Arwain a chynnal sesiynau gweithgareddau

URN: SKAAL3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud ag arwain sesiynau gweithgareddau, fel sesiynau gweithgareddau awyr agored, neu sesiynau 'blasu' gweithgareddau hamdden ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd penodol.

Mae'r sesiynau yn fodd o gyflwyno chwaraeon neu weithgaredd i bobl,

cynnig gweithgareddau â phwrpas sy'n hwyl a difyr, neu yn fodd i unigolion wella mewn chwaraeon neu weithgaredd penodol. Fe allai'r gweithgareddau helpu i bobl ddatblygu fel unigolion gan ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol. Gall y sesiynau hyn hefyd fodloni rhai gofynion ynghlwm â'r maes llafur fel y maes llafur cenedlaethol neu faes llafur wedi ei lunio gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol yn ymwneud â chwaraeon.



Prif ddeilliannau'r safon ydy:

  1. paratoi y rheiny sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiynau
  2. arwain a chynnal sesiynau



Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unigolion sy'n medru paratoi sesiynau gweithgareddau chwaraeon, hamdden neu awyr agored

gyda dim ond mymryn o oruchwyliaeth, mewn amgylchedd wedi ei reoli

yn nodweddiadol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi y rheiny sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiynau**

  1. bodloni gofynion cyfreithiol a'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadol

drwy gydol y sesiynau

  1. egluro nodau a chynnwys y sesiynau i bawb sy'n cymryd rhan
  2. asesu parodrwydd y rheiny sy'n cymryd rhan i gymryd rhan yn y sesiynau

Arwain a chynnal sesiynau

  1. cynnal gweithgareddau i gynhesu yn ymwneud a nodau y sesiynau i'r rheiny sy'n cymryd rhan
  2. cynnig eglurhad a dangos y gweithgareddau i'r rheiny sy'n cymryd rhan
  3. gofalu eich bod yn gofalu am ddiogelwch y rheiny sy'n cymryd rhan ac eraill drwy gydol y sesiynau
  4. gwirio fod y rheiny sy'n cymryd rhan yn dilyn eich cyfarwyddiadau drwy gydol y sesiynau
  5. addasu'ch sesiynau i fodloni anghenion unigol y rheiny sy'n cymryd rhan
  6. ymateb i unrhyw beryglon newydd yn ystod y sesiynau yn unol â'r gofynion cyfreithiol a'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadol
  7. cyfeirio unrhyw beryglon na allwch chi fynd i'r afael â nhw at y person cyfrifol ar gyfer y cynllun.
  8. cynnig adborth i'r rheiny sy'n cymryd rhan drwy gydol y sesiynau
  9. ystyried yr adborth byddwch yn ei dderbyn gan y rheiny sy'n cymryd rhan
  10. cloi'r sesiynau fel sy'n gweddu i'r rheiny sy'n cymryd rhan
  11. bodloni eich polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi'r

sesiynau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi y rheiny sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiynau

  1. y gofynion iechyd a diogelwch I gynnwys:

1.1 polisïau, gweithdrefnau ac ethos sefydliadol ar gyfer cynhwysiant

1.2 gweithgareddau yng nghwmpas y Corff Llywodraethu Cenedlaethol

perthnasol

1.3 rheoleiddiadau diogelwch a gofynion trwyddedu ar gyfer

gweithgareddau perthnasol

  1. canlyniadau peidio â gwirio eich cod ymarfer trefniadol a chydymffurfio gydag o
  2. y cynllun ar gyfer y sesiynau y byddwch yn eu harwain a'i nodau ac amcanion
  3. effaith posib y gweithgareddau rydych yn eu harwain ar yr amgylchedd

a sut i leihau'r effaith

  1. sut i ddod i wybod am brofiad blaenorol y rheiny sy'n cymryd rhan

Arwain a chynnal sesiynau

  1. dulliau cynhesu, yn gysylltiedig gyda nodau'r sesiwn
  2. technegau cyfathrebu gallwch eu defnyddio'n effeithiol gydag unigolion

a grwpiau fel ei gilydd er mwyn egluro a dangos prif bwyntiau

  1. sut i gynnig cyfleoedd i'r rheiny sy'n cymryd rhan i ofyn cwestiynau
  2. dulliau asesu risgiau yn ystod y sesiynau a sut i addasu'ch cynlluniau

mewn ymateb

  1. yr ystod o risgiau newydd y byddai'n golygu gorfod addasu'ch cynlluniau er mwyn bodloni

anghenion y rheiny sy'n cymryd rhan

  1. dulliau o gynnig adborth i'r rheiny sy'n cymryd rhan er mwyn cynnig cefnogaeth a'u hannog, heb eu bod yn teimlo o dan bwysau gormodol.
  2. dulliau o dderbyn adborth gan y rheiny sy'n cymryd rhan a sut i ddefnyddio hyn yn adeiladol
  3. dulliau arwain gweithgareddau y gallwch eu defnyddio yn ystod y sesiynau
  4. y lefel o oruchwyliaeth sy'n addas i wahanol weithgareddau a'r mathau o bobl sy'n cymryd rhan
  5. dulliau cloi'r sesiynau gweithgareddau
  6. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi'r sesiynau
  7. dulliau gweithio sy'n annog cyfathrebu effeithiol a rhyngweithio rhwng y rheiny sy'n cymryd rhan
  8. mathau o wahaniaethu ac ymddygiad annerbyniol y mae angen

mynd i'r afael â nhw a pham


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Sesiynau* (lleiafswm o 2)

  1. sesiwn unigol
  2. cyfres o sesiynau
  3. cyfres o sesiynau cynyddol

Nodau (lleiafswm o 2)

  1. hwyl a hamdden
  2. yn gysylltiedig â'r maes llafur
  3. datblygiad personol a chymdeithasol
  4. annog cymryd rhan yn y dyfodol, ymlyniad neu gynnydd yn ymwneud

â'r chwaraeon neu weithgaredd



Y rheiny sy'n cymryd rhan (lleiafswm o 4)

  1. oedolion
  2. plant a phobl ifanc
  3. unigolion gydag anghenion penodol
  4. newydd heb unrhyw brofiad
  5. rheiny gyda mymryn o brofiad
  6. grwpiau
  7. unigolion

Adborth (lleiafswm o 4)

  1. ar lafar
  2. ddim ar lafar
  3. adeiladol
  4. cadarnhaol
  5. rheoli ymddygiad annerbyniol
  6. gwirio dealltwriaeth y rheiny sy'n cymryd rhan

Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau arwain gweithgareddau**

  1. awdurdodaidd
  2. democrataidd
  3. laissez-faire

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.

Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith
  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol

Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn

Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn

Sgiliau

​Mae'r sgiliau canlynol yn sail i ddarparu'r gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.​

Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
  7. bod yn hyderus a gwydn
  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD22

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arwain, gweithgaredd, cynnal, sesiwn