Cyfrannu at gadwraeth amgylcheddol

URN: SKAAL11
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2017

Trosolwg

Mae a wnelo'r safon hon â helpu eich sefydliad i ofalu am yr amgylchedd mewn ffordd gyfrifol. Mae'r safon yn ymdrin ag atal llygredd, lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, cadwraeth adnoddau egni a dŵr a rheoli ardaloedd yn yr awyr agored er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â rhoi gwybodaeth a chyngor i gyfranogwyr ar faterion yn ymwneud â chadwraeth a'r amgylchedd naturiol.

* *

Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:

  1. cyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy

  2. cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffordd ecolegol

  3. darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol

Mae'r safon hon ar gyfer staff gweithredol sy'n gweithio ym maes hamdden ac adloniant gweithredol lle mae cyfrifoldebau am gadwraeth amgylcheddol yn rhan o'u rôl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy**

  1. cytuno ar ffyrdd y gallwch gyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad

  2. gwneud eich cyfraniad at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy

  3. awgrymu ffyrdd o wella rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy i'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad

Cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffordd ecolegol

  1. cytuno sut byddwch yn cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffyrdd sy'n fuddiol neu sy'n atal niwed i'r ardal gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad

  2. gwneud eich cyfraniad at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffyrdd sy'n fuddiol neu sy'n atal niwed i'r ardal

  3. awgrymu ffyrdd o reoli ardaloedd yn yr awyr agored a fydd yn fuddiol neu a fydd yn atal niwed i'r ardal

* *

Darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol

  1. cytuno ar ffyrdd y gallwch gyfrannu at ddarparu gwybodaeth a chyngor ar

gadwraeth amgylcheddol gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad

  1. darparu gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr â'r safle mewn fformatau addas

  2. esbonio'r rhesymau dros yr wybodaeth a'r cyngor rydych yn eu darparu i ymwelwyr â'r safle

  3. awgrymu wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb ffyrdd o wella'r wybodaeth a'r cyngor mae eich sefydliad yn eu darparu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy**

  1. beth a olygir gan gadwraeth amgylcheddol, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth

  2. pam mae cadwraeth amgylcheddol yn bwysig i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo

  3. cynllun rheoli amgylcheddol eich sefydliad a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â chadwraeth amgylcheddol a chynaliadwyedd

  4. sut i wneud awgrymiadau er mwyn gwella cadwraeth amgylcheddol yn eich sefydliad a pam mae'n bwysig ceisio gwella'n barhaus

  5. cadwraeth egni a'r defnydd o `drafnidiaeth werdd'

  6. pam mae'n bwysig defnyddio adnoddau a gynhyrchir yn lleol lle bo hynny'n bosibl

* *

Cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffordd ecolegol

  1. sut i reoli ardaloedd yn yr awyr agored er mwyn cynnal a datblygu'r amgylchedd naturiol, a goblygiadau peidio â gwneud hynny

  2. asiantaethau a sefydliadau eraill a all ddarparu *gwybodaeth a chyngor *ar gadwraeth amgylcheddol

  3. y prif fathau o fywyd gwyllt lleol ar eich safle, yn benodol y rheini sy'n agored i niwed ac sydd arnynt angen eu hybu a'u hamddiffyn, a sut i'w hybu a'u hamddiffyn

  4. y mathau o blanhigion a bywyd gwyllt y dylech osgoi eu cyflwyno a pham

  5. pam gallai fod yn angenrheidiol i reoli a /neu hybu rhai mathau o fywyd gwyllt lleol a dulliau derbyniol o wneud hyn

  6. y gwahaniaeth rhwng planhigion a gaiff eu croesawu a phlanhigion digroeso a sut i reoli planhigion digroeso

  7. sut i ddewis a defnyddio cemegion (chwynladdwyr a phlaleiddiaid) mewn ffordd nad yw'n andwyol i'r amgylchedd naturiol a'r gofynion ar gyfer tystysgrifau defnyddio cemegion priodol

* *

Darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol

  1. pam mae'n bwysig darparu gwybodaeth a chyngor ar yr amgylchedd lleol a dulliau o'i warchod i ymwelwyr a chydweithwyr

  2. y fformatau sydd ar gael ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor

  3. pam mae'n bwysig rhoi gwybod i ymwelwyr am weithdrefnau ar gyfer rheoli adnoddau mewn ffordd gyfrifol a'r rhesymau dros hyn

  4. sut i gynnwys ymwelwyr mewn gweithgareddau sy'n hybu a datblygu eu dealltwriaeth o gadwraeth amgylcheddol

  5. y mathau o drafnidiaeth `cyfeillgar i'r amgylchedd' y dylech annog ymwelwyr i'w defnyddio a sut i'w hannog


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy**

  1. atal llygredd

  2. rheoli gwastraff

  3. cadwraeth egni

* *

Rheoli ardaloedd awyr agored

  1. cadw ac amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd presennol

  2. ymdrin â thoriadau a gwastraff garddwriaethol eraill yn gywir

* *

Gwybodaeth a chyngor (o leiaf 3)

  1. rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy

  2. cynnal a datblygu'r amgylchedd naturiol

  3. llygredd sŵn a goleuni

  4. materion yn ymwneud â thrafnidiaeth `werdd'

  5. prynu cynnyrch lleol, tymhorol

* *

Fformatau (o leiaf 2)

  1. byrddau gwybodaeth/dehongli

  2. taflenni

  3. llafar

  4. cynnwys ymwelwyr mewn gweithgareddau amgylcheddol


Gwybodaeth Cwmpas

Rheoli ardaloedd awyr agored**

  1. cadwraeth ac amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd presennol

  2. ymdrin â thoriadau a gwastraff garddwriaethol arall yn gywir

* *

Amgylchedd naturiol

  1. terfynau, borderi a pharthau clustogi

  2. gerddi ffurfiol

  3. glaswelltir, gweundir, rhostir ac ardaloedd agored eraill

  4. coed a choetiroedd

  5. afonydd, nentydd, pyllau a gwlyptiroedd

* *

Gwybodaeth a chyngor

  1. rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy

  2. cynnal a datblygu'r amgylchedd naturiol

  3. llygredd sŵn a goleuni

  4. materion yn ymwneud â thrafnidiaeth `werdd'

  5. prynu cynnyrch lleol, tymhorol

* *

Fformatau

  1. byrddau gwybodaeth/dehongli

  2. taflenni

  3. llafar

  4. cynnwys ymwelwyr mewn gweithgareddau amgylcheddol


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu


Geirfa

Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol**

Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, codau ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol

*
*

*
*

Unigolyn â chyfrifoldeb

Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC239

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cadwraeth, cynaliadwyedd, amgylchedd, adnoddau