Cynnal triniaeth llunieuangu’r (photo rejuvenation) croen gan ddefnyddio teclynnau laser, golau ac egni esthetig

URN: SKABA4
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 04 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n defnyddio laser, ffynonellau golau cryf, deuodau pelydru golau dwysedd uchel a theclynnau egni esthetig ar gyfer llunieuangu’r croen. Hefyd bydd yn rhaid ichi gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth ar gyfer gofalu bod eich gwaith chi’n gwella yn barhaus ac er mwyn anghenion y cleient yn y dyfodol.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth 2. cytuno ar **amcanion y driniaeth** gyda'r cleient 3. paratoi'r **man triniaeth** yn dilyn protocol y driniaeth 4. dewis y newidynnau o ran offer a defnyddio offer yn unol â phrotocol y driniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr 5. trin y croen er mwyn cael y deilliant gorau posib yn dilyn y driniaeth, yn dibynnu ar y **man triniaeth** a phrotocol y driniaeth 6. dilyn protocol y driniaeth er mwyn ymdrin â **man y driniaeth** 7. gwirio lles eich cleient a monitro adwaith y croen drwy gydol y driniaeth 8. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth 9. cwblhau'r driniaeth drwy ofalu bod yr offer wedi'u diffodd neu'n ddiogel 10. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r **man triniaeth** gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 11. cwblhau cofnodion y cleient a'u cadw yn unol â'r ddeddfwriaeth data 12. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 13. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 14. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 15. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol gyda'ch cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth gynnal triniaethau llunieuangu 2. pam ei fod yn bwysig fod gennych chi olau da yn y man dan reolaeth a goleuo'r man triniaeth 3. cynnal a chadw a defnyddio offer a thechnegau marcio yn gywir 4. y gwahanol fathau o ddulliau oeri cymeradwy a phryd a sut i'w defnyddio 5. paratoi man(nau) triniaeth i'w trin a sut gall hyn amrywio yn unol â phrotocol y driniaeth a chyfarwyddyd y gwneuthurwr  6. y rhesymau dros drin y croen yn ystod y driniaeth 7. buddion a manylebau gwahanol fathau o declynnau laser, ffynonellau golau cryf, deuodau pelydru golau dwysedd uchel a dyfeisiau'n seiliedig ar egni esthetig 8. sut caiff allbynnau teclynnau golau a laser eu disgrifio a'u mesur yn gysylltiedig â'r sbectrwm electromagnetig 9. labeli ufuddhau, dosbarthiad, gwasanaeth gwneuthurwr, cynnal a chadw i ddefnyddwyr a rhybuddion ar declynnau laser, ffynonellau golau cryf, deuodau pelydru golau dwysedd uchel ac egni esthetig.  10. craidd o wybodaeth yn ymwneud â defnyddio teclynnau laser 11. swyddogaeth cynghorydd diogelu rhag laser 12. y gofynion deddfwriaethol o ran pelydriad optegol 13. achosion a pheryglon datgeliad damweiniol i belydredd optegol 14. sut i weithredu amcanion y driniaeth yn dilyn protocol y driniaeth, gan gynnwys: 14.1 gwraidd a diben protocol y driniaeth a phwysigrwydd cydymffurfio gydag o 14.2 cynnwys protocol y driniaeth gan gynnwys arwyddion y driniaeth ac **adweithiau niweidiol** 15. gweithdrefnau monitro ar gyfer gwirio man y driniaeth a lles y cleient 16. nodweddion pelydriad optegol a sut mae'n ymadweithio gyda'r cromoffor bwriadedig 17. egwyddorion ymadweithio rhwng golau a meinweoedd a  photothermolysis ddetholus 18. peryglon posib teclynnau laser, ffynonellau golau cryf, deuodau pelydru ffynonellau golau dwysedd uchel ac egni esthetig 19. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth   20. yr **anatomi a ffisioleg** sy'n berthnasol i'r safon hon 21. gofynion cyfreithiol cwblhau a storio cofnodion cleientiaid 22. y deilliannau clinigol disgwyliedig yn sgil llunieuangu'r croen yn defnyddio teclynnau laser, ffynonellau golau cryf, deuodau pelydru golau dwysedd uchel ac egni esthetig  23. hanfodion asesiad dermatolegol o'r croen a chyflwr y croen ar gyfer triniaethau llunieuangu diogel 24. diben gweithgareddau gwerthuso 25. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 26. **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ynghlwm â nwyddau a thriniaethau

Cwmpas/ystod





Gwybodaeth Ychwanegol

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg.

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal.

Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.  

Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.


Cwmpas Perfformiad

**Amcanion y driniaeth** 1. gwella golwg y croen sydd wedi'i effeithio gan ffactorau cynhenid ac anghynhenid 2. triniaeth acne 3. triniaeth anafiadau arwahanol a chyffredinoledig pigmentog a gwaedlestrol anfalaen **Man triniaeth** 1. pen, wyneb a gwddf 2. corff 3. breichiau neu goesau

Gwybodaeth Cwmpas

Adweithiau niweidiol

  1. croen yn mynd yn llwyd neu'n wyn yn ormodol
  2. anafiadau'n newid lliw
  3. hyperemia a llidau
  4. pothellu
  5. gor-bigmentiad a hypo-bigmentiad
  6. oedema gormodol
  7. anesmwythder gormodol
  8. cleisio gormodol
  9. creithio
  10. diferu a chroenio
  11. llosgiadau
  12. anafiadau i'r llygaid sydd angen ei gyfeirio at wasanaeth meddygol
  13. pendro
  14. llewygu

*
*

Anatomi a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. strwythur a swyddogaethau y croen ac ychwanegiadau'r croen
  3. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen
  4. proses heneiddio'r croen gan gynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a'r amgylchedd
  5. proses iachau'r croen a chlwyfau 


Cyngor ac argymhellion

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr
  2. cynnal triniaethau
  3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig

  4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau

  5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Sbectrwm Electromagnetig

Yr ystod o egnïon neu belydriadau sy'n gynnwys pelydrau gama, pelydrau X, Uwchfioled a thonnau gweledol, is-goch a radio. Mae laserau a systemau golau cryf fel arfer yn pelydru pelydrau yn rhan is-goch, gweledol neu Uwchfioled y sbectrwm electromagnetig. Ar y cyd cânt eu galw'n 'belydriadau optegol'.

* *

Newidynnau offer

Elfen, nodwedd neu reolaeth all amrywio ac addasu'r gallu gweithredol.

* *

Ffynonellau golau cryf

Caiff ei adnabod fel Golau Curiadau Dwys hefyd. System fflachlamp, (Senon yn nodweddiadol) yn cynhyrchu golau digyswllt sbectrwm eang. Mae hidlyddion yn cael gwared ar donfeddi diangen a throsglwyddo'r rheiny sy'n angenrheidiol ar gyfer y driniaeth yn unig. Caiff ffynonellau golau cryf eu defnyddio i dargedu ystod o gromofforau yn dibynnu ar yr hidlyddion caiff eu defnyddio. 

Laser

Chwyddo golau drwy Belydriad Cyffroëdig Pelydriad. Caiff pelydriad laser ei ddisgrifio'n nodweddiadol fel un monocromatig, cydlynol a dargyfeiredd isel.

Man rheoledig laser/golau

Man rheoledig o amgylch y teclyn laser/golau lle mae'n bosib y bydd pobl yn bresennol lle gall beryglon ddigwydd a lle mae angen mesurau rheoli amddiffynnol penodol.

Deuodau Pelydru Golau Dwysedd Uchel

Mae deuodau pelydru golau yn cynhyrchu golau sbectrwm eang, digyswllt o ddeunyddiau lled-ddargludyddion (deuodau) pan fo cerrynt trydanol yn treiddio trwyddyn nhw. Dydyn nhw ddim yr un peth â laserau deuod. Gall deuodau pelydru golau esthetig gynhyrchu pelydriadau electromagnetig dwysedd uchel gyda ffynhonnell golau sy'n cynhyrchu allbwn dros 500 miliwatt, yn debyg i Laser dosbarth 4 neu Olau Curiadau Dwys.




Protocol y driniaeth

Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 2, 3, 5, 6, 7, 8, 9, 10 and 11


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT28

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

arbenigwr croen, laser, golau pwls dwys, IPL, ffynonellau golau dwys, ILS, LED, dyfeisiau seiliedig ar ynni, deuodau allyrru golau, adfywiad y croen, ymarferwyr anfeddygol, ymarferwyr meddygol, ieuangu'r croen, adnewyddu'r croen