Defnyddio technegau proffilio’r rhai sy’n cymryd rhan er mwyn sefydlu anghenion sylfaenol
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â'r medrusrwydd mae ymarferwyr uwch ei angen ar gyfer defnyddio technegau proffilio'r rhai sy'n cymryd rhan. Mae proffilio'r rhai sy'n cymryd rhan yn offeryn i chi fel ymarferydd uwch ei ddefnyddio er mwyn datblygu hunan ymwybyddiaeth a gwybodaeth am sut mae ymddygiad yn debyg neu'n wahanol i eraill. Adeiladu hunan ymwybyddiaeth yw sylfaen deallusrwydd emosiynol ac fe'i defnyddir ar gyfer deall sut mae ymddygiad yn effeithio ar berfformiad a sut mae'r sawl sy'n cymryd rhan yn gweithio gydag eraill. Byddwch yn defnyddio'r dechneg hon i ddarparu gwybodaeth bwysig am y sawl sy'n cymryd rhan yn eich gweithgaredd, sy'n cael ei defnyddio i roi strategaethau realistig ar gyfer gosod nodau ar waith a helpu sicrhau bod eu cymhelliant cynhenid mor uchel â phosibl. Bydd yn helpu i gael ffocws y sawl sy'n cymryd rhan ar agweddau allweddol eu nodau a helpu cyfeirio eu hyfforddiant i'r meysydd lle tybir mae'r angen mwyaf.
Mae'r safon yma ar gyfer yr holl ymarferwyr uwch sydd â chyfrifoldeb dros amryw o'r rhai sy'n cymryd rhan ac sydd ag anghenion penodol, lle mae angen lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau technegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
dewis amgylchedd addas ar gyfer proffilio'r un sy'n cymryd rhan
egluro'r syniad o broffilio i'r un sy'n cymryd rhan a sut y gall helpu i gyfarwyddo mewn meysydd o angen penodol
sefydlu ffyrdd effeithiol o ymgysylltu a datblygu perthynas sy'n llesol i'r broses
hyrwyddo gwerthusiad gonest o'r un sy'n cymryd rhan yn eich gweithgaredd er mwyn hwyluso canlyniad mwy cynhyrchiol
defnyddio dull person-ganolog er mwyn cwrdd ag anghenion yr un sy'n cymryd rhan
defnyddio strategaethau priodol er mwyn sicrhau gwybodaeth berthnasol
trafod gyda'r rhai sy'n cymryd rhan y teimladau cyfredol ynglŷn â'u paratoad
sicrhau gwybodaeth briodol all fesur effeithiolrwydd nodau'r rhai sy'n cymryd rhan er mwyn creu'r proffil sylfaenol
annog y sawl sy'n cymryd rhan i roi dadansoddiad o'u perfformiad drwy hunan-adfyfyrio
10. dadansoddi'n feirniadol y wybodaeth a gasglwyd am y rhai sy'n cymryd rhan i'w defnyddio fel cymhariaeth gyda'u canlyniadau, meincnodi a gwerthoedd norm clodwiw.
nodi anghysonderau barn rhwng chi eich hun a'r un sy'n cymryd rhan
rhoi ar waith strategaethau ymyrryd sy'n adlewyrchu amgylchiadau a hoffterau'r rhai sy'n cymryd rhan.
13. cynllunio a rhoi ar waith strategaeth effeithiol ar gyfer gosod nodau yn seiliedig ar ganlyniadau'r proffilio
gwneud adolygiad o broffilio'r rhai sy'n cymryd rhan ar sail y canlyniadau cychwynnol ar yr amser a gytunwyd
cadw a pharchu cyfrinachedd o fewn y gofynion cyfreithiol
gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. yr amgylcheddau mwyaf addas ar gyfer proffilio un sy'n cymryd rhan
damcaniaethau perthnasol a datblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd corfforol a modelau o seicoleg sy'n ymwnud â gwneud proffil o'r rhai sy'n cymryd rhan
egwyddorion proffilio'r sawl sy'n cymryd rhan
pam bod angen i'r un sy'n cymryd rhan ddeall pwysigrwydd proffilio
y strategaethau a'r technegau ar gyfer ymgysylltu a datblygu perthynas effeithiol yn ystod y proffilio
sut i broffilio rhywun sy'n cymryd rhan mewn modd effeithiol
rhychwant eang o offer cyfathrebu, strategaethau a thechnegau addas fydd yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gwrdd â'u hanghenion
dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan
beth yw dull person-ganolog a sut i gymhwyso hyn ar gyfer proffilio rhywun sy'n cymryd rhan
strategaethau a thechnegau ar gyfer cael gwybodaeth berthnasol gan yr un sy'n cymryd rhan
dulliau proffilio ac ymholi wedi eu llunio er mwyn mesur galluoedd gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol, ffisiolegol, ffactorau bioseicolegol, datblygiad ymddygiadol, seicomodurol, cymhellion, technegol, tactegol a chynaliadwyedd
sut a pham i annog y rhai sy'n cymryd rhan i fabwysiadu lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn ystod y dadansoddiad
technegau a strategaethau ar gyfer dadansoddi'n feirniadol y wybodaeth a gasglwyd am y rhai sy'n cymryd rhan yn erbyn nodau, meincnodi a gwerthoedd clodwiw
sut i ddefnyddio lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol
egwyddorion newid ymddygiad
amrywiaeth o ffactorau cymhellol
sut i roi strategaethau ymyrryd ar waith
pwysigrwydd gosod nodau effeithiol
sut i ddatblygu strategaeth effeithiol ar gyfer gosod nodau
pwysigrwydd adolygu proffilio'r rhai sy'n cymryd rhan ar sail y canlyniadau cychwynnol
amserlenni addas ar gyfer gwneud adolygiad effeithiol o broffilio'r rhai sy'n cymryd rhan
amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau, ac atebolrwydd fel mae'n berthnasol i'ch swydd
deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon yma'n cysylltu gyda SKAASPC2, SKAASPC3 a SKAASPC4