Hwyluso a chynnal rhaglenni awyr agored ac antur sy’n gynaladwy, diogel ac effeithiol

URN: SKAAODP3
Sectorau Busnes (Suites): Awyr agored uwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon yma'n disgrifio'r arbenigedd sydd ei angen er mwyn hwyluso a chynnal rhaglenni awyr agored ac antur. Byddwch yn hwyluso datblygiad yr unigolyn ac yn ei arwain drwy raglen awyr agored ac antur. Byddwch hefyd yn rheoli iechyd corfforol a lles emosiynol y rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen a staff sy'n gysylltiedig â hi.

Cymeradwyir y safon yma i ymarferwyr uwch sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio ar eu pennau eu hunain ac yn annibynnol. Cymryd rhan mewn gweithgareddau, lleoliadau uwch neu gyda grwpiau sy'n gofyn am lefelau uwch o wybodaeth, sgil technegol neu ddulliau addysgegol. Gall lleoliadau uwch nodweddiadol gynnwys gweithio gydag oedolion, plant neu bobl ifanc ar gyfer y canlynol:

  • dibenion hamdden
  • profiadau anturus
  • dibenion addysgol
  • anghenion cyfundrefnol
  • datblygu sgiliau awyr agored
  • antur addasol a chynhwysol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adeiladu cyd-berthynas gyda'r sawl sy'n cymryd rhan a sefydlu eich swyddogaeth gyda'r grŵp
  2. sefydlu ffiniau addas er mwyn sicrhau diogelwch
  3. rhyngweithio gyda'r sawl sy'n cymryd rhan yn unol â gofynion y rhaglen, eu hanghenion, nodau ac amcanion
  4. cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill ar gyflymdra, mewn modd ac ar lefel sy'n addas i'w dealltwriaeth, hoffterau ac anghenion
  5. dewis, paratoi, gwirio, cyfarwyddo, a ffitio cyfarpar i'r sawl sy'n cymryd rhan
  6. sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn deall sut i fesur, gwirio, ffitio ac ailffitio'r cyfarpar
  7. gwneud yn siwr bod ffiniau effeithiol, addasadwy a hyblyg yn cael eu sefydlu yn unol â gofynion iechyd a diogelwch a chyfundrefnol.
  8. dewis lleoliadau a mannau cyfarfod addas ar gyfer a gweithgaredd arfaethedig
  9. arddangos a chyfarwyddo'r gweithgaredd i'r sawl sy'n cymryd rhan
  10. monitro a rheoli trothwyon antur a rhai sy'n cymryd rhan er mwyn sicrhau datblygiad.
  11. unigoleiddio a gwahaniaethau cynnal y gweithgaredd er mwyn cwrdd ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan
  12. defnyddio dulliau a strategaethau perthnasol a phriodol er mwyn addysgu, cyfarwyddo, hyfforddi a mentora'r rhai sy'n cymryd rhan fel ag i gyrraedd y canlyniad a ddymunir
  13. darparu adborth mewn amryw o wahanol ffyrdd er mwyn cydymffurfio gyda nodau ac amcanion y gweithgaredd ac anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
  14. paratoi'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyfer yr amodau, digwyddiadau ac amgylchiadau a ddisgwylir ac na ellir mo'u rhagweld
  15. asesu a rheoli problemau cymhleth na ellir mo'u rhagweld sydd wedi eu creu gan amgylchiadau sy'n newid
  16. rheoli'r gweithgaredd a chynnal y cydbwysedd priodol o risg a mantais drwy wneud dyfarniadau a phenderfyniadau effeithiol
  17. monitro ar gyfer dyfodiad perygl corfforol ac emosiynol, gan gynnwys cyflyrau anffafriol, blinder, a gorlwytho
  18. annog y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd lefelau priodol o gyfrifoldeb a datblygu sgiliau addas er mwyn diogelu eu hunain a'u grŵp mewn modd diogel
  19. annog a chynnal ymddygiad cadarnhaol
  20. rhagweld ac ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu niwed
  21. ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau
  22. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i sefydlu eich swyddogaeth eich hun o fewn y grŵp gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau o gyfathrebu

  2. pam ei bod yn bwysig trafod, cytuno ar a deall ffiniau priodol ar gyfer diogelwch ac ymddygiad

  3. y gwahanol ddulliau person-ganolog a'r defnydd ohonynt er mwyn addasu eu hymarfer eu hunain o raglenni awyr agored ac antur
  4. sut i ddewis, paratoi, gwirio, cyfarwyddo, a ffitio cyfarpar ar gyfer unigolion
  5. pam ei bod yn bwysig i'r rhai sy'n cymryd rhan wirio, mesur, ffitio ac ailffitio'r cyfarpar
  6. pwysigrwydd ffiniau diogelwch priodol effeithiol, addasadwy a hyblyg gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch
  7. lleoliadau a mannau cyfarfod addas ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig
  8. pam ei bod yn bwysig gwneud yn siwr bod eich gallu personol eich hun a lefel o sgil sy'n addas ar gyfer y gweithgaredd a'r amgylchedd
  9. sut i gydbwyso eich swyddogaethau a'ch cyfrifoldebau eich hun er mwyn cyflawni'r canlyniad gorau i'r rhai sy'n cymryd rhan
  10. sut I ddefnyddio theorïau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, mewn monitro, hwyluso datblygiad a rhoi arweiniad i'r rhai sy'n cymryd rhan drwy'r rhaglen awyr agored
  11. sut i ddefnyddio amrywiaeth eang o offer cyfathrebu addas, strategaethau a thechnegau fydd yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan I gwrdd â'u hanghenion
  12. sut i ddefnyddio dulliau er mwyn sicrhau cynhwysiad a nodi a goresgyn rhwystrau i gydraddoldeb ac amrywiaeth
  13. sut i ddefnyddio dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i wahanol anghenion a gofynion dysgu
  14. sut i ddewis dulliau a strategaethau sy'n datblygu dull person-ganolog i'ch cyflwyniad, cyfarwyddo, hyfforddi a mentora'r rhai sy'n cymryd rhan
  15. sut i ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addas o roi adborth fydd yn cefnogi anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan
  16. sut i baratoi'r rhai sy'n cymryd rhan i ymdopi ag amgylchiadau a ragwelir ac na ellir mo'u rhagweld, ac i ddatrys problemau wrth eu hunain
  17. sut i ddefnyddio ymchwil a theorïau perthnasol ar ddyfarnu a gwneud penderfyniadau
  18. sut i gytuno gyda rhai sy'n cymryd rhan am eu cyfrifoldeb a chyfrifoldeb eraill ar gyfer adrodd am beryglon, damweiniau a damweiniau a osgowyd o drwch blewyn
  19. sut i asesu a rheoli risg a manteision mewn modd hyblyg ac addasadwy drwy gydol y gweithgaredd 

sut i sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn dilyn ac yn deall y gweithdrefnau argyfwng

  1. pam ei bod yn bwysig monitro a rhagweld dyfodiad perygl corfforol ac emosiynol a chyflyrau anffafriol drwy lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r sefyllfa

  2. sut i ddefnyddio gwahanol dulliau o annog ymddygiad cadarnhaol a delio'n effeithiol ag ymddygiad annerbyniol

  3. sut i ragweld pryd a sut i ymyrryd i rwystro niwed
  4. sut i weithredu ac ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn unol â rheoleiddiadau cyfundrefnol, deddfwriaeth a gweithdrefnau
  5. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon yma’n gysylltiedig â SKAAODP2


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Hyfforddwr Awyr Agored

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

Hwyluso; cynnal; cynaliadwy; awyr agored; rhaglenni antur; uwch ymarferydd