Gosod, tynnu i lawr a storio cyfarpar gweithgareddau

URN: SKAAL5
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2017

Trosolwg

Mae a wnelo'r safon hon â sicrhau bod gan eich cwsmeriaid – defnyddwyr gwasanaeth, cleientiaid, cyfranogwyr – y cyfarpar sydd arnynt ei angen ar gyfer gweithgareddau. Mae'r safon yn cynnwys gosod, tynnu i lawr a storio cyfarpar yn gywir a diogel.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:

  1. gosod cyfarpar

  2. rhoi'r cyfarpar i'r cwsmeriaid

  3. tynnu cyfarpar i lawr a'i storio ar ôl ei ddefnyddio

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gallu gosod, tynnu i lawr a storio

cyfarpar gan weithio gydag ychydig o oruchwyliaeth yn unig – er enghraifft, cynorthwywyr hamdden, cynorthwywyr adloniadol, hyfforddwyr, staff sy'n gweithio ym maes gweithgareddau awyr agored, neu arweinwyr gweithgareddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gosod cyfarpar**

  1. gwirio cynllun y sesiwn a chael y cyfarpar sydd ei angen

  2. dilyn gweithdrefnau gweithredu safonol, yn unol â gofynion cyfreithiol,

cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, wrth:

2.1 drin a symud cyfarpar

2.2 gosod cyfarpar

  1. rhoi gwybod am unrhyw broblemau wrth osod y cyfarpar yn ei le wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb am y sesiwn

* *

Rhoi'r cyfarpar i'r cwsmeriaid

  1. ymdrin â cheisiadau cyfranogwyr

  2. dilyn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer:

5.1 rhoi offer i gwsmeriaid

5.2 cynghori cyfranogwyr lle dylid storio eiddo personol

5.3 cyfnewid y cyfarpar am eitemau a adawyd gan y cyfranogwyr, ar ôl iddynt ddefnyddio'r cyfarpar

  1. monitro'r cyfarpar pan fydd yn cael ei ddefnyddio

* *

Tynnu cyfarpar i lawr a'i storio ar ôl iddo gael ei ddefnyddio

  1. dilyn y gweithdrefnau gweithredu safonol, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, ar gyfer:

7.1 ymdrin â'r cyfarpar ar ôl ei ddefnyddio

7.2 trin a symud y cyfarpar

7.3 storio'r cyfarpar yn yr ardal storio a nodwyd

  1. archwilio'r cyfarpar a rhoi gwybod am unrhyw broblemau, difrod neu rannau coll wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb am y sesiwn

  2. rhoi unrhyw gyfarpar diffygiol i'r naill ochr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gosod y cyfarpar**

  1. y gofynion iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r cyfarpar rydych yn ei osod, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau ac ethos eich sefydliad yn ymwneud â chynhwysiant

  2. goblygiadau peidio â gwirio a dilyn cod ymarfer eich sefydliad

  3. gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer trin a gosod cyfarpar a pham dylid eu dilyn

  4. wrth bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau wrth osod y cyfarpar

* *

Rhoi'r cyfarpar i gwsmeriaid

  1. ffyrdd o ddelio â cheisiadau gan gyfranogwyr

  2. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer:

6.1 rhoi cyfarpar i gyfranogwyr

6.2 storio eiddo personol cyfranogwyr

6.3 y mathau o eitemau y gall cyfranogwyr eu gadael er mwyn benthyca'r cyfarpar

6.4 cyfnewid y cyfarpar am yr eitemau a adawyd gan y cyfranogwyr, ar ôl i'r cyfarpar gael ei ddefnyddio

  1. sut i fonitro'r cyfarpar pan fydd yn cael ei ddefnyddio

* *

Tynnu cyfarpar i lawr a'i storio ar ôl ei ddefnyddio

  1. gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer tynnu cyfarpar i lawr, ei drin, symud a storio a goblygiadau peidio â dilyn y gweithdrefnau hyn

  2. y mathau o gyfarpar y dylid eu cadw i'r naill ochr oherwydd eu bod yn fudr neu'n wlyb

  3. y lle cywir ar gyfer pob darn o gyfarpar yn eich ardaloedd storio

  4. y mathau o beryglon iechyd a diogelwch y gallech ddod ar eu traws yn yr ardaloedd storio cyfarpar a sut i ymdrin â nhw

  5. sut i wirio a yw'r cyfarpar wedi ei ddifrodi neu os oes darnau ar goll

  6. beth ddylech ei wneud os byddwch yn dod o hyd i ddarnau wedi eu difrodi neu ddarnau coll

  7. sut i gwblhau cofnodion cywir mewn perthynas â'r cyfarpar rydych yn ei osod, tynnu i lawr a'i storio, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr* (o leiaf 4)

  1. oedolion

  2. plant a phobl ifanc

  3. unigolion ag anghenion penodol

  4. newydd, di-brofiad

  5. y rheini sydd â pheth profiad

  6. grwpiau

  7. unigolion


Gwybodaeth Cwmpas

Gweithdrefnau gweithredu safonol**

  1. ar gyfer cyfarpar y gall unigolyn ei osod ar ei ben ei hun

  2. ar gyfer cyfarpar y mae angen mwy nag un i'w osod


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu​


Geirfa

Cyfarpar**

Cyfarpar cymhleth

Cyfarpar sy'n cynnwys sawl darn; er enghraifft, trampolîns, dingîs hwylio, rhwydwaith cyfrifiaduron

Cyfarpar wedi'i bweru

Darn o gyfarpar â ffynhonnell bŵer annibynnol, er enghraifft rigiau pêl-fasged, peiriannau rhedeg, cychod diogelwch

Cyfarpar syml

Cyfarpar sy'n cynnwys un neu ddau ddarn, er enghraifft, rhwydi badminton

*
*

*
*

Cyfarpar y mae angen mwy nag un i'w osod a'i dynnu i lawr

Er enghraifft; cyfarpar gymnasteg, matiau mawr, cyfarpar lled-barhaol – cwrs rhaffau neu lansio cwch â chraen, marquee

*
*

*
*

Cyfarpar y gall unigolyn ei osod a'i dynnu i lawr ei hun

Er enghraifft; cyrtiau badminton neu gwrs cyfeiriannu

*
*

*
*

Unigolyn â chyfrifoldeb

Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol

*
*

*
*

Gosod y cyfarpar

Paratoi'r cyfarpar ar gyfer ei ddefnydd bwriedig; mae hyn yn cynnwys adeiladu (lle bo hynny'n briodol) a gosod y cyfarpar yn unol â'r gofynion

*
*

*
*

Ardaloedd storio

Er enghraift, ystafelloedd storio, loceri, a storfeydd symudol, fel, faniau a

thrêlyrs

*
*

*
*

Gweithdrefnau gweithredu safonol (Gweithdrefnau gweithredu arferol)

Dogfen yw hon sy'n benodol ar gyfer eich sefydliad ac sy'n disgrifio'r gweithdrefnau gweithredu cywir ar gyfer, er enghraifft, cyfarpar penodol,

canllawiau arfer da i'w dilyn, mesurau rheoli safonol, asesiadau risg-budd, diffiniadau o weithgareddau, cylch gwaith yr ardal weithredu, y cymwysterau sy'n ofynnol i arweinydd y gweithgaredd eu cael er mwyn arwain gweithgaredd penodol, cymarebau staffio ac unrhyw gyfarpar diogelwch arbennig sydd ei angen

*
*

*
*

Pobl ifanc

Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC12

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gosod, tynnu i lawr, storio, gweithgaredd, cyfarpar