddfa Fitzpatrick ei chategoreiddio i dair graddfa, mae'r ffenoteip Uwchfioled yn pennu sensitifrwydd y croen i Uwchfioled, y ffototeip pigmentol sy'n pennu math lliw ethnig y croen ac yn olaf y lefel risg o gancr y croen. Caiff graddfa difrod-llun Glogau ei chategoreiddio i bedwar lefel ac mae difrifoldeb y difrod i'r croen yn pennu cynllun triniaeth esthetig harddwch. Caiff y ddau ddull eu hintegreiddio gyda thechnolegau a theclynnau newydd yn aml.    **Anesthetig lleol (asiant merwino)**** ** Eli gaiff ei daenu ar hyd arwyneb y croen fel dull lleihau poen. Gallwch ei daenu cyn ac yn ystod y driniaeth. **** **** **** **Protocol y driniaeth** Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.

Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 10 and 11 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT32

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

micropigmentiad, pigmentiad datblygedig, adnewyddu croen, microblading, cuddliw, efelychiad o areola, ymlacio ar y croen