Darparu triniaethau tylino’r corff gan ddefnyddio technegau sylfaenol

URN: SKAB4
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau tylino'r corff gan ddefnyddio technegau tylino sylfaenol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

**1. Darparu triniaethau tylino'r corff gan ddefnyddio technegau sylfaenol 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  1. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tylino'r corff, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau
3.2 gweithgareddau diweddar

3.3 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen

3.4 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth tylino'r corff arfaethedig, i gynnwys:

4.1 canlyniadau disgwyliedig

4.2 gwrth-weithredoedd

4.3 adweithiau niweidiol

4.4 teimlad corfforol

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth tylino’r corff yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant 

  1. gwneud prawf(profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen

  2. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn  yn unol â'r protocol triniaethau tylino'r corff, i gynnwys:

7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas

  1. gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:
    8.1 nodweddion y corff

dewis cyfrwng tylino i'w ddefnyddio yn unol â'r protocol triniaeth

  1. dodi'r cyfrwng tylino a chyflawni'r technegau tylino sylfaenol fel 10. ag y cytunwyd yn y cynllun triniaeth tylino'r corff, i gynnwys:

10.1 cynnal eich ystumiau a'ch safiad eich hun

  1. gwirio pwysedd, rhythm a llif y tylino gyda'r unigolyn ac addasu'r technegau tylino sylfaennol yn unol ag anghenion yr unigolyn

  2. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tylino'r corff

  3. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  4. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaethau tylinio'r corff, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

15. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  1. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth tylino'r corff a gweithredu'n briodol

  2. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

  3. cofnodi canlyniad y driniaeth tylino'r corff a'r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaeth tylinio'r corff a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

4. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  1. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1. y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben triniaethau tylino’r corff, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau, mewn perthynas â’r canlynol:

7.1hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

8. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaethau tylino’r corff a sut i ymateb iddynt

9. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tylino'r corff

  1. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth tylino'r corff

  2. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  3. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

  4. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wed'i lofnodi ar gyfer triniaeth tylino'r corff

  5. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth tylino'r corff

  6. sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli

16. pa mor aml dylid darparu triniaethau tylino’r corff a’r effaith allant ei gael ar iechyd a lles yr unigolyn proffesiynol, i gynnwys: 

16.1 ffyrdd y gellir osgoi risgiau i iechyd a lles

16.2 osgoi anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith

16.3 cadw eich lles personol chi

17. pwysigrwydd cadw ystum a safiad eich corff drwy gydol triniaeth dylino, i gynnwys:

17.1 sut gall ystum a safiad gefnogi llif ac effeithiolrwydd y driniaeth

  1. sut i gadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano/i drwy gydol y driniaeth yn unol â thyliniad y corff, i gynnwys:

18.1 sut all yr amgylchedd hyrwyddo tawelu neu symbylu canfyddiadau amlsynhwyrol y corff

  1. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth

  2. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr:

20.1 addasiadau yn dibynnu ar fan triniaeth yr unigolyn

  1. y cyfryngau tylino a ddefnyddir gyda thylino'r corff a'u heffeithiau

  2. y mathau o, manteision a chyfyngiadau technegau tylino sylfaenol a ddefnyddir mewn triniaeth tylino'r corff, i gynnwys:

22.1 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb iddynt

23. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch yn unol â'r protocol triniaethau tylino'r corff

  1. pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth a'r teimlad a ddaw yn ei sgil i'r unigolyn

  2. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

26. pwysigrwydd rhoi amser i'r unigolyn i ymadfer ar ôl triniaeth tylino'r corff

27. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth tylino corff yr unigolyn

  2. canlyniadau disgwyliedig y driniaeth tylino'r corff

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

31. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth tylino’r corff 

  1. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth tylino'r corff

Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. gwaedu
  2. cleisio
  3. alergedd
  4. ymateb iachau gormodol
** ** **Protocol protocol** **triniaeth tylino'r corff** ** **
 1. amgylchedd waith

  1. iechyd a diogelwch

  1. atal a rheoli haint

  1. cynllun triniaeth
  1. cydsyniad gwybodus

  1. rheoli data

  1. canlyniadau profion

  1. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  1. archwilio ac atebolrwydd
10.  cyfarwyddiadau a chyngor
11.  cynaliadwyedd
12.  rheoli gwastraff
13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

14.  ymarfer adfyfyriol


Nodwedd y corff

  1. tôn y cyhyrrau
  2. tensiwn y cyhyrrau
  3. dwysedd y blew
  4. cylchrediad araf sluggish
  5. dosbarthiad y croen
  6. cyflwr y croen
  7.  hydwythedd llac
  8. ystumiau


*
*

*
*

Cyfrwng tylino

  1. olew
  2. hufen
  3. di-olew
  4. powdr

Technegau tylino sylfaenol

  1. effleurage
  2. petrissage
  3. tapotement
  4. ffrithiant

*
*

Cyfarwyddiadau
*
*

  1. hawliau a chyfrifoldebau yr unigolyn

  1. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

  1. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

  • triniaethau yn y dyfodol

  • Anatomeg a ffisioleg

    1. anatomeg a ffisioleg y corff dynol
    2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
    3. effeithiau corfforol, ffisiolegol a seicolegol triniaethau tylino'r corff

    Anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith

    1. anaf straen ailadroddus
    2. ystumiol
    3. llid y croen
    4. dadhydradiad
    5. blinder

    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd A ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB5, SKAB6, SKAB7,

    SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1



    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    31 Maw 2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKAB4

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    Technegau tylino’r corff ar lefel uwch