Rhoi cynlluniau busnes gweithredol a strategol ar waith a’u gwerthuso
URN: SKAAEAF2
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Awyr agored uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â rhoi cynlluniau busnes ar waith a'u gwerthuso. Byddwch yn gwireddu cynlluniau busnes a strategol drwy ymgysylltu â chydweithwyr a/neu eraill, monitro cynnydd ac addasu cynlluniau, pan fo angen. Yn y cyd destun yma gall eraill gynnwys budd-ddeiliaid allweddol, partneriaethau ac unrhyw bobl eraill all gael effaith ar eich busnes.
Yr ydych hefyd yn gwerthuso i ba raddau mae amcanion strategol a gweithredol wedi eu cyflawni, dysgu gwersi, dathlu llwyddiant a chydnabod cyfraniadau.
Mae'r safon yma ar gyfer pob rheolwr ac ymarferydd uwch.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu eich cynllun busnes strategol i gydweithwyr a/neu eraill i ennill eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth
- gwerthuso'r risgiau i gyflawni amcanion strategol a chymryd camau i liniaru risgiau
- dangos eich ymrwymiad personol drwy arwain i gyflawni amcanion strategol allweddol
- adolygu'r cynllun busnes strategol ar ysbeidiau rheolaidd, gan ystyried newidiadau arwyddocaol yn yr amgylchedd weithredol er mwyn sicrhau y gall gyflawni amcanion y sefydliad o fewn amserlenni a gytunwyd
- cyfathrebu cynlluniau gweithredol er mwyn ennill dealltwriaeth a chefnogaeth cydweithwyr a/neu eraill
- darparu'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r amcanion yn eich cynlluniau strategol a gweithredol
- defnyddio dulliau a mesurau a gytunwyd i fonitro rhoi eich cynlluniau busnes ar waith
- darparu cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth tuag at gyflawni amcanion strategol a gweithredol, pan fo gofyn
- defnyddio dangosyddion a dulliau ar gyfer monitro cynnydd yn erbyn eich cynlluniau busnes ar ysbeidiau a gytunwyd
- gwerthuso amrywebau o'ch cynlluniau busnes a'r rhesymau dros amrywebau arwyddocaol
- addasu eich cynlluniau busnes i gymryd ystyriaeth o amrywebau arwyddocaol, pa adnoddau sydd ar gael, neu neidiadau yn amgylchedd weithredol eich sefydliad
- hysbysu cydweithwyr a/neu eraill o addasiadau i'ch cynlluniau chi a'u helpu i wneud newidiadau i'w cynlluniau hwy eu hunain
- gwerthuso rhoi eich cynlluniau busnes ar waith i wneud argymhellion sy'n nodi arfer dda a meysydd lle gellir
- gwerthuso a chytuno gyda chydweithwyr a/neu eraill i ba raddau mae'r amcanion yn eich cynlluniau busnes strategol a gweithredol wedi eu cyflawni
- dathlu cyflawniad amcanion strategol a gweithredol a chydnabod cyfraniadau'r rhai sy'n ymwneud
- dadansoddi'r rhesymau dros unrhyw ddiffygion o ran cyflawni amcanion strategol a gweithredol er mwyn hysbysu datblygiad ymarfer yn y dyfodol a'i roi ar waith
- dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- tueddiadau a datblygiad yn eich diwydiant a sector ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
- egwyddorion a dulliau rheolaeth strategol, gweithredol a chynllunio busnes
- gweledigaeth, strwythur, strategaeth, diwylliant, budd-ddeiliaid allweddol, cyfathrebu a phrosesau busnes eich sefydliad
- adborth gan gwsmeriaid, gwybodaeth ariannol a gwybodaeth reolaeth arall sy'n hysbysu cynllunio busnes yn eich sefydliad
- sut i ymgynghori gyda chydweithwyr a/neu eraill
- pwysigrwydd cyfathrebu cynlluniau busnes i gydweithwyr a/neu eraill
- sut i asesu a rheoli risg
- pwysigrwydd dangos eich ymrwymiad personol i gynlluniau busnes a sut i wneud hynny
- yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer cyflawni amcanion strategol eich sefydliad
- sut i ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithiol er mwyn cyflawni amcanion
- sut i ddatblygu'r cynllun ymhellach a'i addasu yn wyneb amrywebau, gan gynnwys adnoddau i roi'r cynllun ar waith
- y bygythiadau i gyflawni gweledigaeth a strategaeth eich sefydliad
- y ffyrdd o ddathlu cyflawniad amcanion strategol eich sefydliad
- ffynonellau gwybodaeth y gellwch eu defnyddio i fonitro a gwerthuso cynlluniau a'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd a gwneud argymhellion
- sut i fonitro ac adolygu gweithrediad a pherfformiad yn erbyn cynlluniau strategol a gweithredol
- y dangosyddion a'r dulliau ar gyfer mesur cynnydd a gwerthuso rhoi cynlluniau ar waith
- sut i werthuso rhoi cynlluniau busnes ar waith er mwyn nodi a rhannu'r gwersi a ddysgwyd
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
SkillsActive
URN gwreiddiol
n/a
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Hamdden, Hamdden ac adloniant, Hyfforddwr awyr agored uwch, Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Chwaraeon
Cod SOC
3443
Geiriau Allweddol
rhoi ar waith; cynllun busnes; strategol; gweithredol