Gwneud Ymchwiliadau Tricolegol wedi eu ehangu

URN: SKAATS1
Sectorau Busnes (Suites): Tricoleg
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae’r safon yma’n cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKATCS1 Cynnal gwasanaeth ymgynghori tricolegol a dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r rheiny. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr a thricolegwyr sy’n darparu gwasanaeth tricolegol sy’n dymuno ehangu eu hymgynghoriad gydag ymchwiliad pellach a dadansoddi’n feirniadol, gwerthuso, penderfynu a rheoli cyflyrau o groen y pen a’r gwallt. Rhaid i ymarferwyr weithio o fewn rhychwant a chyfyngiadau eu hawdurdod a chyfeirio unigolion at bobl broffesiynol berthnasol ym maes gofal iechyd pan fo angen. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma feddu ar yr wybodaeth sylfaen berthnasol i ddeall etioleg a phathaffisioleg y cyflyrau triciolegol y maent yn edrych arnynt. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, tystiolaeth, polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau arferion gorau diweddaraf sy’n briodol ar gyfer y triniaethau yma, a lle mae’r sylfaen tystiolaeth yn gyfyngedig neu’n anecdotaidd rhaid gwneud hyn yn glir i’r unigolyn sy’n ceisio eich gwasanaethau. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar eich ymarfer a chymryd camau i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad parhaus. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. dilyn gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn cyflawni ymchwiliadau tricolegol *
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl yr *ymchwiliadau tricolegol *
3. dilyn ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr a dehongli’r  *ymchwiliadau tricolegol ychwanegol sy’n angenrheidiol 
4. trafod a darparu’r rhesymeg dros yr ymchwiliadau tricolegol arfaethedig a’r protocolau ar gyfer eu cyflawni.
5. sicrhau dealltwriaeth yr unigolyn a sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gweithgareddau ymchwilio arfaethedig 
6. cyflawni, neu hwyluso’r ymchwiliadau tricolegol er mwyn penderfynu, adolygu a monitro’r cyflwr tricolegol a gyflwynir, gan ddilyn protocolau cyfundrefnol 
7. sicrhau cydsyniad, cofnodi a chadw’n ddiogel ddelweddau gweledol ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol ac i ddibenion monitro yn unol â gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a digollediad 
8. gwerthuso’r cyflwr tricolegol a gyflwynir yn erbyn y graddfeydd dosbarthu y gwyddir amdanynt 
9. coladu, dadansoddi’n feirniadol, gwerthuso a dehongli’r wybodaeth a gesglir o’r ymgynghoriad tricolegol, yr ymchwiliadau tricolegol a’r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael sy’n ymwneud â’r cyflwr tricolegol a gyflwynir er mwyn hysbysu’r cynllun rheolaeth 
10. trafod, ffurfio a chytuno gyda’r unigolyn ei gynllun rheolaeth yn seiliedig ar gasgliad yr ymchwiliadau tricolegol i gynnwys:
10.1. gwerthusiad beirniadol o’r sylfaen dystiolaeth 
10.2. yr effaith ar y prognosis a’r newidiadau sydd eu hangen i’r cynllun rheolaeth 
10.3. buddiannau gorau’r unigolyn a’ch cyfrifoldebau moesegol 
10.4. gweithio o fewn rhychwant eich ymarfer 
10.5. addasu dulliau cyfathrebu i gwrdd ag anghenion yr unigolion 10.6.  gwrtharwyddion a chydafiacheddau posibl 
11. cyfeirio at bobl broffesiynol eraill lle dynodir hynny gan ganlyniad  yr ymchwiliadau tricolegol 
12. cofnodi’r wybodaeth a gasglwyd a chanlyniadau’r ymchwiliadau tricolegol er mwyn cwrdd â gofynion cyfreithiol a phrotocolau cyfundrefnol 
13. adolygu ac adfyfyrio ar eich perfformiad er mwyn hysbysu datblygiad proffesiynol parhaus 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y gofynion cyfreithiol a’r safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn gwneud ymchwiliadau tricolegol *
2. sut i gynnal eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau dros iechyd, diogelwch a lles yr unigolyn a chi eich hunan cyn, yn ystod ac ar ôl yr *ymchwiliadau tricolegol a phwysigrwydd gweithio o fewn rhychwant eich ymarfer 
3. y ffactorau ymgynghori tricolegol sy’n hysbysu’r amrediad o ymchwiliadau tricolegol a sut i’w dehongli 
4. y rhesymeg y tu ôl i’r ymchwiliadau tricolegol arfaethedig, y canfyddiadau disgwyliedig mewn gwahanol gyflyrau tricolegol a swyddogaeth ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth 
5. y gweithdrefnau ymchwiliol a ddefnyddir mewn gwasanaethau ymgynghori a sut i’w cyflawni er mwyn penderfynu, adolygu a monitro’r cyflwr ymchwiliadau tricolegol a gyflwynir, gan ddilyn protocolau’r diwydiant a rhai cyfundrefnol  
6. pwysigrwydd a’r gofynion ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus 
7. sut i sicrhau cydsyniad, cofnodi a chadw’n ddiogel ddelweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a digollediad
8. sut i ddehongli canlyniadau’r ymchwiliadau tricolegol a gwerthuso nodweddion a difrifoldeb y cyflyrau tricolegol a gyflwynir mewn perthynas â’r graddfeydd dosbarthu y gwyddir amdanynt 
9. sut mae’r ymgynghoriad tricolegol , yr asesiad cychwynnol, y dystiolaeth sydd ar gael a chanlyniadau’r ymchwiliadau tricolegol gyda’i gilydd yn hysbysu cynllun rheolaeth sy’n cynnwys:
9.1 gwerthusiad a dadansoddiad o ddamcaniaethau gwahaniaethol 
9.2 gwerthusiad a dadansoddiad o ddamcaniaethau rhesymu clinigol
9.3 gwerthusiad beirniadol o’r sylfaen dystiolaeth
10. yr anatomeg a’r ffisioleg a gwyddorau cysylltiedig sy’n berthnasol i’r safon yma 
11. yr arwyddion a’r patrymau normal ac anffafriol o gyflyrau tricolegol ar draws pob math o groen a gwallt 
12. y newidion biolegol, symptomau cysylltiedig, arwyddion ffisiolegol a’r cydafiacheddau all gyfrannu tuag at bathoffisioleg a newidiadau i’r gwallt a chroen y pen a arsylwir 
13. y marcwyr biogemegol all achosi aflonyddiadau i dŵf croen y pen a’r gwallt
14. sut i ddatblygu cynllun rheolaeth wedi’i gytuno gyda’r unigolyn yn seiliedig ar gasgliad yr ymchwiliad tricolegol, i gynnwys:
14.1. yr effaith ar y prognosis
14.2. yr amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer rheolaeth
15. sut i weithredu er budd gorau’r unigolyn a’ch cyfrifoldebau moesegol 
16. pwysigrwydd gwneud penderfyniadau ar y cyd
17. pwysigrwydd gweithio o fewn rhychwant eich ymarfer
18. y gwahanol ddulliau o gyfathrebu er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn 
19. effaith gwrtharwyddion posibl
20. pan gall fod angen ymchwiliad meddygol pellach, triniaeth a chyfeirio at rywun proffesiynol arall a’r broses o wneud hynny i gynnwys:
20.1 pwysigrwydd sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer rhannu gwybodaeth berthnasol gyda phobl broffesiynol eraill 
20.2 y wybodaeth i’w chynnwys o fewn yr atgyfeiriad 
21. sut i gwblhau cofnodion cywir, diogel a chyfoes o’r wybodaeth a gasglwyd a chanlyniadau’r ymchwiliadau tricolegol er mwyn cwrdd â gofynion cyfreithiol a  phrotocolau cyfundrefnol, gan gymryd i ystyriaeth:
21.1. hawliau’r unigolyn
21.2.  archwiliad ac atebolrwydd 
22. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol fedrus er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel 
23. pwysigrwydd ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus, polisïau wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau a dogfennu’r rheiny 


Cwmpas/ystod


       Ymchwiliadau Tricolegol
*
*
1. Archwiliad gweledol o groen y pen a’r gwallt
2. Tricoscopeg digidol
3. Ffotograffiaeth wedi’i safoni
4. Mesuriadau o ddwysedd y gwallt
5. Mesuriadau o’r mannau o groen y pen a effeithir arnynt
6. Golau Wood
7. Prawf tynnu’r gwallt
8. Prawf cyfrif dyddiol y gwallt 
9. Prawf golchi wedi’i addasu
10. Ffototricogram (wedi’i eillio/heb ei eillio)
11. Tricogram uned man (UAT)
12. Cyfeirio neu hwyluso croen/dadansoddiad ffyngol o’r gwallt 
13. Cyfeirio neu hwyluso profion gwaed pellach

Graddfeydd Dosbarthu
*
*
1. Graddfa dosbarthu croen Fitzpatrick 
2. Offeryn difrifoldeb alopecia (SALT)
3. Mynegrif difrifoldeb alopecia talcennol sy’n ffibrosio a graddfeydd eraill sy’n cynrychioli alopecia creithiol
4. Sinclair a graddfeydd eraill sy’n cynrychioli patrwm colli gwallt i fenywod
5. Norwood a graddfeydd eraill sy’n cynrychioli patrwm colli gwallt i wrywod
6. Graddfa weledol analog pruritus
7. Mynegrif difrifoldeb psoriasis wedi ei addasu (ar gyfer croen y pen)

Gwyddoniaeth Gysylltiedig
*
*
1. Anatomeg a ffisioleg yr uned pilosebaceaidd, croen y pen a’r pen
2. Cyd-ddibyniaeth systemau ac organau’r corff, meinweoedd a threfniant y celloedd a homeostasis,
3. Swyddogaeth rhwystro a rheoli’r croen, ac effaith anaf yn iachau 
4. Etioleg a phathaffisioleg anhwylderau’r gwallt a chroen y pen 
5. Ffactorau rheoleiddiol cylch tŵf y gwallt
6. Egwyddorion sylfaenol etifeddiaeth a mynegiant enetig 
7. Egwyddorion sylfaenol dylanwad hormonaidd ac imiwnolegol ar anhwylderau’r gwallt a chroen y pen 
SKAATS1 Gwneud Ymchwiliadau Triciolegol wedi eu ehangu 6
 
8. Egwyddorion sylfaenol paramedrau haematolegol a’u harwyddocad i iechyd, a lle bo angen atgyfeiriad.
9. Egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth faethol, amsugno maetholion, rhyngweithiadau ac addysg ddeietegol
10. Egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth gosmetig, yn cynnwys fformwleddiadau cynnyrch a gweithredoedd.

Arwyddion a phatrymau
*
*
1. Presenoldeb, colled a gweithgaredd y cibynnau 
2. Blew’r gwallt fesul uned gibynnol 
3. Amrywioldeb diamedr blew’r gwallt
4. Nodweddion normal a chamfaethol blewyn a gwraidd y gwallt 
5. Presenoldeb, maint a lleoliad cochni
6. Patrymau fasgiwlaidd o fewn croen y pen 
7. Presenoldeb, maint a lleoliad graddfa neu hyperkeratosis
8. Arwyddion sy’n dynodi creithio a ffeibrosis
9. Dadliwiad, gorliwiad neu danliwiad o’r gwallt a chroen y pen
10. Anafiadau cynradd neu eilaidd i groen y pen 
11. Anafiadau diniwed ac amheus i groen y pen
12. Presenoldeb llidiwr fu mewn cysylltiad neu ymateb i alergi 
13. Presenoldeb haint neu bla
14. Fflworoleuedd ffyngol a hyphae
15. Lleoliadau ar groen y pen sydd wedi eu heffiethio 
16. Patrymau colli gwallt gwasgaredig a chlytiog 
17. Gor-secretiad neu dan-secretiad o sebwm a chwys 
18. Arogl


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Wedi ei seilio ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Atgyfeirio
Gofyn i rywun arall ddarparu gofal, triniaethau neu wasanaethau eraill sydd y tu hwnt i rychwant ymarfer yr ymarferydd, neu ble mae’n berthnasol oherwydd bod yr unigolyn wedi gofyn am ail farn.

Rhychwant Ymarfer
*
Y triniaethau, gweithredoedd a’r prosesau y caniateir i ymarferydd eu cyflawni yn unol â’u haddysg briodol, lefel eu harbenigedd a’u medrusrwydd.

Tricolegydd
Rhywun sydd â diddordeb mewn astudiaeth wyddonol o’r gwallt a chroen y pen: nid yw’n gofyn am gymhwyster ffurfiol fodd bynnag mae yna aelodaeth wirfoddol i ddynodi’r sawl sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant berthnasol.

Delweddau Gweledol*
Yn ymwneud â’r holl ddelweddau sydd wedi eu cofnodi gan gynnwys fideo, ffotograffiaeth a delweddau digidol meicrosgopaidd o’r gwallt a/neu groen y pen. Rhaid i hyn gael ei wneud gyda chydsyniad yr unigolyn.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1.2


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATS1

Galwedigaethau Perthnasol

Tricolegwyr

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

Tricoleg, gwyddoniaeth y gwallt, afiechydon y gwallt, anhwylderau’r gwallt