Creu darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio

URN: SKAATS4
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro,Tricoleg
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â'ch gallu i greu amrywiaeth o ddarnau ychwanegol i'r gwallt wedi eu teilwrio. Mae hyn yn cynnwys creu darnau gwallt i'r wyneb, gwalltiau gosod, darnau i'r gwallt ac estyniadau. Bydd gofyn i chi ddeall y gwahanol fathau o wallt a deunyddiau sylfaen sydd ar gael a chyflawni'r gwahanol dechnegau gwneud gwalltiau gosod a chlymu er mwyn cynhyrchu'r darn ychwanegol i'r gwallt wedi'i deilwrio. Bydd gofyn i chi hefyd wybod sut i greu effeithiau symudiad, cyrls a lliw o fewn y darn ychwanegol i'r gwallt yr ydych wedi'i greu a sut i gynnal neu addasu'r darn i'r gwallt. Mae'r safon yma'n berthnasol ar gyfer pob swyddogaeth ac mae'n hyfforddiant ymlaen llaw mewn trin gwallt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. dilyn gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn creu darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
3. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda’r unigolyn er mwyn penderfynu eu hanghenion a’u haddasrwydd ar gyfer 
darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio, gan gymryd i ystyriaeth amrywiaeth o ffactorau i gynnwys:
3.1 yr amcanion, dull, hyd a lliw a ddymunir 
3.2 cyflwr y croen a chroen y pen
3.3 maint y pen a siap yr wyneb
3.4 tôn y croen a’r lliw gwallt sy’n bodoli ar hyn o bryd 
3.5 y math o wallt sy’n bodoli ar hyn o bryd, y gwëad a’r dwysedd
3.6 patrymau tŵf y gwallt
3.7  cydnabyddiaeth o gyflwr colli gwallt sy’n bodoli eisoes a’u prognosis 
3.8  ystyriaeth o ffordd o fyw’r unigolyn
3.9 cyfyngiadau cyllidebol
3.10 defnydd o wallt naturiol neu artiffisial
3.11 mathau o sylfaen gwallt gosod ac estyniadau i’r gwallt 
3.12 mathau o atodiadau i’w defnyddio
3.13  gwrtharwyddion i’r gwasanaeth
3.14 iechyd a lles yr unigolyn
4. cytuno ar y cyfarwyddiadau dylunio terfynol a’u cadarnhau, y math o sylfaen, y math o wallt a’r lliw i’w defnyddio, steil, hyd, costau ac amserlenni ar gyfer creu’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
5. amlinellu pa addasiadau rhesymol all fod yn angenrheidiol er mwyn personoleiddio’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio pan mae wedi’i orffen
6. dewis a pharatoi amrywiaeth o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer creu’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
7. cofnodi mesuriadau cylchedd croen y pen a gwneud templed o’r rhan o groen y pen sydd i’w orchuddio 
8. dewis a gwnïo’r deunydd a ddymunir ar gyfer y sylfaen gan ddilyn y templad a’r mesuriadau, a sicrhau pwyntiau atodi 
9. paratoi’r gwallt ychwanegol sydd i’w ddefnyddio, gan sicrhau ei fod yn gywir o’r gwraidd i’r pwynt ac wedi’i sicrhau rhwng mat llunio 
10. creu’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio gan ddefnyddio technegau clymu neu wau i gwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio, gan gymryd i ystyriaeth
10.1 cyfuniad a lleoliad y gwallt ychwanegol o liw gwahanol 
10.2 cyfeiriad a dwysedd lleoiad y gwallt 
10.3 cynhwysiad a safle’r atodiadau 
11. defnyddio technegau torri priodol er mwyn creu’r siap a’r steil a ddymunir i gwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio ar gyfer y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
12. defnyddio technegau a chyfarpar priodol i steilio’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio neu ei brosesu’n gemegol er mwyn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio 
13. defnyddio technegau priodol i liwio’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio er mwyn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio 
14. ffitio’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio a chadarnhau gyda’r unigolyn fod y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio yn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio a gwneud addasiadau i bersonoleiddio’r edrychiad gorffenedig os oes angen hynny
15. cynghori’r unigolyn am y gofynion ôl-ofal a chynnal ar gyfer y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio er mwyn sicrhau ei fod yn parhau am gyfnod hir 
16. cynnal a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio i gynnwys
16.1  glanhau ac ailsteilio 
16.2 adfer rhannau sydd wedi eu difrodi
16.3 addasu’r maint a’r ffit
16.4 ail safleoli a sicrhau
16.5  gwaredu
17. cwblhau cofnodion yr unigolion a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data
18. cyfeirio’r unigolyn at bobl broffesiynol eraill fel bo gofyn ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn creu darnau ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
2. sut i gadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
3. y mathau o wallt ychwanegol sydd ar gael, eu manteision, cyfyngiadau ac ystyriaethau moesegol 
4. sut i gael gafael ar wallt ychwanegol a chysylltu â chyflenwyr
5. sut i gofnodi a gwerthuso ffactorau ymgynghori er mwyn cwrdd â gofynion yr unigolion a hysbysu ynglŷn ag addasrwydd ar gyfer y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio a ddewiswyd i gynnwys :
5.1 yr amcanion, steil, hyd a lliw a ddymunir
5.2 cyflwr a sensitifrwydd croen y pen
5.3 maint y pen a siap yr wyneb
5.3 tôn y croen a lliw’r gwallt sy’n bodoli
5.4 math o wallt yr unigolion a'i wëad a’i ddwysedd
5.5 patrymau tŵf y gwallt
5.6 cydnabyddiaeth o gyflwr colli gwallt sy’n bodoli a’r prognosis tebygol
5.7 ystyriaeth o ffordd o fyw’r unigolyn
5.8 cyfyngiadau cyllidebol
5.9 defnydd o wallt naturiol neu artiffisial
5.10 mathau o sylfaen gwallt gosod ac estyniadau i’r gwallt sydd ar gael
5.11 mathau o atodiadau i’w defnyddio
5.12  gwrtharwyddion i’r gwasanaeth
5.13 iechyd a lles yr unigolyn
6. pwysigrwydd sicrhau cytundeb a chadarnhad o’r cyfarwyddiadau dylunio terfynol, yn cynnwys y math o sylfaen, math o wallt a’i liw, steil a siap, costau ac amserlenni ar gyfer creu’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio *
7. y mathau o addasiadau rhesymol all fod yn angenrheidiol er mwyn personoleiddio’r edrychiad gorffenedig a chyfyngiadau’r newidiadau ellir eu gwneud a’u maint  
8. amrediad a defnydd yr offer a’r cyfarpar gellir eu defnyddio i greu’r *darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio *
9. sut i gymryd mesuriadau o gylchedd croen y pen a gwneud templed o’r rhan o groen y pen sydd i’w orchuddio 
10. sut i greu sylfaen gan ddilyn y templed a’r mesuriadau a sut a ble i sicrhau pwyntiau atodi 
11. pam fod rhaid i’r gwallt ychwanegol sydd i’w ddefnyddio gael ei baratoi cyn ei ddefnyddio, pam fod rhaid iddo fod yn gywir o’r gwraidd i’r pwynt ac wedi’i sicrhau rhwng mat llunio  
12. y technegau sydd eu hangen i greu’r amrywiaeth o *ddarnau ychwanegol i’r gwallt wedi eu teilwrio i greu’r cyfarwyddiadau dylunio, gan gymryd i ystyriaeth y canlynol 
12.1 cyfuniad a lleoliad y gwallt ychwanegol o liw gwahanol 
12.2 cyfeiriad a dwysedd lleoliad y gwallt
12.3 cynhwysiad a safle’r atodiadau
13. y technegau torri y gellir eu defnyddio i greu’r siap a’r steil, eu cyfyngiadau a sut i gyflawni’r rhain ar ddarn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
14. y technegau a’r cyfarpar a ddefnyddir i greu’r gwëad neu’r cyrl a ddymunir er mwyn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio a chyfyngiadau’r rhai sy’n ymwneud â’r math o wallt a’r defnydd o brosesu gwres neu gemegol.
15. y technegau a’r cyfarpar a ddefnyddir er mwyn newid lliw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio, a chyfyngiadau’r rhain 
16. pwysigrwydd sicrhau bod y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio gorffenedig yn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio a sut i wneud unrhyw addasiadau rhesymol i gwrdd â gofynion yr unigolion i bersonoleiddio’r edrychiad gorffenedig.
17. sut i ffitio a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio 
18. y math o gyngor i’w roi i’r unigolyn er mwyn cynnal a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio i gynnwys:
18.1 dulliau o lanhau a chyflyru a pha mor aml dylid gwneud hynny 
18.2 y defnydd o gynnyrch ar gyfer glanhau, cyflyru, steilio a gorffen a’u cyfyngiadau 
18.3 y defnydd o steilio a gorffen wedi eu gwresogi a’u cyfyngiadau
18.4 sut i gadw darnau ychwanegol i’r gwallt wedi eu teilwrio y gellir cael gwared â hwy 
18.5 pryd i ddychwelyd ar gyfer cynnal a chadw pellach
19. sut i gynnal a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio i gynnwys
19.1  glanhau ac ailsteilio
19.2 adfer rhannau sydd wedi eu difrodi
19.3 addasu’r maint a’r ffit
19.4 ail-leoli a sicrhau
19.5  gwaredu
20. y math o wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau cofnodion yr unigolion a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data 
21. sut a phryd i gyfeirio’r unigolyn at bobl broffesiynol eraill pan mae ffactorau ymgynghori yn mynd y tu hwnt i rychant eich ymarfer a pham ddylid gwneud hynny


Cwmpas/ystod


Darnau ychwanegol i’r gwallt wedi eu teilwrio
*
Gwalltiau gosod
Rhannau uchaf a darnau rhannol o’r gwallt
Systemau’r gwallt wedi eu hintegreiddio
Anweoedd estyniad i‘r gwallt
Darnau o flew’r wyneb

Pobl broffesiynol

*
Tricolegydd
Meddyg teulu 
Dermatolegydd
Steiliwr gwallt neu farbwr 
Seicolegydd/cynghorydd
Llawfeddyg trawsblannu gwallt
Ymarferydd Esthetig 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATS4

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

Darn i’r gwallt, gwalltiau gosod, estyniadau