Datblygu diwylliant eich sefydliad

URN: SKAAEAF3
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Awyr agored uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch,Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae gan bob sefydliad, beth bynnag fo'i faint a'i hanes, ddiwylliant (a ddiffinir yn syml fel 'y ffordd yr ydym yn gwneud pethau yma'). Mae diwylliant sefydliad yn seiliedig ar ragdybiaethau a gwerthoedd am sefydliadau, bywyd gwaith a chydberthnasau. Mae'r gwerthoedd hyn yn dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd a thuag at gwsmeriaid, a sut maent yn ymwneud â'u gwaith. Efallai nad oes yna'r fath beth â diwylliant 'cywir' neu 'anghywir'. Fodd bynnag, rhaid i ddiwylliant sefydliad fod yn unol â'i weledigaeth a strategaeth gyflawn. Os nad yw diwylliant a strategaeth yn cydweddu, mae'n annhebygol y cyflawnir y weledigaeth.

I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan-gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredol sylweddol, gyda rhywfaint o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fasnachwr llawrydd/unigol.

Mae'r safon yma ar gyfer pob rheolwr ac ymarferydd uwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar werthoedd a rhagdybiaethau sy'n annog ymddygiad sy'n gyson â gweledigaeth a strategaeth cyflawn eich sefydliad ac anghenion a budd y budd-ddeiliaid allweddol

  2. gwneud yn siwr bod eich ymddygiad personol, gweithredoedd a geiriau wastad yn atgyfnerthu'r gwerthoedd a'r rhagdybiaethau hyn

  3. cyfathrebu gwerthoedd a gytunwyd i bobl ar draws eich sefydliad

  4. dylanwadu ar bolisïau, rhaglenni a systemau'r sefydliad er mwyn cefnogi gwerthoedd a gytunwyd

  5. herio ymddygiadau sy'n gwrthdaro â gwerthoedd eich sefydliad

  6. monitro ac adolygu ymddygiadau, polisïau, rhaglenni a systemau yn erbyn gwerthoedd eich sefydliad

  7. nodi gwelliannau i ymddygiad, polisïau, rhaglenni a systemau

  8. rhoi ar waith newidiadau ar gyfer gwelliant parhaus

  9. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y cysyniad o ddiwylliant fel ag y mae'n berthnasol i sefydliadau

  1. gwahanol ddiffiniadau o ddiwylliant sefydliadol

  2. pwysigrwydd gwerthoedd o ran bod yn sail i berfformiad yr unigolyn a'r sefydliad

  3. ffactorau mewnol ac allanol sy'n dylanwadu ar ddiwylliant sefydliad, gan gynnwys diwylliannau cenedlaethol

  4. y berthynas rhwng diwylliant sefydliadol, strategaeth a pherfformiad

  5. yr egwyddorion a'r dulliau o reoli newid diwylliannol o fewn sefydliadau

  6. y prif fathau o ddiwylliant sefydliadol yn eich sector a'u cryfderau a'u cyfyngiadau

8. gweledigaeth a strategaeth eich sefydliad

  1. diwylliant eich sefydliad ar hyn o bryd

  2. dulliau effeithiol o gyfathrebu gwerthoedd, a chefnogi'r ffordd maent yn cael eu cymhwyso o fewn eich sefydliad

11. ffyrdd effeithiol o ddelio ag ymddygiadau sydd mewn gwrthdaro â gwerthoedd a gytunwyd a rhagdybiaethau

  1. pwysigrwydd monitro ac adolygu ymddygiadau, polisïau, rhaglenni a strategaethau

13. ffyrdd o nodi gwelliannau a'u rhoi ar waith

  1. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr awyr agored uwch, Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd

Cod SOC

3443

Geiriau Allweddol

diwylliant; sefydliad; gwerthoedd; gweledigaeth; strategaeth