Cefnogi datblygiad gweithgareddau

URN: SKAAL7
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2017

Trosolwg

Mae a wnelo'r safon hon â helpu i ddatblygu'r gweithgareddau rydych chi'n eu harwain, drwy hyrwyddo mwy o gyfranogiad ac ymdrin ag unrhyw gŵynion neu awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau sy'n ymwneud â'r gweithgareddau.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:

  1. hyrwyddo'r gweithgaredd a chyfleoedd i gymryd rhan

  2. ymateb i gŵynion am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir

  3. ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir

Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n gysylltiedig â'r gwaith o arwain gweithgareddau, fel arfer mewn rôl datblygu chwaraeon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Hyrwyddo'r gweithgaredd a chyfleoedd i gymryd rhan**

  1. rhoi gwybodaeth am y gweithgaredd i gyfranogwyr

  2. ymdrin ag ymholiadau am gyfleoedd i gymryd rhan

  3. cyfeirio cyfranogwyr at y gweithgareddau sydd orau iddynt

  4. darparu gwybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  5. cyfeirio ymholiadau nad ydych yn gallu ymdrin â nhw at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad

* *

Ymateb i gŵynion am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir

  1. dilyn gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad wrth:

6.1 ymateb i gŵynion

6.2 cynnal preifatrwydd a chyfrinachedd

6.3 cyfeirio cwynion at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad

* *

Ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir

  1. ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  2. cyfeirio awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Hyrwyddo'r gweithgaredd a chyfleoedd i gymryd rhan**

  1. strwythur a threfniadaeth cenedlaethol y gweithgaredd

  2. y gwasanaethau a'r cynnyrch a gaiff eu cynhyrchu gan y gweithgaredd neu sy'n berthnasol iddo

  3. buddion generig cymryd rhan yn y gweithgaredd

  4. sut i ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau gan gyfranogwyr

  5. yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cyfeirio cyfranogwyr at y gweithgareddau sydd orau iddynt

  6. ffynonellau gwybodaeth ychwanegol am y gweithgaredd y gallwch eu defnyddio

* *

Ymateb i gŵynion am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir

  1. dulliau o ymateb i gŵynion, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  2. beth yn union yw cwyn

  3. sut i gyfeirio cwynion na allwch ymdrin â nhw eich hun at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad

  4. sut i gynnal boddhad y cwsmer yn ystod y broses gŵynion

* *

Ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir

  1. sut i annog cyfranogwyr i wneud awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau

  2. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau

  3. dulliau o ymchwilio i'r awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a sut i'w gwerthuso

  4. y mathau o awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau sydd angen eu cyfeirio at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr* (o leiaf 4)

  1. oedolion

  2. plant a phobl ifanc

  3. unigolion ag anghenion penodol

  4. newydd, di-brofiad

  5. y rheini sydd â pheth profiad

  6. grwpiau

  7. unigolion


Gwybodaeth Cwmpas

Buddion**

  1. ffordd o fyw iach – corfforol a meddyliol

  2. dod yn fwy corfforol weithgar

  3. datblygiad personol a chymdeithasol

* *

Ymholiadau

  1. wyneb yn wyneb

  2. dros y ffôn

  3. negeseuon testun

  4. y cyfryngau cymdeithasol


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu​


Geirfa

Unigolion ag anghenion penodol**

Pobl y gall y chwaraeon a /neu'r gweithgaredd fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau iechyd, pobl sydd dros eu pwysau, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl â gofynion amrywiol neu ddiwylliannol

*
*

*
*

Amcanion

Yr hyn ddylai'r cyfranogwyr ei gyflawni yn ystod y sesiwn

*
*

*
*

Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol

Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, cod ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol

*
*

*
*

Datblygiad personol a chymdeithasol

Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunan-ddibyniaeth, hunan-reolaeth a datrys problemau yn ogystal â'u gallu i weithio ac ymwneud â phobl eraill

*
*

*
*

Unigolyn â chyfrifoldeb

Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol

*
*

*
*

Ffynonellau gwybodaeth

Dylai'r rhain fod yn ddibynadwy a dylid eu defnyddio er mwyn galluogi Arweinydd y Gweithgaredd i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r cyfranogwyr. Weithiau, gellir cyfeirio'r cyfranogwyr at y ffynhonnell wybodaeth er mwyn iddynt wneud eu gwaith ymchwil ei hunain. Gallai ffynonellau gwybodaeth dibynadwy gynnwys y rhain, er enghraifft, manylion cyswllt fel rhifau ffôn a gwefan Corff Llywodraethu Cenedlaethol y gamp neu'r gweithgaredd perthnasol, manylion awdurdod lleol, Partneriaeth Chwaraeon Sirol, gwefan GIG, a manylion Cyrff Proffesiynol eraill

*
*

*
*

Pobl ifanc

Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB11

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cymorth, datblygiad, chwaraeon, gweithgaredd