Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol cyfranogwyr

URN: SKAAL12
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2017

Trosolwg

Mae a wnelo'r safon hon â galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau strwythuredig, fel arfer mewn lleoliad awyr agored. Gallai pwrpas y gweithgareddau hynny fod er mwyn helpu oedolion a phobl ifanc, a'r rheini sydd ag anghenion penodol i ddatblygu a gwella eu sgiliau cymdeithasol. Gallai hefyd eu galluogi i wella eu sgiliau personol a rhyngbersonol, annog datblygu mwy o hunan-ymwybyddiaeth a bodloni gofynion datblygu ar gyfer gwella dinasyddiaeth neu waith tîm.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:

  1. paratoi ar gyfer cyfleoedd datblygu

  2. hwyluso cyfleoedd datblygu

  3. cwblhau ac adolygu cyfleoedd datblygu

Mae'r safon hon ar gyfer cyfranogwyr sy'n debygol o fod yn gweithio ym maes datblygiad chwaraeon, y diwydiant awyr agored neu weithgareddau. Fe'i bwriedir ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio mewn amgylchedd a reolir yn dynn ac sy'n cynnal sesiynau fel rhan o raglen a luniwyd ac a gaiff ei goruchwylio gan unigolyn â chyfrifoldeb. Rhaid eich bod wedi derbyn hyfforddiant a chael profiad addas yn y gweithgareddau rydych yn eu harwain ac mewn gwaith datblygiad personol a chymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi ar gyfer cyfleoedd datblygu**

  1. gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb, trafod beth yw gobeithion, pryderon ac anghenion datblygu y cyfranogwyr a chynllunio ar eu cyfer wrth baratoi'r cyfle datblygu

  2. paratoi'r cyfle datblygu yn unol â'r adnoddau sydd ar gael, polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, gofynion cyfreithiol a lefel eich cymhwysedd technegol a rhyngbersonol eich hun

  3. asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyfle datblygu a gynlluniwyd a gwneud yn siŵr bod paramedrau diogelwch boddhaol yn eu lle

  4. cynllunio a chytuno ar bob agwedd ar y cyfle datblygu gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen

  5. paratoi cyfranogwyr ar gyfer y cyfle datblygu

* *

Hwyluso cyfleoedd datblygu

  1. annog cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain a datblygiad eu sgiliau yn ystod y cyfle datblygu

  2. annog yr holl gyfranogwyr i ymuno â'r gweithgareddau gwaith tîm er mwyn cyflawni amcanion y cyfle datblygu

  3. defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol o fewn y grŵp

  4. defnyddio digwyddiadau heb eu cynllunio yn ystod y cyfle datblygu mewn ffordd gadarnhaol

  5. annog cyfranogwyr i fyfyrio eu hunain ar adegau priodol yn ystod ac ar ôl y cyfle datblygu

  6. annog cyfranogwyr i ddatrys problemau drostynt eu hunain yn ystod y cyfle datblygu

Cwblhau ac adolygu'r cyfleoedd datblygu

  1. esbonio eich arsylwadau am yr hyn ddigwyddodd yn ystod y cyfle datblygu wrth y cyfranogwyr

  2. annog cyfranogwyr i rannu eu harsylwadau a'u safbwyntiau eu hunain gyda chi a gweddill y grŵp

  3. helpu cyfranogwyr i adnabod eu sgiliau eu hunain a sgiliau ei gilydd

  4. annog cyfranogwyr i ystyried a chytuno sut gellid rhoi eu dysgu a datblygiad sgiliau ar waith mewn agweddau eraill ar eu bywydau

  5. helpu cyfranogwyr i nodi sut gellir defnyddio eu profiadau dysgu yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi ar gyfer cyfleoedd datblygu**

  1. gwerth y cyfleoedd datblygiad personol a chymdeithasol i'r cyfranogwyr a'r mathau o brofiadau a gweithgareddau sy'n annog hyn

  2. sut i nodi amcanion y cyfle datblygu

  3. sut i gasglu gwybodaeth am obeithion, pryderon ac anghenion datblygu y cyfranogwyr a phwysigrwydd gwybod amdanynt wrth gynllunio'r cyfle datblygu

  4. cyfyngiadau eich cymhwysedd technegol a rhyngbersonol chi a pham mae'n bwysig ystyried y rhain wrth gynllunio'r cyfle datblygu

  5. adnoddau'r sefydliad, cyfyngiadau a pharamedrau diogelwch ar gyfer y cyfleoedd datblygu rydych yn eu cynnig, gan gynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol perthnasol megis rhai y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, lle bônt yn gymwys

  6. pwysigrwydd gwirio manylion y cyfle datblygu gydag unigolyn â chyfrifoldeb a/neu'r cleient sy'n gyfrifol am y grŵp a phwy yw'r unigolyn hwnnw

  7. dulliau o baratoi cyfranogwyr yn drylwyr ar gyfer cyfle datblygu

* *

Hwyluso cyfleoedd datblygu

  1. ystyr 'dysgu sy'n canolbwyntio ar y cleient'

  2. dulliau o annog gwaith tîm effeithiol a chyfathrebu a'u pwysigrwydd mewn cyfleoedd datblygiad personol a chymdeithasol

  3. gwerth digwyddiadau heb eu cynllunio yn ystod cyfle datblygu a pha fathau o ddigwyddiadau heb eu cynllunio all ddigwydd y gellid eu defnyddio

  4. pam mae'n bwysig i gyfranogwyr gael cyfle i fyfyrio'n bersonol yn ystod ac ar ôl cyfle datblygu a sut i annog a hwyluso hyn

  5. sut i annog a hwyluso cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau eu hunain a phwysigrwydd hyn wrth ddatblygu sgiliau

* *

Cwblhau ac adolygu cyfleoedd datblygu

  1. gwerth a phwrpas adolygiadau a myfyrio unigol yn dilyn cyfleoedd datblygu

  2. dulliau o rannu ac esbonio eich arsylwadau gyda chyfranogwyr am yr hyn ddigwyddodd yn ystod y cyfle datblygu

  3. dulliau o annog cyfranogwyr unigol i adnabod eu sgiliau eu hunain a sgiliau aelodau eraill y grŵp

  4. sut i annog cyfranogwyr i roi adborth i'r grŵp ac i chi a phwysigrwydd gwneud hyn

  5. y cysyniad a phwysigrwydd bod cyfranogwyr yn trosglwyddo'r profiadau dysgu i sefyllfaoedd yn y dyfodol, mewn agweddau eraill ar eu bywydau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr* (o leiaf 4)

  1. oedolion

  2. plant a phobl ifanc

  3. unigolion ag anghenion penodol

  4. newydd, di-brofiad

  5. y rheini â pheth profiad

  6. grwpiau

  7. unigolion


Gwybodaeth Cwmpas

Paramedrau diogelwch**

  1. ffiniau corfforol

  2. meini prawf ar gyfer rhoi'r gorau i'r cyfle datblygu

  3. rheolau diogelwch sylfaenol y cyfranogwyr

  4. canllawiau perthnasol ar gyfer gweithgareddau o'r math hwn


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu​


Geirfa

Amcanion**

Daw'r rhain o amcanion cyffredinol y rhaglen a luniwyd gan gydweithiwr ar lefel uwch

*
*

*
*

Deilliannau a ddymunir

Yr hyn ddylai'r cyfle datblygu ei gyflawni ar ran y cyfranogwyr ar ddiwedd y cyfle datblygu neu phan fyddant yn dychwelyd i'w bywyd arferol

*
*

*
*

Anghenion datblygu

Sgiliau personol a chymdeithasol yr unigolyn a/neu'r grŵp a nodwyd gan y cleient a/neu'r darparwr fel y rhai sydd arnynt angen eu datblygu

*
*

*
*

Cyfleoedd datblygu

Gweithgareddau strwythuredig, sydd fel arfer yn cynnwys elfennau o risg, her, gwaith tîm a datrys problemau, sy'n rhoi cyfle i'r cyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol eu hunain a meddwl am sut y gallent drosglwyddo'r dysgu hwn i agweddau eraill ar eu bywydau; darperir cyfleoedd datblygu yn aml i bobl ifanc ar gynlluniau hyfforddi a rheolwyr a gweithwyr eraill ar raglenni datblygu

*
*

*
*

Sgiliau rhyngbersonol

Y sgiliau sy'n ei gwneud yn bosibl i gael perthynas effeithiol ag eraill, er enghraifft, sgiliau cyfathrebu, empathi a sensitifrwydd, gwaith tîm, annog eraill a rhannu, ac ati.

*
*

*
*

Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol

Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, codau ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol

*
*

*
*

Pobl ag anghenion penodol

Pobl y gall y gweithgaredd fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau meddygol, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, pobl â hunan-barch isel; ar gyfer yr uned hon gallai `pobl ag anghenion penodol' gynnwys cyfranogwyr anabl

*
*

*
*

Datblygiad personol a chymdeithasol

Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol eu hunain mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunan-ddibyniaeth, hunan-reolaeth a datrys problemau, yn ogystal â'u gallu i weithio ac ymwneud â phobl eraill

*
*

*
*

Sgiliau personol

Er enghraifft, arweinyddiaeth, hunan-ddibyniaeth, hunan-barch, hunan-hyder

*
*

*
*

Canllawiau perthnasol

Er enghraifft, canllawiau sefydliadol, deddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol, gan gynnwys rhai y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, lle bônt yn gymwys

*
*

*
*

Myfyrio

Y broses o feddwl mewn ffordd feirniadol am brofiad a nodi'r gwersi a ddysgwyd

*
*

*
*

Unigolyn â chyfrifoldeb

Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol

*
*

*
*

Adolygiad

Y broses o ailedrych ar y gweithgaredd gyda'r cyfranogwyr a'u galluogi i fyfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni a'i ddysgu; dylai'r adolygiad nodi profiadau cadarnhaol a negyddol; wrth adolygu cyfleoedd datblygiad personol a chymdeithasol, mae'n bwysig annog y cyfranogwyr i gydnabod eu hunan-werth a hunan-werth eraill a gofyn iddynt ystyried sut gallant drosglwyddo'r hyn a ddysgwyd i agweddau eraill ar eu bywydau

*
*

*
*

Hunan-ymwybyddiaeth

Ymwybyddiaeth y cyfranogwyr o'u hunain a'u heffaith ar eraill

*
*

*
*

Pobl ifanc

Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD31

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfrannu, cyfranogwyr, personol, cymdeithasol, datblygiad