Darparu triniaethau lled barhaol i godi’r amrannau a lamineiddio’r aeliau

URN: SKAB3
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol **ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau lled barhaol i godi'r amrannau a lamineiddio'r aeliau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol, i gynnwys, darparu ymateb cymorth cyntaf os bydd digwyddiad niweidiol.

Y prif ddeilliannau yw*:*

  1. newid strwythur ar ael gan ddefnyddio toddiannau cemegol ar gyfer codi a gosod
  2. newid strwythur ar ael gan ddefnyddio toddiannau cemegol ar gyfer codi a gosod* ***
  3. dadwneud mewn modd diogel effeithiau toddiannau codi amrannau ar amrannau sydd wedi eu codi'n ormodol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth i'r amrannau, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cynnal profion a chofnodi'r canlyniad er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth arfaethedig i’r amrannau a/neu’r aeliau, i gynnwys:

5.1 canlyniadau disgwyliedig

5.2 gwrth-weithredoedd

5.3 adweithiau niweidiol

5.4 teimlad corfforol

6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth arfaethedig i’r amrant a/neu’r ael yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  1. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael

  2. dewis cynnyrch effeithiol i baratoi cynnyrch paratoi glendid i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael

  3. gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen, i gynnwys:

9.1 dosbarthiad y blew
9.2 cyflwr y blew

9.3 patrwm tŵf y blew
9.4 dosbarthiad y croen

9.5 cyflwr y croen

9.6 nodweddion anatomaidd yr wyneb

  1. dewis a pharatoi'r cynnyrch amrannau a/neu aeliau yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael Dodi laminiad ar yr ael

  2. codi'r ael yn lled-barhaol mewn modd diogel ac effeithiol, i gynnwys:

11.1 dodi gludydd ar yr aeliau er mwyn angori blew'r ael yn eu siap newydd yn unol â'r protocol triniaeth

11.2 dodi’r toddiannau codi er mwyn dyrchafu’r aeliau, eu gadael i ddatblygu a chael gwared ohonynt gan ddefnyddio deunydd traul yn unol â’r protocol triniaeth 

11.3 dodi’r toddiannau niwtraleiddio yn y safle ddyrchafedig, eu gadael i ddatblygu a chael gwared ohonynt gan ddefnyddio deunydd traul sych yn unol â’r protocol triniaeth 

11.4 trimio blew'r ael i'r siap y cytunwyd yn y cynllun triniaeth

11.5 rhyddhau'r ael unigol o'r gludydd yn ysgafn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

11.6 gwarchod blew'r ael gyda thoddydd maethlon yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Codi'r amrant

  1. codi'r amrant lled-barhaol mewn modd diogel ac effeithiol i gynnwys:

12.1 defnyddio padiau o dan y llygad a thâp meicro i warchod yr amrannau is yn unol â'r protocol triniaeth

12.2 dodi digon o ludydd ar ochr isaf y gorchuddion cyrlio yn unol â'r protocol triniaeth

12.3 cysylltu'r gorchuddion cyrlio â chaead y llygad, yn agos at yr amrant yn unol â'r protocol triniaeth

12.4 dodi digon o ludydd ar wyneb y gorchuddion cyrlio er mwyn angori'r amrannau naturiol y neu siap newydd yn unol â'r protocol triniaeth

12.5 ynysu a chodi pob amrant at y gorchuddion cyrlio gan ddefnyddio offeryn cyrlio amrant

12.6 dodi'r toddiannau codi i ddyrchafu'r amrannau, eu gadael i ddatblygu a chael gwared o ddeunydd traul sych yn unol â'r protocol triniaeth

12.7 dodi'r toddiannau niwtraleiddio yn y safle ddyrchafedig, eu gadael i ddatblygu a chael eu gwared gan ddefnyddio ddeunydd traul sych yn unol â'r protocol triniaeth

12.8 rhyddhau'r amrannau unigol yn ysgafn o'r gorchuddion cyrlio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr  

12.9 cael gwared o’r gorchuddion cyrlio, gwarchodwr o dan y llygad a’r gludydd gormodol, gan sicrhau bod unrhyw anghysur i’r unigolyn cyn lleied â phosibl 

 12.10 gwarchod yr aeliau gyda thoddydd maethlon yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 

13.0monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth i'r amrant a/neu'r ael

14. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol, i gynnwys:

14.1 ymateb argyfwng cymorth cyntaf
15. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
16. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
17. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth i'r amrannau a/neu'r aeliau a gweithredu'n briodol
18. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
19. cofnodi canlyniad y driniaeth i’r amrannau a/neu’r aeliau a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at a rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben triniaethau i’r amrannau a/neu’r aeliau, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.4  disgwyliadau'r unigolyn

  1. strwythur anatomegol a nodweddion yr wyneb er mwyn penderfynu cymesuredd a chydbwysedd gan driniaethau i'r amrant a'r ael, i gynnwys:

8.1 siap a nodweddion y llygad

  1. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â thriniaethau i'r amrant a'r ael a sut i ymateb iddynt

10. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

  1. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i'r amrant a'r ael

  2. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  3. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

14. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth i’r amrant a’r ael

15. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i'r amrant a'r ael

16. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

17. y mathau o gynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaethau i’r amrant a’r ael, a’u manteision a’u cyfyngiadau, i gynnwys

17.1 sut gall y ffordd o fyw, a dosbarthiad y blew a’i nodweddion effeithio ar y dewis a’r defnydd o gynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaeth i godi’r amrant a’r ael 

  1. sut mae toddiannau codi a gosod yn torri a thrwsio'r rhwymau deusylffid o fewn strwythur y blew

  2. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal  anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  3. pam bod toddiannau gosod a niwtraleiddio yn cael eu symud o'r  gyda deunydd traul sych yn ystod y driniaeth

  4. pwysigrwydd nodi hanes triniaethau i amrant ac ael yr unigolyn, i gynnwys:

21.1 anghydnawsedd cyfuno henna gyda chemegolion pyrmio a'i effaith ddeifiol ar y blew

  1. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael

  2. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

24. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth i'w amrant a'i ael

  2. canlyniadau disgwyliedig triniaethau i'r amrant a'r ael

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

  4. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth i’r amrant a’r ael a’r gwerthusiad ohoni. 

  5. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl triniaethau i'r amrant a'r ael


Cwmpas/ystod

Profion

  1. prawf(profion) croen ar gyfer y cynnyrch sydd i'w defnyddio

  2. prawf sensitifrwydd

  3. prawf rhybudd o alergedd

Adweithiau Niweidiol

  1. gwaedu

  2. y ddanadfrech

3.* ***crafiadau

  1. difrod i'r llygad

  2. llid y llygad

  3. chwydd gwyn

  4. colli amrant

  5. dallineb

9. alergedd


**

Protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael**

1.amgylchedd waith

  1. iechyd a diogelwch

  2. atal a rheoli haint

  3. cynllun triniaeth

  4. cydsyniad gwybodus

  5. rheoli data

  6. canlyniadau profion

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  8. archwilio ac atebolrwydd

10.  cyfarwyddiadau a chyngor

11.  cynaliadwyedd

12.  rheoli gwastraff

13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

14.  ymarfer adfyfyriol

*
*

Dosbarthiad o'r blew

  1. syth

  2. cyrliog

  3. cyrliog iawn

Patrwm tŵf y blew

  1. cyfeiriad y tŵf
  2. colli 


Cyfarwyddiadau

1.hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

  1. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

  2. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

  3. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
  3. strwythur a swyddogaeth a chylch tŵf y blew
  4. strwythur sylfaenol a swyddogaeth y llygad




Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Gwrth Weithred

Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB4, SKAB5, SKAB6,

SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB3

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

taflu goleuni ar yr ael, cyrlio’r amrant, permio’r amrant