Hyfforddi a mentora’r rhai sy’n cymryd rhan i achosi newid effeithiol mewn ymddygiad

URN: SKAAEAF5
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Awyr agored uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch,Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â hyfforddi a mentora'r rhai sy'n cymryd

rhan, ar gyfer datblygu a mentora'r rhai sy'n cymryd rhan, er mwyn datblygu a chynnal newid effeithiol mewn ymddygiad.

Byddwch yn cael dealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng mentora a hyfforddi. Rydych yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i wella drwy eu hyfforddi i nodi eu cryfderau a'u cymhelliannau a sut allant wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r rhain. Yn yr achos yma mae perfformiad yn cynnwys anghenion ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan i achosi newid mewn ymddygiad er mwyn cyflawni nodau a ddymunir. Yr ydych yn cefnogi'r rhai sy'n sy'n cymryd rhan i ddadansoddi eu perfformiad a nodi, datblygu, profi a mireinio sgiliau newydd ac ymddygiadau amgen fel hyfforddwr. Fel mentor, yr ydych yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i'r rhai sy'n cymryd rhan a hwyluso eu hangen i ddatblygu a gwneud cynnydd.

Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr uwch o fewn hamdden gweithgar.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. helpu pobl sy'n cymryd rhan nodi eu hanghenion, nodau ac amcanion ar gyfer hyfforddi a mentora
  2. hyrwyddo pwysigrwydd newid effeithiol mewn ymddygiad er mwyn cefnogi anghenion, nodau ac amcanion pobl sy'n cymryd rhan
  3. diffinio eich disgwyliadau eich hun a rhai pobl sy'n cymryd rhan o'r broses hyfforddi a mentora
  4. cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyflymder, mewn modd ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffter ac anghenion
  5. cytuno ar gontractau hyfforddi a mentora sy'n ymwneud â meysydd penodol ar gyfer datblygiad, y bylchau rhwng perfformiad cyfredol a'r hyn sydd ei angen, a chymhelliannau'r rhai sy'n cymryd rhan
  6. amlinellu'r gefnogaeth y gall pobl sy'n cymryd rhan ei disgwyl gennych chi, a'r ymrwymiad ellwch chi ei disgwyl ganddynt hwy
  7. nodi'r heriau i berfformiad a chefnogi pobl sy'n cymryd rhan i'w goresgyn
  8. cadw cofnodion cyfrinachol o'ch trafodaethau gyda phobl sy'n cymryd rhan yn unol â gofynion cyfreithiol
  9. cytuno ar amserlenni ar gyfer adolygu cynnydd a sut gellir mesur hynny
  10. edrych ar y sgiliau a'r ymddygiadau mae angen i bobl sy'n cymryd rhan eu datblygu yn newid er mwyn cwrdd â'u hanghenion, nodau ac amcanion
  11. edrych ar ffactorau all lesteirio cynnydd rhywun sy'n cymryd rhan a sut i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn
  12. cynllunio strategaethau gyda'r rhai sy'n cymryd rhan y gallant eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau newydd
  13. edrych gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ar unrhyw risgiau sy'n ynghlwm wrth y sgiliau a'r ymddygiadau maent newydd eu datblygu
  14. nodi a hwyluso gallu'r rhai sy'n cymryd rhan i gymhwyso strategaethau er atal risg
  15. annog a grymuso pobl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a chynnal eu hunan ymwybyddiaeth a'u perfformiad eu hunain
  16. annog pobl sy'n cymryd rhan i adfyfyrio ar eu cynnydd a gwneud eu meddyliau a'u teimladau'n eglur
  17. monitro a chofnodi cynnydd y rhai sy'n cymryd rhan er mwyn ei ddefnyddio yn y dyfodol
  18. rhoi adborth penodol wedi'i lunio i wella sgiliau'r rhai sy'n cymryd rhan, atgyfnerthu ymddygiadau effeithiol a gwella eu cymhelliant i gyflawni eu hanghenion, nodau ac amcanion
  19. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
  20. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. nodi nodweddion hyfforddi a mentora a manteision y ddau ddull

  1. yr amrywiaeth o fodelau, offer a thechnegau hyfforddi neu fentora sydd ar gael, a sut i ddethol a chymhwyso'r rhain

  2. egwyddorion newid ymddygiad effeithiol

  3. egwyddorion sylfaenol seicoleg chwaraeon tra'n deall anghenion yr un sy'n cymryd rhan

  4. y sgiliau mae hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol eu hangen, a sut i gymhwyso'r rhain

  5. sut i sefydlu cytundeb hyfforddi gyda'r rhai sy'n cymryd rhan a beth ddylid ei gynnwys yn y cytundeb, gan gynnwys ystyriaethau moesegol

  6. pwysigrwydd rhoi cyfloedd i'r rhai sy'n cymryd rhan i drafod eu hanghenion, nodau ac amcanion

  7. y gwahanol ddulliau a thechnegau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i drafod perfformiad gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  8. y mathau o rwystrau all lesteirio cynnydd y rhai sy'n cymryd rhan a sut i'w goresgyn

  9. amrywiaeth o strategaethau all gefnogi rhywun sy'n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau newydd

  10. sut i helpu pobl sy'n cymryd rhan i asesu a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â sgiliau ac ymddygiadau newydd

  11. sut i roi adborth penodol i'r rhai sy'n cymryd rhan wedi ei lunio ar gyfer gwella eu sgiliau, atgyfnerthu ymddygiadau effeithiol a gwella eu cymhelliant

  12. pam ei fod yn bwysig bod y rhai sy'n cymryd rhan yn adfyfyrio ar eu cynnydd a sut i'w helpu i wneud hyn

  13. sut i rymuso pobl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad eu hunain

  14. rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi

  15. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAAEAF7, SKAASPC1, SKAASPC2, SKAASPC3


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr awyr agored uwch, Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd

Cod SOC

3443

Geiriau Allweddol

hyfforddwr; mentor; newid ymddygiad; cymhelliant; pobl sy’n cymryd rhan;