Datblygu rhaglen ar gyfer yr unigolyn er mwyn gwella perfformiad gan ddefnyddio addysgeg hyfforddiant

URN: SKAASPC2
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â'r medrusrwydd mae ymarferwyr uwch ei angen er mwyn datblygu rhaglen ar gyfer yr unigolyn i ddarparu gwybodaeth ar gyfer perfformiad gan ddefnyddio addysgeg hyfforddiant. Y mae rhaglen person-ganolog ac un sydd ar gyfer yr unigolyn yn agwedd sylfaenol y mae'n rhaid i ymarferydd uwch ei hystyried a'i datblygu ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan er mwyn cyflawni eu hamcanion penodol. Gall yr anghenion hyn ymwneud ag iechyd, ffitrwydd, chwaraeon a/neu nodau sy'n gysylltiedig â pherfformiad. Mae pob rhaglen wedi ei theilwrio i anghenion unigol y rhai sy'n cymryd rhan, nodau ac amcanion er mwyn gwneud y gorau o'u potensial, eu bod yn cydweddu ag egwyddorion cyfnodoli ac wedi ei chydosod gydag addysgeg/addysg oedolion hyfforddiant gredadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Y mae'n berthnasol ar gyfer cynllunio rhaglenni person-ganolog a rhaglenni ar gyfer yr unigolyn i grwpiau ac unigolion.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan sydd gyda gofynion penodol, lle mae gofyn am lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau technegol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis amgylchedd addas ar gyfer rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill er mwyn trafod ac edrych ar anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan

  2. cyfathrebu gyda'r un sy'n cymryd rhan ac eraill mewn modd sy'n briodol ar gyfer eu dealltwriaeth, hoffterau a'u hanghenion

  3. datblygu hinsawdd gymhellol a chadarnhaol er mwyn cefnogi anghenion seicolegol a grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyfer gwneud penderfyniadau

  4. trafod y rhaglen benodol gyda'r un sy'n cymryd rhan a sut y gall fod o gymorth i wneud y gorau o'u potensial

  5. gwneud adolygiad cynhwysfawr o berfformiad cyfredol y rhai sy'n cymryd rhan, rhaglenni hyfforddi ac unrhyw heriau eraill all effeithio ar gynnydd

  6. cysylltu gyda phobl broffesiynol eraill o'ch disgyblaeth eich hun a rhai eraill sydd yn berthnasol i'ch gwaith neu sydd â'r potensial i gyfrannu lle bo'n briodol

  7. asesu anghenion a nodau cyflawn y rhai sy'n cymryd rhan, gan gymryd i ystyriaeth eu hamcanion a'u gorchestion allweddol drwy gydol y rhaglen

  8. annog yr un sy'n cymryd rhan i fynegi a deall nodau posibl sy'n briodol i'w hanghenion, gallu a photensial

  9. gwneud dadansoddiad bwlch fel rhan o'ch adolygiad

  10. llunio rhaglenni ar gyfer yr unigolyn sy'n gydnaws ag egwyddorion cyfnodoli ac wedi eu cydosod gydag addysgeg/addysg oedolion hyfforddi sy'n seiliedig ar dystiolaeth

11. sicrhau cydsyniad gan y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill i luniad y rhaglen

  1. nodi a chytuno ar y strategaethau hyfforddi trawsnewidiol sydd eu hangen er mwyn cyflawni rhaglen yr unigolyn sy'n cymryd rhan

  2. cytuno ar bwyntiau adolygu a dulliau gwerthuso addas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill

  3. cwblhau a chadw'r holl ddogfennau perthnasol yn unol â gofynion cyfundrefnol

  4. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau

  5. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr amgylcheddau mwyaf addas ar gyfer rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill er mwyn trafod ac edrych i mewn i'w hanghenion

  1. dulliau o wahaniaethau er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan

  2. pwysigrwydd grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyfer cymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn llunio eu rhaglen

  3. damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol

  4. pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff hyn ar y rhai sy'n cymryd rhan

  5. sut i ddadansoddi gwybodaeth a gasglwyd gan y rhai sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio dull person-ganolog

  6. pobl broffesiynol eraill sydd ar gael o'ch disgyblaethau chi a rhai eraill all gefnogi eich gwaith gyda phobl sy'n cymryd rhan

  7. sut i ddatblygu protocolau cyfathrebu gyda phobl broffesiynol eraill

  8. pwysigrwydd gosod nodau mewn modd effeithiol

  9. sut i ddatblygu strategaeth effeithiol ar gyfer gosod nodau

  10. egwyddorion llunio rhaglen wedi ei chyfnodoli sy'n benodol i anghenion unigolyn, sy'n gynhwysol ac sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd

  11. dulliau o gyflawni dadansoddiad bwlch a'i bwysigrwydd ar gyfer llunio'r holl raglen

  12. gwahanol ddulliau gan gynnwys addysgeg/addysg oedolion a'r modd y'u defnyddir er mwyn llunio rhaglen ar gyfer yr unigolyn  

  13. damcaniaethau perthnasol am ddatblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd a modelau o seicoleg sy'n rhan o gynllunio rhaglenni ar gyfer yr unigolyn

  14. pwysigrwydd sicrhau cytundeb gan y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill i'r rhaglen ar gyfer yr unigolyn

  15. y mathau o strategaethau hyfforddi trawsnewidiol

  16. pwysigrwydd cytuno ar bwyntiau adolygu addas yn y rhaglen

  17. y mathau o ddulliau adolygu gwerthusol sydd ar gael a sut y maent yn cysylltu â holl anghenion y rhai sy'n cymryd rhan

  18. sut i gwblhau'r holl ddogfennau a'u cadw'n ddiogel yn unol â gofynion cyfundrefnol

  19. rhychwant a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel y mae'n berthnasol i'ch swydd chi

  20. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon yma'n cysylltu gyda SKAASPC1, SKAASPC3 a SKAASPC4


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

ymarferydd uwch; addysgeg hyfforddiant; rhaglen ar gyfer yr unigolyn;chwaraeon; ymarfer corff