Rheoli’r defnydd o adnoddau ffisegol

URN: SKAA22W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2006

Trosolwg

​Mae’r uned hon yn ymwneud â rheoli adnoddau ffisegol fel cyfarpar, cyfleusterau a defnyddiau traul.


Rhennir yr uned yn ddwy ran.

Mae’r rhan gyntaf yn disgrifio’r pedwar peth mae’n rhaid i chi ei wneud, sef:
1. cynllunio sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu defnyddio
2. cael gafael ar adnoddau ffisegol
3. sicrhau bod cyflenwadau ar gael
4. monitro sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu defnyddio

Mae’r ail ran yn disgrifio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae’n rhaid i chi feddu arnynt. 

Mae’r uned hon wedi’i hanelu at bobl sy’n gweithio ym maes rheoli neu ddatblygu ar lefel rheolwr canol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynllunio sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu defnyddio


1. rhoi cyfleoedd i bobl berthnasol ddarparu gwybodaeth am yr adnoddau ffisegol angenrheidiol
2. datblygu cynlluniau sy’n ystyried tueddiadau a datblygiadau, ffactorau a phrofiadau perthnasol yn y gorffennol sy'n debygol o effeithio ar ddefnyddio adnoddau yn y dyfodol
3. gwneud yn siŵr bod y cynlluniau hyn yn gyson â gofynion cyfreithiol, amcanion a pholisïau’r sefydliad
4. cyflwyno'r cynlluniau hyn i bobl berthnasol mewn modd priodol ac amserol

Cael gafael ar adnoddau ffisegol

5. gwneud ceisiadau am adnoddau ffisegol sy’n dangos yn glir y costau cysylltiedig a’r manteision a rag-welir wrth ddefnyddio’r adnoddau
6. cyflwyno ceisiadau am adnoddau ffisegol i bobl berthnasol mewn pryd er mwyn cael gafael ar yr adnoddau angenrheidiol 
7. cyflwyno ceisiadau am adnoddau ffisegol mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ymrwymiad y rheini a fydd yn defnyddio’r adnoddau
8. cael gafael ar adnoddau ffisegol sy’n ddigon i gefnogi’r holl weithgareddau sydd o dan eu rheolaeth
9. cytuno ar newidiadau priodol i’w cynlluniau gyda phobl berthnasol pan na allwch gael gafael ar yr adnoddau ffisegol y mae arnynt eu hangen yn llawn

Sicrhau bod cyflenwadau ar gael

10. nodi’n gywir pa gyflenwadau y mae eu hangen arnynt
11. dewis o amrywiaeth o gyflenwyr sy’n ddigon eang i sicrhau cystadleuaeth ddigonol a pharhad y cyflenwad
12. negodi â chyflenwyr mewn ffordd sy’n cynnal perthynas dda gyda hwy
13. dod i gytundeb â chyflenwyr sy’n rhoi gwerth da ac sy’n cydymffurfio â gofynion y sefydliad a gofynion cyfreithiol
14. monitro nifer ac ansawdd y cyflenwadau ar adegau priodol
15. cael gafael ar gyflenwadau sy’n bodloni gofynion y sefydliad yn gyson o ran nifer, ansawdd a darpariaeth
16. delio ar unwaith ag unrhyw broblemau go iawn neu broblemau a allai godi gyda’r cyflenwadau 
17. cadw cofnodion o gyflenwadau sy’n gyflawn, yn gywir ac ar gael i bobl awdurdodedig yn unig

Monitro sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu defnyddio

18. rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm ysgwyddo cyfrifoldeb unigol dros ddefnyddio adnoddau ffisegol yn effeithlon
19. gwneud yn siŵr bod eu tîm yn defnyddio’r adnoddau ffisegol yn effeithlon ac yn ystyried yr effaith bosibl ar yr amgylchedd
20. monitro ansawdd adnoddau ffisegol drwy’r amser
21. defnyddio dulliau monitro sy’n ddibynadwy ac yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad 
22. monitro bob hyn a hyn sut mae adnoddau ffisegol yn cael eu defnyddio go iawn o’i gymharu â’r cynllun y cytunwyd arno
23. cymryd camau cywiro ar unwaith i ddelio ag unrhyw wyro sylweddol go iawn oddi wrth gynlluniau neu unrhyw bosibilrwydd o wyro
24. cadw cofnodion yn ymwneud â defnyddio adnoddau ffisegol sy’n gyflawn, yn gywir ac ar gael i bobl awdurdodedig yn unig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cytundebau a chontractau


1. sut mae llunio cytundebau effeithiol â chyflenwyr, a'r gofynion cyfreithiol a moesegol a gofynion y sefydliad sy’n rheoli’r rhain

Technegau dadansoddi

2. sut mae cynnal dadansoddiadau cost a budd mewn perthynas â sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio
3. sut mae dadansoddi gweithgareddau gwaith i weld pa gyflenwadau sydd eu hangen
4. sut mae dewis o blith amrywiaeth o gyflenwyr er mwyn sicrhau gwerth am arian, cysondeb, ansawdd a pharhad cyflenwad gan ddilyn gofynion y sefydliad a gofynion cyfreithiol

Cyfathrebu

5. sut mae cyflwyno a chyfleu cynlluniau ar ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
6. sut mae datblygu a chyflwyno achos effeithiol i bobl berthnasol am adnoddau

Trin gwybodaeth

7. egwyddorion cyfrinachedd ynghylch defnyddio adnoddau: pa fathau o wybodaeth a allai fod ar gael i bwy

Cynnwys a chymell

8. sut mae annog a galluogi staff i gyfleu eu hanghenion o ran adnoddau
9. sut mae cael a sicrhau cymaint â phosibl o ymrwymiad i gynllunio adnoddau
10. sut mae annog a grymuso aelodau'r tîm i ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddefnyddio adnoddau yn effeithlon

Monitro a gwerthuso *

11. sut mae monitro’r ddarpariaeth o gyflenwadau er mwyn sicrhau bod y gofynion o ran ansawdd, nifer, darpariaeth ac amser yn cael eu bodloni drwy’r amser 
12. pwysigrwydd monitro’n effeithiol sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio o ran effeithiolrwydd y sefydliad, a’ch rôl a’ch cyfrifoldeb chi mewn perthynas â hyn
13. sut mae monitro a rheoli sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth o gynnyrch a gwasanaethau

Cyd-destun y sefydliad

14. amcanion, polisïau a gofynion cyfreithiol y sefydliad sy’n berthnasol i sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio, sut mae dehongli’r rhain a nodi’r goblygiadau o ran cynllunio adnoddau
15. gweithdrefnau i'w dilyn er mwyn gwneud cais am adnoddau
16. gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad sy’n rheoli’r dewis o gyflenwyr, sut mae dehongli’r rhain a nodi’r goblygiadau o ran eich gwaith
17. gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad o ran effaith defnyddio’r adnoddau ar yr amgylchedd a sut mae lleihau effeithiau andwyol
18. gofynion eich sefydliad o ran rheoli sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio
19. eich amcanion a’ch camau arfaethedig ar gyfer defnyddio adnoddau 

Cynllunio

20. yr egwyddorion sy’n sail i gynllunio adnoddau'n effeithiol a’ch rôl a’ch cyfrifoldeb chi mewn perthynas â hyn
21. sut mae datblygu cynlluniau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer defnyddio adnoddau
22. y mathau o dueddiadau a datblygiadau a allai effeithio ar sut rydych chi’n defnyddio adnoddau, sut mae dadansoddi’r rhain a manylu ynghylch y goblygiadau ar gyfer cynllunio
23. sut mae addasu cynlluniau gwaith os na fydd yr adnoddau angenrheidiol ar gael

Rheoli adnoddau*

24. yr adnoddau ffisegol y mae eu hangen arnoch i gynnal eich gweithgareddau’n effeithiol
25. pwysigrwydd parhad y cyflenwadau er mwyn cynnal ansawdd cynnyrch a gwasanaethau, a’ch rôl a’ch cyfrifoldeb chi mewn perthynas â hyn
26. yr amrywiaeth o gyflenwyr sydd ar gael ar gyfer yr adnoddau ffisegol mae eu hangen arnoch
27. yr amrywiaeth o broblemau a allai godi gyda chyflenwadau a chyflenwyr a’r camau cywiro effeithiol i’w cymryd wrth ymateb i’r rhain
28. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir wrth reoli cyflenwadau a chyflenwyr, a systemau i sicrhau bod hyn yn digwydd yn iawn
29. yr amrywiaeth o bethau a all rwystro rhag defnyddio adnoddau’n effeithlon a’r camau cywiro effeithiol i’w cymryd wrth ymateb i’r rhain
30. pwysigrwydd cadw cofnodion effeithiol ar sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio a sut mae sicrhau bod hyn yn digwydd


Cwmpas/ystod

​1. Pobl berthnasol

1.1. aelodau tîm
1.2. cydweithwyr sy’n gweithio ar yr un lefel
1.3. rheolwyr neu oruchwylwyr ar lefel uwch
1.4. pobl y tu allan i’r sefydliad

2. cynlluniau
2.1. tymor byr
2.2. tymor canolig
2.3. tymor hir

3. ceisiadau
3.1. ar lafar
3.2. ysgrifenedig

4. cyflenwadau
4.1. nwyddau
4.2. gwasanaethau

5. cyflenwyr
5.1. tu mewn i’r sefydliad
5.2. y tu allan i’r sefydliad

6. ffyrdd o fonitro
6.1. arsylwi uniongyrchol
6.2. ystyried gwybodaeth ar lafar gan bobl eraill
6.3. ystyried gwybodaeth ysgrifenedig gan bobl eraill

7. camau cywiro
7.1. gweithgareddau newid
7.2. addasu sut mae defnyddio adnoddau ffisegol ar gyfer gweithgareddau  
7.3. ail-drafod dyrannu adnoddau ffisegol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SA44NA22

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwylwyr, rheoli, ffisegol, adnoddau, ar gael, cyflenwadau, cynllunio, monitro, cael gafael