Hwyluso a chynnal rhaglenni ar gyfer yr unigolyn er mwyn ysbrydoli perfformiad gan ddefnyddio hyfforddiant

URN: SKAASPC3
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â'r medrusrwydd sydd ei angen ar ymarferwyr uwch er mwyn hwyluso a chyflwyno rhaglenni ar gyfer unigolion er mwyn gwella perfformiad. Byddwch yn defnyddio dulliau a strategaethau uwch er mwyn creu awyrgylch gadarnhaol, grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan, sicrhau bod y rhaglen yn berson-ganolog, yn benodol ac ar gyfer yr unigolyn, yn ogystal â defnyddio lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol er mwyn deall a chefnogi anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan. Fel ymarferydd uwch bydd angen i chi gymhwyso'r damcaniaethau a'r dulliau hyn yn ogystal â bod yn addasadwy a dangos lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r sefyllfa.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan sydd ag anghenion penodol, lle mae angen lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau technegol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adeiladu cydberthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan a sefydlu eich swyddogaeth eich hun

  2. rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn ôl gofyniad y rhaglen a rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  3. creu llesiant corfforol, cymdeithasol a chadarnhaol sydd yn gadarnhaol ac yn rymusol ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan 

  4. addasu eich ymarfer a defnyddio dull person ganolog er mwyn cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. gwneud yn siwr bod ffiniau diogelwch effeithiol, addasadwy a hyblyg wedi cael eu sefydlu gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch

  6. unigoleiddio a gwahaniaethu cyflwyniad er mwyn cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan

  7. datblygu hinsawdd gymhellol gadarnhaol er mwyn cefnogi yr anghenion seicolegol a grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan o ran gwneud penderfyniadau

  8. hwyluso datblygiad sgiliau a technegau ar sail damcaniaethau dysgu addas

  9. addysgu, cyfarwyddo, hyfforddi a mentora pobl sy'n cymryd rhan i gyflawni anghenion, nodau ac amcanion gan ddefnyddio dulliau a strategaethau perthnasol

  10. cyfathrebu gyda rhwydweithiau a gwasanathau'r diwydiant i gefnogi anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan

11. defnyddio datblygiadau a chynnyrch technolegol i gefnogi eich cyflwyniad

  1. cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill ar gam, mewn dull ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffter ac anghenion

  2. paratoi'r rhai sy'n cymryd rhan i ymdopi gyda sefyllfaoedd disgwyliedig a rhai na ellid mo'u rhagweld

  3. dangos lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r sefyllfa a dealltwriaeth o'r gofynion a wneir o'r rhai sy'n cymryd rhan

  4. asesu a rheoli heriau cymhleth ac na ellid mo'u rhagweld gydag amgylchiadau cyfnewidiol

  5. defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i roi adborth i'w helpu i ddysgu o'u profiad, i atgyfnerthu a chefnogi cynnydd a datblygiad pellach

  6. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i sefydlu eich swyddogaeth eich hun gyda'r rhai sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau o gyfathrebu

  1. sut i greu a chynnal perthynas gadarnhaol, broffesiynol sy'n ennyn ymddiriedaeth gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  2. pwysigrwydd grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan i gymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn y modd maent yn cyflwyno'r rhaglen

  3. y gwahanol dduliau gan gynnwys yr un person-ganolog, addysgeg, addysg oedolion a sut gellir eu cymhwyso i gwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan

  4. pwysigrwydd ffiniau effeithiol, addasadwy a hyblyg gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch

  5. dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol

  7. pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff ar y rhai sy'n cymryd rhan

  8. damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd corfforol a modelau o seicoleg sy'n ymwneud â hwyluso a chyflwyno rhaglenni

  9. damcaniaethau, dulliau a strategaethau perthnasol, sy'n datblygu dull person ganolog i hwyluso datblygiad sgil a thechneg.

  10. amrywiaeth o wasnaaethau a rhwydweithiau i gefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan a sut i gael at y rhain

  11. amrywiaeth o ddatblygiadau a chynnyrch technolegol all gefnogi cyflwyno rhaglenni

  12. yr ystyriaethau cymdeithasol-economaidd, daearyddol, amgylcheddol a chyfreithiol mewn perthynas â rhoi technolegau ar waith

  13. ystod eang o offer, strategaethau a thechnegau cyfathrebu addas fydd yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gwrdd â'u hanghenion, nodau ac amcanion

  14. beth a sut i gymhwyso deallusrwydd emosiynol a diwylliannol er mwyn ymgysylltu â phobl sy'n cymryd rhan mewn modd effeithiol

  15. ymchwil a damcaniaethau perthnasol am grebwyll a gwneud penderfyniadau

17. ymwybyddiaeth o'r sefyllfa a dealltwriaeth o ofynion y rhaglen

  1. pwysigrwydd monitro a rhagweld gofynion corfforol ac emosiynol y rhaglen

  2. sut i asesu a rheoli problemau cymhleth ac na ellir mo'u rhagweld

  3. yr amrywiaeth eang o ddulliau priodol i alluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i roi adborth i'w helpu hwy i ddysgu o'u profiad 

  4. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAASPC1, SKAASPC2 and SKAASPC4


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

rhaglen ar gyfer yr unigolyn; ymarferydd uwch; hwyluso; cynnal; chwaraeon; ymarfer corff; perfformiad