Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu

URN: SKAA41W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 31 Gorff 2005

Trosolwg

​Mae’r uned hon yn ymwneud â rheoli gwybodaeth yn effeithlon yn eich maes cyfrifoldeb. Mae’n cynnwys casglu’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch, darparu gwybodaeth a chyngor i eraill, a chynnal cyfarfodydd.


Rhennir yr uned yn ddwy ran.

Mae’r rhan gyntaf yn disgrifio’r tri pheth mae’n rhaid i chi ei wneud, sef:
1. casglu gwybodaeth angenrheidiol
2. rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl eraill
3. cynnal cyfarfodydd

Mae’r ail ran yn disgrifio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae’n rhaid i chi feddu arnynt. 

Mae’r uned ar gyfer rheolwyr llinell gyntaf a staff datblygu chwaraeon sy’n gweithio ar y lefel honno.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Casglu gwybodaeth angenrheidiol


1. casglu gwybodaeth sy’n gywir, yn ddigonol ac yn berthnasol i’r diben angenrheidiol
2. cymryd camau effeithiol yn ddi-oed er mwyn goresgyn problemau wrth gasglu gwybodaeth berthnasol
3. cofnodi a storio’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu gan ddilyn systemau a gweithdrefnau’r sefydliad
4. sicrhau bod y wybodaeth rydych chi’n ei chasglu ar gael yn y fformat gofynnol i bobl awdurdodedig yn unig
5. nodi gwelliannau posibl i systemau a gweithdrefnau a throsglwyddo’r rhain i’r bobl berthnasol

Rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl eraill

6. rhoi gwybodaeth a chyngor ar adeg briodol, mewn lle priodol, ac ar ffurf briodol i anghenion y bobl sy’n eu cael
7. sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor a rowch yn gywir, yn gyfredol, yn berthnasol ac yn ddigonol
8. rhoi gwybodaeth a chyngor sy’n gyson â chyfyngiadau’r sefydliad o ran adnoddau, a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
9. dadlau gan roi rhesymau a defnyddio tystiolaeth briodol i gefnogi’ch gwybodaeth a’ch cyngor
10. sicrhau a chadarnhau bod y bobl sy’n cael y wybodaeth a’r cyngor gennych wedi’u deall
11. cadw cyfrinachedd yn unol â gofynion y sefydliad 
12. gofyn am adborth am y wybodaeth a’r cyngor rydych chi wedi’u rhoi, a defnyddio’r adborth hwn i wella’r ffyrdd o roi gwybodaeth a chyngor

Cynnal cyfarfodydd

13. rhoi digon o rybudd am gyfarfod er mwyn i'r bobl angenrheidiol ddod iddo
14. gwneud yn siŵr bod diben ac amcanion y cyfarfod yn glir ar y dechrau
15. mabwysiadu dull o arwain sy’n helpu pobl i wneud cyfraniadau defnyddiol
16. anghymeradwyo dadlau a chrwydro anfuddiol 
17. cyflawni amcanion y cyfarfod o fewn yr amser a neilltuwyd
18. rhoi gwybodaeth glir, gywir a chryno am ganlyniadau’r cyfarfod yn ddi-oed i'r sawl y mae angen y wybodaeth arnynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae rhoi gwybodaeth a chyngor yn effeithiol ar lafar ac ar ffurf ysgrifenedig

  2. sut mae datblygu a chyflwyno achos â rhesymau wrth ddarparu cyngor i bobl eraill

  3. pwysigrwydd cadarnhau bod y bobl sy’n cael y wybodaeth a’r cyngor a roddwyd yn eu deall, a sut mae gwneud hynny

  4. pwysigrwydd gofyn am adborth am ansawdd a pherthnasedd y wybodaeth a’r cyngor a roddwyd, a sut mae annog a galluogi pobl i roi’r adborth hwnnw

  5. sut mae adnabod dadleuon a chrwydro anfuddiol, a strategaethau y gellir eu defnyddio i annog pobl i beidio â gwneud hyn

  6. dulliau arwain y gellir eu defnyddio i gynnal cyfarfodydd a sut mae dewis dull i gyd-fynd â natur y cyfarfod

  7. gwerth a chyfyngiadau’r cyfarfodydd fel ffordd o gyfnewid gwybodaeth a gwneud penderfyniadau

  8. sut mae penderfynu mai cyfarfod yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddelio â materion a’r ffyrdd posibl eraill sydd ar gael

  9. pwysigrwydd pennu diben ac amcanion y cyfarfodydd a sut mae gwneud hynny

  10. sut mae rheoli trafodaethau fel bod amcanion y cyfarfod yn cael eu bodloni o fewn yr amser a neilltuwyd

  11. y gweithdrefnau i’w dilyn er mwyn cynnig argymhellion ar gyfer gwella systemau a gweithdrefnau

  12. cyfyngiadau’r sefydliad o ran adnoddau, a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a all effeithio ar y wybodaeth a’r cyngor a roddir i eraill

  13. sut mae penderfynu ynghylch pwy ddylai ddod i’r cyfarfod

  14. gweithdrefnau i’w dilyn wrth alw cyfarfodydd a pharatoi ar eu cyfer

  15. pwysigrwydd casglu, dilysu a dadansoddi gwybodaeth o ran effeithiolrwydd y tîm a’r sefydliad, a’u rôl a’u cyfrifoldeb mewn perthynas â hynny

  16. y mathau o wybodaeth ansoddol a meintiol sy’n hanfodol i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau

  17. sut mae casglu gwybodaeth yn electronig ac â llaw

  18. pwysigrwydd darparu gwybodaeth a chyngor i bobl eraill, a’u rôl a’u cyfrifoldeb mewn perthynas â hynny

  19. y mathau o wybodaeth a chyngor y gall fod eu hangen ar bobl eraill

  20. sut mae casglu’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer eich swydd

  21. y mathau o broblemau a allai godi wrth gasglu gwybodaeth a sut mae eu goresgyn

  22. sut mae cofnodi a storio’r wybodaeth angenrheidiol

  23. pwysigrwydd sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor a roddir i eraill yn ddilys a sut mae gwneud hynny

  24. egwyddorion cyfrinachedd wrth drin gwybodaeth a chyngor; y mathau o wybodaeth a chyngor y gellir eu rhoi i wahanol bobl

  25. sut mae asesu effeithiolrwydd y dulliau presennol o gasglu a storio gwybodaeth​


Cwmpas/ystod

​1. gwybodaeth

1.1. meintiol 
1.2. ansoddol
1.3. ar ffurf electronig
1.4. ar bapur

2. systemau a gweithdrefnau
2.1. ffurfiol
2.2. anffurfiol

3. gwybodaeth a chyngor
3.1. ar lafar
3.2. ysgrifenedig
3.3. ar ffurf electronig

4. y bobl sy’n cael gwybodaeth a chyngor
4.1. aelodau tîm
4.2. cydweithwyr sy’n gweithio ar yr un lefel
4.3. rheolwyr lefel uwch neu noddwyr
4.4. pobl nad ydynt yn rhan o’ch sefydliad 

5. cyfarfodydd
5.1. cynnwys pobl o fewn eich sefydliad
5.2. cynnwys pobl o’r tu allan i’ch sefydliad

6. dibenion
6.1. rhoi gwybodaeth
6.2. ymgynghori
6.3. gwneud penderfyniad


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Gorff 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SA44NA41

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

effeithlon, rheoli, gwybodaeth, casglu, cyngor, cyfarfodydd, pobl sy’n cael gwybodaeth a chyngor