Cynorthwyo gyda gwasanaethau llacio

URN: SKAAH1
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon yma yn ymwneud â'r sgiliau sylfaenol ynglŷn â thynnu llacwyr cemegol a normaleiddio gwallt sy wedi'i lacio. Caiff y gwaith ei wneud o dan oruchwyliaeth y Cynllunydd.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd hefyd angen ichi gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio

  2. tynnu llacwyr cemegol a normaleiddio'r gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio * *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient wrth ddefnyddio llacwyr cemegol

  4. gwisgo cyfarpar diogelwch personol wrth ddefnyddio llacwyr cemegol

  5. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw  

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau gwastraff siampŵ normaleiddio

8.2 lleihau risg traws-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

8.4 sicrhau defnydd adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan a chleientiaid

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion 

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt trwy gydol y gwasanaeth 

  4. gwaredu deunyddiau gwastraff

  5. ail-gyflenwi lefelau isel adnoddau, lle bo'r angen, er mwyn lleihau'r tarfu ar eich gwaith eich hun ac ar gleientiaid 

Tynnu llacwyr cemegol a normaleiddio gwallt

  1. tynnu cemegolion mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a chroen y pen

  2. sicrhau bod eich dulliau gweithio'n lleihau'r risg o gemegolion yn cael eu taenu dros groen a dillad  y cleient a'r mannau cyfagos

  3. addasu tymheredd, pwysedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn diogelu  cyflwr y gwallt a chroen y pen

  4. gadael y gwallt a chroen y pe yn lân a rhydd o gemegolion a lleithder gormodol

  5. cyfeirio unrhyw broblem at y person perthnasol i weithredu

  6. blotio'r gwallt i dynnu unrhyw leithder gormodol cyn taenu cynhyrchion normaleiddio  

  7. paratoi a thaenu'r cynhyrchion normaleiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a'r cynllunydd  

  8. gadael y gwallt yn rhydd o unrhyw olion o'r cynnyrch niwtraleiddio

  9. taenu a thynnu'r cyflyrydd, pan gaiff ei ddefnyddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a'r cynllunydd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth  

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y dewis o ddillad a chynhyrchion diogelwch a ddylai fod ar gael i chi a'r cleientiaid

  4. be ydi dermatitis cyffwrdd  a sut i osgoi ei ddatblygu wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio

  5. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod mor bwysig i osod eich offer, cynhyrchion a deunyddiau o fewn cyrraedd rhwydd i'w defnyddio

  7. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  8. dulliau gweithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  9. gofynion eich salon a chyfreithiol ynglŷn â gwaredu deunyddiau gwastraff

  10. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn

  11. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd

  12. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  13. y person y dylech riportio lefelau isel o adnoddau

  14. eich terfannau awdurdod eich hunain ar gyfer datrys problemau llacio


*

Tynnu llaciwr cemegol a normaleiddio gwallt

*
 *

  1. rôl a phwysigrwydd:

15.1 triniaethau ôl-lacio yn ystod y broses llacio

15.2 normaleiddio siampŵau yn ystod y broses llacio

  1. sut y gall pwysedd a thymheredd isel ac uchel effeithio gwallt wrth dynnu llacwyr

  2. pwysigrwydd tynnu lleithder gormodol cyn taenu cynhyrchion normaleiddio

  3. pwysigrwydd sicrhau bod y gwallt a chroen y pen yn lân ac yn rhydd o gemegolion

  4. pwysigrwydd sicrhau bod eich dulliau gweithio'n lleihau'r risg o gemegolion  yn cael eu taenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  5. pam ei bod yn bwysig i ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd a'r hyn all ddigwydd o beidio â'u dilyn

  6. y mathau ac achosion problemau a all ddigwydd wrth lacio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion normaleiddio

1.1 siampŵ normaleiddio

1.2 triniaethau ôl-lacio


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

  1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a barbro:

*
 *

1.1 parodrwydd i ddysgu  

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg  

1.6 gweithiwr tîm  

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif  

1.9 agwedd broffesiynol  

1.10 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau da

1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel

1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch

1.13 cadw at fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth y gweithle


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient yn gwrtais a moesgar  

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient 

1.5 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau 

1.7 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.8 darganfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

1.9 delio â phroblemau o fewn sgôp eich cyfrifoldebau a'ch swyddogaeth

1.10 dangos parch i gleientiaid a chydweithwyr bob amser ac ymhob amgylchiad

1.11 ceisio cymorth ar unwaith gan uwch-aelod o staff pan fo angen

1.12 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa

**1. Cynhyrchion Normaleiddio

**

1.1 Triniaethau a siampŵau ôl-lacio ydi'r rhain. Weithiau fe'u hadnabyddir fel 'sefydlogyddion' neu gynhyrchion 'niwtraleiddio' ar gyfer y broses llacio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAAH5

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Tynnu llacwyr cemegol; normaleiddio gwallt wedi’i lacio; dulliau diogel; cynorthwyo; gwasanaethau llacio