Torri gwallt naturiol gan ddefnyddio technegau sylfaenol

URN: SKAAH4
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â thorri gwallt a chudynnau math Affricanaidd naturiol gan ddefnyddio technegau toriad clwb, llawrydd, cliper tros grib a siswrn tros grib. Mae'n ofynnol ichi ddefnyddio'r technegau hyn er mwyn creu haenau unffurf, graddoliadau byr a hir a thoriadau un hyd.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth dorri gwallt

  2. torri gwallt er mwyn cyflawni amrywiaeth gwahanol olwg


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth dorri gwallt * *


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. cadw croen eich cleient yn glir o dorion gwallt gormodol trwy gydol y gwasanaeth

  5. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer

8.2 lleihau'r risg o draws-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

8.4 sicrhau defnydd adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

8.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

  3. gwaredu deunyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Torri gwallt er mwyn cyflawni amrywiaeth gwahanol olwg

  1. sefydlu'r ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth

  2. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn dechrau ar y torri

  3. cribo gwallt eich cleient allan mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer cyflawni'r olwg a ddymunir, lle bo angen  

  4. creu a dilyn y canllaw(iau) torri canlynol er mwyn cyflawni'r olwg angenrheidiol 

  5. rheoli eich offer a chyfarpar er mwyn lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a chroen y pen, anesmwythdra i'ch cleient ac er mwyn cyflawni'r olwg a ddymunir

  6. defnyddio technegau torri sy'n addas i fath gwallt eich cleient ac er mwyn cyflawni'r olwg a ddymunir

  7. addasu eich technegau torri er mwyn rhoi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  8. newid eich safle o amgylch y cleient mewn ffordd ag i'ch helpu i sicrhau cywirdeb y toriad 

  9. croeswirio'r toriad er mwyn sefydlu dosbarthiad manwl gywir pwysau, cydbwysedd a siâp

  10. creu siapiau llinell y gwddf sy'n fanwl gywir ac yn rhoi ystyriaeth i linell naturiol y gwallt

  11. ymgynghori gyda'ch cleient yn ystod y broses torri er mwyn cadarnhau'r olwg a ddymunir

  12. cymryd golwg terfynol ar y gwallt er mwyn sicrhau bod y toriad gorffenedig yn gywir

  13. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon gyda'r toriad terfynol

  14. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt

*
 *

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  4. pam ei bod mor bwysig i ddiogelu cleientiaid rhag torion gwallt

  5. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  7. sut i ddefnyddio a chynnal offer torri'n gywir 

  8. pam ei bod mor bwysig osgoi traws-heintiad a thraws-bla

  9. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  10. pam ei bod mor i osod eich offer a chyfarpar **o fewn cyrraedd rhwydd i'w defnyddio

  11. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn

  13. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  14. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  15. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  16. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  17. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer y gwahanol fathau o olwg toriad


*

Torri gwallt er mwyn llwyddo creu amrywiaeth golwg

  1. y gwahanol ffactorau all effeithio ar wasanaethau torri gwallt

  2. y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwahanol fathau o wallt a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaeth

  3. y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwallt gwlyb a gwallt sych

  4. pam y dylid tynnu cynhyrchion gwallt  o'r gwallt cyn torri

  5. pwysigrwydd cribo allan y gwallt cyn torri

  6. pwysigrwydd parhau i gribo a thorri trwy gydol y gwasanaeth

  7. y risg dichonadwy o wallt mewndyfol fel canlyniad i dorri clos di-baid

  8. sut a phryd i ddefnyddio technegau torri clwb, llawrydd, cliper dros grib a siswrn dros grib

  9. sut bydd yr ongl y delir y gwallt  yn effeithio ar ddosbarthiad pwysau, cydbwysedd a graddfa raddoledig y toriad

  10. pwysigrwydd rhoi'r raddfa gywir o densiwn i'r gwallt wrth dorri

  11. y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau

  12. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer golwg un hyd, haen unffurf a graddoledig

  13. sut i greu silwét cyson trwy holl siâp y toriad

  14. sut i groeswirio a chydbwyso'r toriad

  15. sut i greu gwahanol siapiau i linell y gwddf

  16. sut i greu gwahanol olwg

  17. pwysigrwydd ymgynghori â chleientiaid trwy gydol y broses torri

  18. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Ffactorau

1.1 dosbarthiadau o wallt

1.2 nodweddion gwallt

1.3 trawsnewidiad

2. Golwg

2.1 un hyd

2.2 haen unffurf

2.3 graddoledig

3. Technegau Torri

3.1 toriad clwb

3.2 llawrydd

3.3 siswrn dros grib

3.4 cliper dros grib

4. Math gwallt

4.1 naturiol

4.2 cudynnau

5. Cyngor ac argymhellion

5.1 sut i gynnal eu golwg

5.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

5.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy * *

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Cyngor ac argymhellion


*

3.1 gwasanaethau ychwanegol

3.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

​1.  Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar  

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7  addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9  dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleientiaid

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr  eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau – gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd i gynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Terminoleg torri

3.1 Toriad graddoledig hir:  Toriad graddoledig hir ydi pan fo haenau mewnol yr hydau gwallt yn fyrrach na'r siâp amlinellol.

3.2 Toriad un hyd. Toriad un hyd ydi pan dorrir y gwallt i'r un hyd allanol.

3.3 Toriad graddoledig byr:  Toriad graddoledig byr ydi pan fo haenau mewnol yr hydau gwallt yn hirach na'r siâp amlinellol.

3.4 Haen unffurf. Y toriad haen unffurf ydi pan fo pob adran o'r gwallt o'r un hyd.


*

4. Llawrydd – torri'r gwallt heb ei ddal yn ei le.

* *

5. Trawsnewidiol – tyfu allan gwallt wedi'i byrmio neu'i wedi'i lacio er mwyn dychwelyd at gyflwr naturiol y gwallt.

6. Gwallt Naturiol *– *gwallt sy'n dal i fod â'i ffurfiant naturiol, pa un ai fod hynny'n dorchau tynn neu rydd. Fe ddefnyddir y term hwn mewn perthynas â gwallt math Affricanaidd.

7. Trin gwallt yn naturiol – trin gwallt sy ddim yn gwneud defnydd o gemegau ar wallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAAH13

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Torri; cudynnau; technegau; un hyd; haen unffurf; graddoliad; toriad graddoledig byr; graddoledig hir; golwg;