Steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi’i gudynnu

URN: SKAAH10
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â'r sgiliau penodol sy ynghlwm â steilio a thrin gwallt sy wedi'i gudynnu. Mae angen arddangos ystod eang o dechnegau ac effeithiau trin gwallt penodol yn y safon hon ac fe all hyn gynnwys ychwanegu gwallt ac addurnwaith.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth steilio a thrin gwallt sy wedi'i gudynnu 

  2. steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi'i gudynnu


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth steilio a thrin gwallt wedi'i gudynnu * *


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r niwed i offer steilio

7.3 lleihau'r risg o draws-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

7.5 sicrhau defnydd adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

7.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol 

  2. dilyn cyfarwyddiadau gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a **chynhyrchion  

  3. gwaredu deunyddiau gwastraff

  4. cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi'i gudynnu


*

  1. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn ac wrth drin y gwallt  

  2. paratoi gwallt eich cleient mewn modd sy'n addas ar gyfer yr olwg a gytunwyd gyda'ch cleient

  3. ymgorffori a sadio gwallt ychwanegol, pan y'i defnyddir, yn yr olwg a ddymunir

  4. asio gwallt naturiol ac ychwanegol pan fo angen

  5. cynnal a chadw tensiwn addas a chyson trwy gydol y broses steilio

  6. sicrhau bod cymorth ar gael pan fo angen

  7. cyfuno ac addasu'ch technegau trin gwallt mewn modd arloesol i gyflawni'r olwg a ddymunir

  8. sicrhau'r gwallt, gan osgoi anesmwythdra i'r cleient, fel bod unrhyw binnau, teclyn gafael neu fandiau ynghudd oni bai eu bod yn rhan o ofynion y steil 

  9. personoleiddio eich technegau trin gwallt i gymryd i ystyriaeth y ffactorau sy'n dylanwadu ar gyflawniad yr olwg a ddymunir

  10. defnyddio technegau trin gwallt mewn modd syn osgoi niwed i'r gwallt, croen a chroen y pen

  11. ymgorffori a sadio addurnwaith, pan gaiff ei ddefnyddio, yn yr olwg a ddymunir

  12. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn cyfarfod â'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a foliwm a fwriadwyd ac a gytunwyd â'ch cleient

  13. taenu cynhyrchion steilio a gorffennu addas sy'n ategu a gwella'r olwg a ddymunir

  14. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella'u delwedd bersonol nhw yn ogystal â'r salon

  15. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

  16. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarparwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn 

  3. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  4. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  5. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  7. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch **yn eich gweithle

  8. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  9. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  10. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  12. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  13. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio

Steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi'i gudynnu


*

  1. pwysigrwydd paratoi'r gwallt sy wedi'i gudynnu yn gywir cyn y steilio a'r trin

  2. y gweithdrefnau paratoi sy'n ofynnol ar gyfer y gwahanol dechnegau trin gwallt

  3. sut i greu gwahanol dechnegau trin

  4. dulliau delio â, rheoli a sicrhau gwallt sy wedi'i gudynnu yn ystod y broses trin

  5. y gwiriadau gweledol sy'u hangen yn ystod steilio a thrin y cudynnau a pham bod hyn yn bwysig

  6. pwysigrwydd cynnal a chadw'r tensiwn cywir wrth drin gwallt wedi'i gudynnu

  7. y goblygiadau posib o densiwn gormodol ar y gwallt a chroen y pen

  8. y mathau o gynhyrchion, offer a chyfarpar sy ar gael i steilio a thrin gwallt sy wedi'i gudynnu a sut i'w defnyddio

  9. y mathau o eitemau anghonfensiynol y gellir eu defnyddio fel addurnwaith wrth drin gwallt 

  10. sut y gellir defnyddio addurnwaith a gwallt ychwanegol i greu a gwella gwahanol fathau o olwg cudynnog 

  11. sut mae'r gwahanol ffactorau'n effeithio ar y technegau trin a ddefnyddir a'r olwg orffenedig

  12. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

  13. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Technegau trin

1.1 plethu

1.2 plethen ŷd

1.3 plethen saethben

1.4 twistio fflat

1.5 setio rhôl

1.6 lapio

2. Ffactorau

2.1 yr olwg a ddymunir

2.2 yr achlysur ar gyfer y steil

2.3 maint y cudyn

2.4 hyd y cudyn

2.5 dwysedd y cudyn

2.6 tensiwn

3. Cyngor ac argymhellion

3.1 sut i gynnal a chadw'u golwg

3.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

3.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Cyngor ac argymhellion


*

3.1 Gwasanaethau ychwanegol

3.2 Cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

1.15 sgiliau arweinyddiaeth


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar  

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr  eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Plethen ŷd

Plethen tri chudyn sy'n eistedd ar ben ei bôn. Gelwir hon hefyd yn rhes wialen.

2. Plethen Saethben

Plethen pedwar cudyn a wneir trwy blethu pedwar darn o wallt dros ei gilydd I greu golwg 'pen saeth'.

3. Twistiau fflat

Lle caiff y gwallt ei rolio a'i dwistio â llaw yn fflat ar groen y pen.

4. Lapio

Term cyffredinol ydi hwn a ddefnyddir pan gaiff adrannau o wallt eu lapio gyda gwahanol fathau o ddeunydd megis edau, gwallt dynol, gwallt synthetig, gwlân,, glanhawyr pibell, ffoil, a phlastigau. Gelwir y dechneg hon hefyd yn 'beindio'.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATH27

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Steilio; trin gwallt wedi’i gudynnu; ychwanegu gwallt; addurnwaith