Gwerthuso canlyniadau ac effaith perfformiad ac arferion

URN: SKAASPC4
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Awyr agored uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch,Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â'r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer adolygu a gwerthuso perfformiad ac arferion. Byddwch yn ymgysylltu â phobl sy'n cymryd rhan ac eraill er mwyn cefnogi a gwerthuso sesiynau a chyflwyno gan ddefnyddio technegau a strategaethau uwch. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu monitro perfformiad y rhai sy'n cymryd a gwerthuso'r effaith. Byddwch yn gallu meicnodi eich perfformiad yn erbyn sefydliadau cyffelyb, a safonau proffesiynol ac ystyried datblygiad cyfleodd a bygythiadau yn eich gwaith yn y.dyfodol.

I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredu arwyddocaol, gyda lefel gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fel gweithiwr llawrydd/masnachwr unigol.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros berfformiad y rhai sy'n cymryd rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan yn eich gweithgaredd a budd-ddeiliaid eraill er mwyn cefnogi gwerthusiad effeithiol o berfformiad ac arferion a'r effaith gaiff hyn ar y canlyniadau.

  2. sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan a budd-ddeiliaid yn ymwybodol o'r canlyniadau a ddymunir

  3. casglu a dadansoddi adborth a thystiolaeth mewn perthynas â chyflwyno a chyflawni'r canlyniadau a ddymunir.

  4. dangos dull di-duedd ar gyfer cael gwerthusiadau dilys gan y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill

  5. monitro anghenion, ymddygiadau a disgwyliadau pobl sy'n cymryd rhan eisoes a rhai all wneud hynny a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad

  6. mesur yr effaith ar y strategaethau yr ydych wedi eu defnyddio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn eich gweithgareddau drwy ddadansoddiad o'r data a gasglwyd

  7. monitro gweithgareddau pobl sy'n cymryd rhan eisoes a rhai all wneud hynny a rhai sy'n cydweithredu, a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad

  8. meincnodi perfformiad ac arferion gyda sefydliadau cyffelyb yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

  9. cymharu cryfderau a gwendidau eich sefydliad er mwyn ymateb i gyfleoedd a gwendidau eich sefydliad o ran perfformiad yn y presennol ac yn y dyfodol

  10. trefnu gwybodaeth hysbysrwydd, gwybodaeth a thystiolaeth o ymarfer mewn modd sy'n cefnogi cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau ar gyfer perfformiad yn y dyfodol

  11. edrych i mewn i newyddbethau, datblygiadau a gwersi a ddysgwyd er mwyn gwella perfformiad yn y dyfodol

  12. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ymgysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan a budd-ddeiliaid y rhaglen er mwyn cefnogi gwerthusiad effeithiol o berfformiadau ac arferion a'r effaith gaiff hyn ar y canlyniadau

  2. perfformiad eich sefydliad a'r ffactorau sy'n effeithio ar hyn

  3. pwysigrwydd dealltwriaeth y rhai sy'n cymryd rhan a'r budd-ddeiliaid o'r canlyniadau sydd angen eu gwerthuso

  4. amrywiaeth o ddulliau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi adborth, tystiolaeth a data

  5. sut i wneud dadansoddiad o'r ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, addysgegol, cyfreithiol, ac amgylcheddol all effeithio ar ymarfer yn y dyfodol a'i hysbysu

  6. sut i fesur ac adolygu perfformiad eich sefydliad

  7. sut i ddadansoddi data a deall sut gall hyn effeithio ar berfformiad o fewn eich sefydliad

  8. amrywiaeth o ddulliau ar gyfer mesur effaith y strategaethau a'r ymyriadau drwy ddadansoddiad o ddangosyddion allweddol

  9. damcaniaethau o ddysgu, addysgu, hyfforddi ac ymarfer adfyfyriol

  10. sut i gyflawni meincnodi a dadansoddiad er mwyn nodi ymarfer dda

  11. sut i lunio a mesur nodau perfformiad ar gyfer y dyfodol ac asesu eu goblygiadau

  12. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAASPC1, SKAASPC2 and SKAASPC3


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr, Cyfarwyddwr awyr agored uwch

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

ymarferydd uwch; chwaraeon; ymarfer corff; gwerthuso; adolygu; effaith; perfformiad