Cynllunio a pharatoi sesiynau gweithgareddau

URN: SKAAL2
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrin â chynllunio ar gyfer sesiynau gweithgareddau, fel sesiynau gweithgareddau awyr agored, neu sesiynau 'blasu' gweithgareddau hamdden ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd penodol. Mae'r sesiynau yn fodd o gyflwyno chwaraeon neu weithgaredd i bobl, cynnig gweithgareddau â phwrpas sy'n hwyl a difyr, neu yn fodd i unigolion wella mewn chwaraeon neu weithgaredd penodol. Fe allai'r gweithgareddau helpu i bobl ddatblygu fel unigolion gan ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol. Gall y sesiynau hyn hefyd fodloni rhai gofynion ynghlwm â'r maes llafur fel y maes llafur cenedlaethol neu faes llafur wedi ei lunio gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol yn ymwneud â chwaraeon.


**


**

Prif ddeilliannau'r safon ydy:**

  1. cynllunio sesiynau gweithgareddau

  2. paratoi sesiynau gweithgareddau

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unigolion sy'n medru paratoi sesiynau gweithgareddau chwaraeon, hamdden neu awyr agored gyda dim ond mymryn o oruchwyliaeth, yn nodweddiadol mewn amgylchedd wedi ei reoli.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio sesiynau gweithgareddau**

  1. casglu a chofnodi'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn llunio cynllun ar gyfer y sesiynau

  2. defnyddio'r wybodaeth wedi ei gasglu i adnabod anghenion y rheiny sy'n cymryd rhan

  3. cofnodi'r nodau ac amcanion ar gyfer y sesiynau

  4. gwirio fod cynllun y sesiynau  yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ac eich polisïau a gweithdrefnau trefniadol

  5. cytuno ar y cynllun ar gyfer y sesiynau gyda'r person sy'n gyfrifol am y cynllun.


**


**

Paratoi sesiynau gweithgareddau**

  1. gwirio fod gan y rheiny sy'n cymryd rhan yr adnoddau perthnasol ar gael ar gyfer y sesiynau wedi eu trefnu

  2. gwirio fod yr adnoddau a chyfleusterau yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ac eich polisïau, gweithdrefnau a chodau ymarfer trefniadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio sesiynau gweithgareddau**

  1. sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer sesiynau a beth ddylai'r sesiynau ymdrin ag o

  2. sut i ddatblygu cynlluniau wrth gefn pan fo sefyllfaoedd annisgwyl

  3. y gofynion yn sgil iechyd a diogelwch, sef :

3.1 polisïau, gweithdrefnau ac ethos trefniadol ar gyfer

cynhwysiant

3.2 gweithgareddau yng nghwmpas y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol

3.3 rheoleiddiadau diogelwch a gofynion trwyddedu ar gyfer

gweithgareddau perthnasol

  1. canlyniadau peidio gwirio a chydymffurfio gyda'ch cod ymarfer

trefniadol

  1. yr angen am gyfrinachedd wrth drosglwyddo gwybodaeth berthnasol am y rheiny sy'n cymryd rhan

  2. dulliau er mwyn adnabod anghenion y rheiny sy'n cymryd rhan

  3. y mathau o anghenion unigol posib y rheiny sy'n cymryd rhan a sut i addasu'ch cynllun, eich hun a'r adnoddau a chyfleusterau er mwyn bodloni'r anghenion hyn

  4. sut i ddatblygu a gwirio nodau, amcanion, trefniant ac amseriadau ar gyfer sesiwn

  5. pam ei fod yn bwysig i'r person sy'n gyfrifol am y cynllun gymeradwyo eich cynllun ar gyfer y sesiwn


**


**

Paratoi sesiynau gweithgareddau**

  1. y mathau o adnoddau a'r wisg addas i'r rheiny sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiynau wedi eu trefnu

  2. sut i wirio cofnodion cynnal a chadw er mwyn gofalu fod adnoddau a chyfleusterau yn bodloni'r gofynion cyfreithiol a'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cynllun**

  1. nodau a strwythur y sesiwn

  2. adnoddau a chyfleusterau sydd ar gael

  3. cyd-destun lle caiff gweithgareddau eu cynnal

  4. anghenion unigol y rheiny sy'n cymryd rhan

  5. addasiadau a newidiadau wedi eu cynllunio

*
*

*
*

Sesiynau (lleiafswm o 2)

  1. sesiwn unigol

  2. cyfres o sesiynau

  3. cyfres o sesiynau cynyddol

*
*

*
*

Y rheiny sy'n cymryd rhan (lleiafswm o 4)

  1. oedolion

  2. plant a phobl ifanc

  3. unigolion gydag anghenion penodol

  4. unigolion newydd heb unrhyw brofiad

  5. rheiny gyda mymryn o brofiad

  6. grwpiau

  7. unigolion

*
*

*
*

Nodau (lleiafswm o 2)

  1. hwyl a hamdden

  2. yn gysylltiedig â'r maes llafur

  3. datblygiad personol a chymdeithasol

  4. annog cymryd rhan yn y dyfodol, ymlyniad neu gynnydd yn ymwneud

â'r chwaraeon neu weithgaredd


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu


Geirfa

Cyd-destun lle caiff gweithgareddau eu cynnal**

Gall y rhain fod, er enghraifft yn yr awyr agored neu'n ymwneud ag addysg neu'r gymuned

*
*

*
*

Yn ymwneud â'r maes llafur

Mewn cyd-destun addysg, mae'n bosib fod hyn yn cyfeirio at ofynion y maes llafur cenedlaethol neu ofynion Corff Llywodraethu Cenedlaethol y chwaraeon neu weithgaredd

*
*

*
*

Annog cymryd rhan yn y dyfodol, ymlyniad a neu gynnydd yn ymwneud **â'r chwaraeon neu weithgaredd

Cynnig cyfle i'r rheiny sy'n cymryd rhan i ddilyn y gweithgaredd ymhellach yn hwyrach ymlaen

*
*

*
*

Gofynion iechyd a diogelwch

Y rheiny sy'n ofynnol o ran y gyfraith, codau ymarfer diwydiannau, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (lle mae Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn ymdrîn â'r gweithgaredd) a'r rheiny ynghlwm â'ch mudiad chi.

*
*

*
*

Unigolion gydag anghenion penodol

Pobl lle mae'n bosib y bydd y sesiwn yn fwy heriol nag arferol iddyn nhw, fel enghraifft, pobl gyda chyflyrau iechyd, pobl sydd dros eu pwysau, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, merched beichiog, pobl anabl a phobl gyda gofynion amrywiol neu ddiwylliannol

*
*

*
*

Amcanion

Beth ddylai'r rheiny sy'n cymryd rhan ei gyflawni yn ystod y sesiwn

*
*

*
*

Polisïau a gweithdrefnau trefniadol

Yn ychwanegol i'r gofynion cyfreithiol statudol, dyma'r gweithdrefnau gwaith wedi eu cytuno arnyn nhw sydd yn rhaid cydymffurfio gyda nhw, er enghraifft, yn berthnasol gydag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, mynd i'r afael â chwynion, cyfrinachedd, lefelau o gyfrifoldeb, diogelu, cod ymarfer ynghylch cymarebau goruchwylio a'r weithred briodol pan na fydd Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn cynnal gweithgaredd

*
*

*
*

Y rheiny sy'n cymryd rhan

Y bobl rydych yn eu harwain yn ystod y gweithgaredd

*
*

*
*

Datblygiad personol a chymdeithasol

Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol eu hunain, mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunanddibyniaeth, hunan-reoli a datrys problemau ynghyd â'u gallu i gydweithio a chysylltu gyda phobl eraill

*
*

*
*

Hamdden

Profiadau hamdden hwyl a phleserus, yn aml yng nghyd-destun

gwyliau gweithgareddau neu gynllun gwyliau

*
*

*
*

Person cyfrifol

Y person dynodedig, fel goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr dyletswydd neu arweinydd rhaglen. Mae llawer o dermau i ddisgrifio swydd y person cyfrifol a bydd yn amrywio yn dibynnu ar eich mudiad penodol.

*
*

*
*

Sesiwn

Cyfnod lle byddwch yn arwain y rheiny sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda rhyw elfen o ymdrech corfforol a/neu sgiliau/datrys problemau. Mae'n bosib y bydd y gweithgareddau yn chwaraeon cydnabyddedig fel canŵio, hwylio, badminton neu bêl droed neu mae'n bosib y cân nhw eu haddasu er mwyn bodloni amcanion penodol. Yng nghyd-destun yr awyr agored, byddan nhw heb os bron yn ymdrin ag elfen o risg wedi ei reoli. Mae'n bosib y bydd y gweithgareddau yn cynnig 'blas' o chwaraeon sy'n annog rhywun sy'n cymryd rhan i fynd rhagddi i ddatblygu eu perfformiad mewn cyd-destun arwain gweithgaredd 

Sesiwn unigol - mae hon yn sesiwn unigol unigryw

Cyfres o sesiynau - bydd mwy nag un sesiwn. Caiff graddfa amser y

sesiwn ei bennu gan y chwaraeon neu weithgaredd unigol

Cyfres o sesiynau cynyddol - mae hyn yr un fath â chyfres o sesiynau, ond caiff ei drefnu a'i gynnal er mwyn gofalu fod y rheiny sy'n cymryd rhan yn mynd rhagddi i gyflawni amcan neu nod penodol.

*
*

*
*

Pobl Ifanc

Mae hyn yn gyffredinol yn golygu pobl o dan 18 oed, fodd bynnag, cofiwch gyfeirio at eich polisïau trefniadol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD21

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

paratoi, cynllunio, gweithgaredd, sesiynau