Darparu triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu

URN: SKAB8
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Gwella lliw'r croen gan ddefnyddio technegau dodi lliw haul drwy chwistrellu
  2. Gwella lliw'r croen gan ddefnyddio technegau dodi lliw haul â llaw

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau, i gynnwys:

2.1 defnyddio cyfleusterau echdynnu priodol yn unol â gofynion deddfwriaaethol

3. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 dewisiadau triniaeth amgen

4. adarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu arfaethedig, i gynnwys:

4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd

4.3 adweithiau niweidiol **
4.4 teimlad corfforol

  1. cynnal prawf (profion) cyn y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen

  2. gwneud dadansoddiad o'r croen, i gynnwys:

6.1 dosbarthiad o'r croen

6.2 math o groen

6.3 cyflwr y croen

7.  sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant:

7.1 cyfarwyddiadau a chyngor cyn y driniaeth

  1. dewis a defnyddio cynnyrch paratoi glendid i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

9. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, i gynnwys:

9.1 dodi lleithiwr ar fannau sych o'r croen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr deunydd lliw haul

Dodi lliw haul drwy chwistrellu

  1. paratoi a defnyddio cyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth

  2. dewis toddiant dodi lliw haul o'r cryfder priodol i'w ddefnyddio yn y cyfarpar chwistrellu lliw haul yn unol â'r protocol triniaeth

12. profi’r cyfarpar cyn ei ddodi er mwyn penderfynu’r llif aer a’r dwysedd lliw haul priodol drwy gywiro’r mesur pwysau am bob modfedd sgwar 

13. gwneud y driniaeth dodi lliw haul drwy ei chwistrellu yn unol â’r protocol triniaeth

Dodi lliw haul â llaw

14. dewis y cynnyrch diblisgo a gwneud y driniaeth diblisgo yn unol â'r protocol triniaeth

  1. dewis cryfder priodol yr eli neu'r hufen lliw haul i'w ddefnyddio yn unol â'r protocol triniaeth

  2. dodi'r eli lliw haul yn unol â'r protocol triniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  3. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu

  4. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  5. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  6. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  7. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu a gweithredu'n briodol

  8. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

23. cofnodi canlyniad y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu a’r gwerthusiad ohonynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu, y defnydd ohonymt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 cyflwr y croen

7.3 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn

  1. pwysigrwydd profion cyn y driniaeth dodi lliw haul arnoch eich hun a chofnodi'r canlyniadau yn unol â gofynion deddfwriaethol

  2. y mathau o gynnyrch dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu

  3. y cynhwysyn dihydroxyacetone sy'n weithredol mewn toddiannau dodi lliw haul a'r effeithiau ffisiolegol a gaiff ar y croen

11. sut a phryd i ddefnyddio’r canlynol: 
11.1 deunyddiau gwella lliw haul
11.2 deunyddiau cywiro lliw haul

  1. y mathau o gyfarpar chwistrellu lliw haul, i gynnwys:
    12.1 cyfarpar chwistrellu lliw haul i'w ddal â llaw

13. pam a sut dylid cywiro’r mesur pwysau am bob modfedd sgwar ar y cyfarpar dodi lliw haul, i gynnwys:

13.1 cywiro diffygion

  1. y risgiau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyfarpar chwistrellu lliw haul gwasgeddedig

  2. sut i baratoi, glanhau, cynnal a chadw ac ail-gydosod cyfarpar chwistrellu lliw haul a deunyddiau ategol cysylltiedig

16. pwysigrwydd cyngor a chyfarwyddiadau o flaen y driniaeth a sut y gall hynny effeithio ar y driniaeth a’r canlyniadau 

17. pwysigrwydd eitemau a ddefnyddir ar gyfer gwarchod yr unigolion mewn triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, i gynnwys:

17.1 gwisg dan draed a ddefnyddir unwaith

17.2 rhwyd gwallt a ddefnyddir unwaith

17.3 dillad is a ddefnyddir unwaith

17.4 pabel1

17.5 hufen rhwystro

17.6 tyweli

  1. pwysigrwydd paratoi a diblisgio croen yr unigolyn cyn dodi'r toddiannau lliw haul

  2. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

  4. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu

  5. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu


Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. gwaedu
  2. llid y croen
  3. chwydd gwyn
  4. llosgi
  5. cosi
  6. llygaid yn dyfrio
  7. pesychu
  8. llewygu
  9. alergedd

Dosbarthiad o'r croen

  1. Graddfa Fitzpatrick
  2. Graddfa Lancer 


Math o groen

  1. sych
  2. olewog
  3. cyfuniad
  4. cytbwys


Cyflwr y croen

  1. hydwythedd llac

  2. gorliwio a thanliwio

  3. tagedig

  4. llinorog

  5. bregus

  6. fasgwlaidd

  7. sensiteiddiedig

  8. sensitif

  9. wedi sychu

  10. ffoto sensitif

12.  wedi ei niweidio gan olau

13.  wedi sychu

14.  wedi dylu


Protocol triniaeth dodi lliw haul

1.amgylchedd waith

  1. iechyd a diogelwch

  • atal a rheoli haint

  • cynllun gwasanaeth

  • cydsyniad gwybodus

    1. rheoli data

  • canlyniadau profion

  • cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  • archwilio ac atebolrwydd

  • 10.  cyfarwyddiadau a chyngor

    11.  cynaliadwyedd

    12.  rheoli gwastraff

    13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

    14.  ymarfer adfyfyriol

    Cyfarpar

    1. gwn chwistrellu
    2. cywasgwr

    3. maneg loywi


    Cyfarwyddiadau

     

    1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

    2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

    3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

    4.         triniaethau yn y dyfodol

    Anatomeg a ffisioleg

    1. strwythur a swyddogaeth y croen
    2. anatomeg and ffisioleg y corff dynol
    3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


    *
    *

    *
    *

    Cynnyrch

    1. toddiannau taenu lliw haul drwy chwistrellu
    2. toddiannau taenu lliw haul â llaw
    3. hufen rhwystro
    4. diblisgwyr
    5. leithyddion
    6. deunyddiau gwella lliw haul 
    7. deunyddiau cywiro lliw haul


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

    gwasanaeth e.e. llewygu

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

    Cyflwr croen sensitif

    Adweithedd capilaraidd genetaidd wedi ei gynyddu a swyddogaeth rhwystr wedi ei newid gan arwain at freuder cynhenid epidermol

    Cyflwr croen sensiteiddiedig

    Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad I ffactorau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a'r ffordd o fyw  sydd naill ai'n cynyddu cytocinau a modylyddion llidiol neu'n llesteirio'r rhwystr croen.


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    31 Maw 2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    STABT24

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    Taenu lliw haul â llaw, taenu lliw haul drwy chwistrellu, diblisgiad