Adolygu sesiynau gweithgareddau

URN: SKAAL4
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2017

Trosolwg

Mae a wnelo'r safon hon ag adolygu sesiynau gweithgareddau, megis sesiynau gweithgareddau awyr agored, neu sesiynau 'blasu' adloniadol ar gyfer gweithgaredd neu gamp penodol. Gallai'r sesiynau hyn gyflwyno pobl i gamp neu weithgaredd, darparu gweithgareddau adloniadol hwyliog a phleserus, neu gynnig cynnydd mewn camp neu weithgaredd penodol. Gallent helpu pobl i dyfu fel unigolion, drwy ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol. Gallai'r sesiynau hyn hefyd fodloni gofynion cwricwlwm penodol, fel y cwricwlwm cenedlaethol neu gwricwlwm a gynlluniwyd gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol ym maes chwaraeon.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1. adolygu sesiynau gyda chyfranogwyr

  2. gwerthuso a myfyrio ar eich perfformiad eich hun

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n arwain ac adolygu sesiynau chwaraeon, adloniadol, neu weithgareddau awyr agored gydag ychydig o oruchwyliaeth, fel arfer mewn amgylchedd a gaiff ei reoli.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adolygu sesiynau gyda chyfranogwyr**

  1. casglu tystiolaeth i gefnogi'r gwaith o adolygu'r sesiynau

  2. gwerthuso ffyrdd o wella gwaith cynllunio a chyflenwi sesiynau arwain gweithgareddau yn y dyfodol ar gyfer cyfranogwyr ac ar eich cyfer chi

  3. trafod a chytuno ar eich adolygiad gyda'r cyfranogwyr ac eraill

  4. cofnodi canfyddiadau eich adolygiad

  5. trafod eich canfyddiadau gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen

  6. addasu sesiynau yn y dyfodol ar sail canfyddiadau eich adolygiad a thrafodaeth

* *

Gwerthuso a myfyrio ar eich perfformiad eich hun

  1. llunio cynllun gweithredu ar gyfer datblygiad personol

  2. myfyrio ar y ffordd y gwnaethoch gyflenwi'r sesiynau

  3. trafod a chytuno ar eich perfformiad yn erbyn eich cynllun gweithredu gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen

  4. adolygu'r cynllun gweithredu er mwyn rhoi'r newidiadau ar waith i fynd i'r afael â gwelliannau a dysgu pellach​​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adolygu'r sesiynau gyda chyfranogwyr**

  1. y gofynion o ran iechyd a diogelwch, gan gynnwys:

1.1 polisïau, gweithdrefnau ac ethos sefydliadol yn ymwneud â chynhwysiant

1.2 gweithgareddau yng nghylch gorchwyl y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol

1.3 rheoliadau diogelwch a gofynion trwyddedu ar gyfer gweithgareddau perthnasol

  1. goblygiadau peidio â gwirio a dilyn cod ymarfer eich sefydliad

  2. dulliau o gael adborth gan gyfranogwyr a sut i'w ddefnyddio i fesur a gafodd nodau eu cyflawni

  3. pam mae'n bwysig i rannu deilliannau eich adolygiad â'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen

* *

Gwerthuso a myfyrio ar eich perfformiad eich hun

  1. sut i lunio cynllun gweithredu ar gyfer datblygiad personol

  2. beth yw 'ymarfer myfyriol', a'r agweddau y dylid myfyrio arnynt

  3. dulliau a ddefnyddir i gynnal gwerthusiad o sesiynau gweithgareddau

  4. pwrpas trafod a chytuno ar eich perfformiad gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen

  5. sut i ymgorffori newidiadau a argymhellir i'r cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael â gwelliannau a dysgu pellach


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Tystiolaeth* (o leiaf 2)

  1. holiaduron

  2. arsylwadau

  3. ystadegau

  4. adborth gan gyfranogwyr

  5. adborth gan eraill

* *

Sesiynau (o leiaf 2)

  1. un sesiwn

  2. cyfres o sesiynau

  3. cyfres o sesiynau dilynol

* *

Cyfranogwyr (o leiaf 4)

  1. oedolion

  2. plant a phobl ifanc

  3. unigolion ag anghenion penodol

  4. newydd, di-brofiad

  5. y rheini sydd â pheth profiad

  6. grwpiau

  7. unigolion

* *

Cynllun gweithredu

  1. sgan sgiliau personol

  2. SMART


Gwybodaeth Cwmpas

Adborth**

  1. llafar

  2. dieiriau

  3. adeiladol

  4. cadarnhaol

  5. negyddol

  6. ar y dysgu a gyflawnwyd

  7. ar gyflawniadau

* *

Nodau

  1. hwyl ac adloniant

  2. ennill sgiliau

  3. datblygiad personol a chymdeithasol

  4. annog pobl i gymryd rhan yn y dyfodol, parhau i gymryd rhan neu wneud cynnydd yn y gamp neu weithgaredd

* *

Adolygu

  1. yn erbyn y nodau

  2. cynllunio a pharatoi

  3. arwain a rheoli'r grŵp

  4. eich perfformiad eich hun

* *

Agweddau

  1. cynllunio a pharatoi

  2. datblygiad cyfranogwyr

  3. arwain a rheoli'r grŵp

  4. perthynas ag eraill

  5. datblygiad personol


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn​


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu


Geirfa

Yn seiliedig ar y cwricwlwm**

Mewn cyd-destun addysgol, gall hyn gyfeirio at ofynion y cwricwlwm cenedlaethol neu ofynion sy'n ddisgwyliedig gan gorff llywodraethu cenedlaethol y gamp neu'r gweithgaredd

*
*

*
*

Annog pobl i gymryd rhan yn y dyfodol a gwneud cynnydd yn y gweithgaredd

Rhoi cyfle i'r cyfranogwyr barhau i gymryd rhan a gwneud cynnydd pellach yn y gweithgaredd yn ddiweddarach

*
*

*
*

Amgylchedd

Yr ardal lle cynhelir y gweithgareddau; gall fod yn gyfleuster dan do neu amylchedd awyr agored naturiol

*
*

*
*

Unigolion ag anghenion penodol

Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau meddygol, pobl sydd dros eu pwysau,

pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl â gofynion amrywiol neu ddiwylliannol

*
*

*
*

Cyfranogwyr

Y bobl rydych chi'n eu harwain yn ystod y gweithgaredd

*
*

*
*

Datblygiad personol a chymdeithasol

Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunan-ddibynniaeth, hunan-reolaeth a datrys problemau yn ogystal â'u gallu i weithio ac ymwneud â phobl eraill

*
*

*
*

Adloniant

Profiadau hamdden pleserus, hwyliog, a gaiff eu cyflenwi yn aml yng nghyd-destun gwyliau gweithgareddau neu gynllun gwyliau

Unigolyn â chyfrifoldeb

Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol

*
*

*
*

Adolygu

Y broses o fynd dros y sesiwn yng nghwmni'r cyfranogwyr, eu helpu i fyfyrio ar eu profiadau a hwyluso dysgu pellach; dylai'r adolygiad ychwanegu gwerth at y sesiwn a dylid ei gynnal er budd cyfranogwyr; fodd bynnag, gellir defnyddio deilliannau'r adolygiad er mwyn gwella sesiynau yn y dyfodol ar gyfer eraill

*
*

*
*

Ymdeimlad o gyflawniad

Cyfranogwyr yn teimlo'n dda am yr hyn maen nhw wedi ei wneud a'i ddysgu yn ystod y sesiwn

*
*

*
*

Sesiwn

Cyfnod pan fyddwch yn arwain cyfranogwyr mewn gweithgareddau sy'n cynnwys elfen o ymdrech corfforol a/neu sgil/datrys problemau; gall y rhain fod yn chwaraeon cydnabyddedig fel canŵio, hwylio, badminton neu bêl-droed neu gellir eu haddasu ar y pryd i gwrdd ag amcanion penodol. Yng nghyd-destun gweithgareddau awyr agored, byddant bron bob amser yn cynnwys elfen o risg wedi ei reoli; gall gweithgareddau gynnig 'blas' o gamp a fydd yn annog cyfranogwyr i fynd ymlaen i ddatblygu eu perfformiad yng nghyd-destun arwain gweithgareddau

Sesiwn unigol – un sesiwn unigol

Cyfres o sesiynau – mwy nag un sesiwn. Caiff amserlen y sesiwn ei bennu gan y gamp neu weithgaredd dan sylw

Cyfres o sesiynau dilynol – mae hyn yr un fath â chyfres o sesiynau, ond bydd y sesiynau wedi eu cynllunio a'u cyflenwi er mwyn i'r cyfranogwyr gyrraedd nod neu gyflawniad penodol

*
*

*
*

Pobl ifanc

Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD23

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

adolygu, gweithgaredd, sesiynau