Rheoli symudiadau pobl mewn digwyddiad
URN: SFSEVS7W
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
                    Datblygwyd gan: Skills for Security
                    Cymeradwy ar: 
2013                        
                    
                Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi ddelio â phobl yn dod i mewn ac yn mynd allan o ddigwyddiad.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol: 
1. Rheoli pobl yn mynd i mewn i’r digwyddiad
2. Rheoli symudiadau pobl mewn digwyddiad
3.    Rheoli pobl yn mynd allan o’r digwyddiad
            Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli pobl yn mynd i mewn i’r digwyddiad
1. ymgyfarwyddo â’r safle a chynnal archwiliadau cyn-digwyddiad yn yr ardal rydych chi’n gyfrifol amdani
2. croesawu cwsmeriaid i’r digwyddiad yn unol â gweithdrefnau'ch sefydliad
3.   monitro a chadw at y llwybr drwy’r system fynediad gyfan 
4. sicrhau bod yr arwyddion yn gywir ar gyfer mynd i mewn i’r digwyddiad 
5.    rhoi gwybod am unrhyw ffactorau a fydd yn cael effaith negyddol ar y llif yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
6.    sicrhau bod y cyhoedd yn ciwio yn y fynedfa gywir 
7.    pennu hawliau mynediad i ardaloedd cyn y digwyddiad   
8.    defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol i sicrhau’r symudiad gorau
9.    sicrhau llif briodol drwy fynedfeydd mewn ardal
10.  talu sylw gofalus i’r ardal a ddynodwyd i chi drwy gydol cyfnod eich dyletswydd 
11. caniatáu a gwrthod mynediad i bobl gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
12. rhoi rhesymau clir i bobl pam eich bod yn gwrthod mynediad iddynt
13.    rheoli’r ciwiau mewn ffordd ddiogel a threfnus
14.   cyfeirio pobl at fynedfeydd eraill os oes angen 
15. symud i amrywiol safleoedd am gyfnodau yn ystod digwyddiad
16.   cynnig awgrymiadau cadarnhaol ar gyfer dod i mewn yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad mewn lleoliad 
17.    rhoi gwybod am fudo sydyn neu symudiadau annisgwyl mewn torf
18. monitro unrhyw arwydd o giw yn tyfu mewn lleoliad a rhoi gwybod am hynny
19. lleihau effaith unrhyw arwydd o giw yn tyfu mewn lleoliad
Rheoli symudiadau pobl mewn digwyddiad
20.    monitro nifer y bobl yn ystod digwyddiad ac mewn ardaloedd dynodedig
21. monitro trwch y dorf a chapasiti yn ystod digwyddiad ac mewn ardaloedd dynodedig
Rheoli pobl yn mynd allan o’r digwyddiad
22.    cynnal archwiliadau cyn-mynd allan yn yr ardal rydych chi’n gyfrifol amdani
23.  monitro sefyllfa i weld bod pobl yn gadael yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad 
24.  cymryd camau priodol i helpu i glirio pobl o’r safle 
25.    cael gwared ar unrhyw beth sy’n dylanwadu’n negyddol ar lif y bobl sy’n mynd allan   
26.    sicrhau nad oes neb yn dod i mewn wrth i bobl fynd allan
27. cyfeirio pobl at allanfeydd eraill os oes angen 
28. cynnig awgrymiadau cadarnhaol ar gyfer mynd allan yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad mewn lleoliad
            Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud â’r digwyddiad
2.  yr ardal rydych chi’n gyfrifol amdani 
3.    eich rolau a chyfrifoldebau o fewn cynllun y digwyddiad
4.   sut gall amodau amgylcheddol ddylanwadu ar gyflwr y tir
5.   pam ei bod yn bwysig bod yn hyblyg a symud i amrywiol safleoedd yn ystod digwyddiad
6.   eich amserlen ac am ba hyd rydych chi mewn llefydd penodol drwy gydol y digwyddiad
7.    sgiliau rhyngbersonol perthnasol a sut i’w defnyddio’n effeithiol
Rheoli pobl yn mynd i mewn i’r digwyddiad
8. sut a pham ei bod yn bwysig cynnal archwiliadau cyn-digwyddiad yn eich ardal
9.  polisïau ac amodau mynediad ar gyfer y lleoliad 
10. llif y bobl a ddisgwylir
11. sut mae caniatáu mynediad i bobl gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt 
12.  pa arwyddion cywir sydd eu hangen ar gyfer mynd i mewn i’r digwyddiad 
13.   pa ffactorau a allai greu effaith negyddol ar y llif wrth fynd i mewn
14.    polisïau a gweithdrefnau er mwyn rhoi gwybod i’ch goruchwyliwr am ddylanwadau negyddol ar y llif wrth fynd i mewn
15.    lleoliad a chynllun mynedfeydd i’r safle
16. sut a pham ei bod yn bwysig sicrhau bod llif gyfartal o bobl yn mynd i mewn drwy bob mynedfa
17. sut mae rheoli ciwiau mewn ffordd ddiogel a threfnus
18. sut bydd ciwiau hir yn dylanwadu ar agwedd ac ymddygiad y dorf  
19. ‘hawliau mynediad’ i ardaloedd cyn y digwyddiad   
20.   sut a pham ei bod yn bwysig cadw mynedfa’n glir drwy fonitro’r gwaith o gael gwared ar sbwriel
21.   sut a pham ei bod yn bwysig monitro deinameg torf a sylwi ar unrhyw fudo, symudiadau annisgwyl, arwyddion o drafferthion a thrwch mewn torf
22.  sut a pham ei bod yn bwysig monitro a rhoi gwybod am unrhyw arwydd o giw yn tyfu i wasanaethau eraill yn y lleoliad
23.  sut mae lleihau effaith unrhyw arwydd o giw yn tyfu mewn lleoliad
24.    y gweithdrefnau i'w dilyn wrth wrthod mynediad 
25.  pam mae’n rhaid i chi roi rhesymau clir i bobl pam eich bod yn gwrthod mynediad iddynt
26.   yr adwaith bosibl wrth wrthod mynediad i rywun
27.   beth i'w wneud pan fydd y dorf yn dod i stop wrth ddod i mewn
Rheoli pobl yn mynd allan o’r digwyddiad
28.    sut a pham ei bod yn bwysig cynnal archwiliadau cyn-mynd allan yn eich ardal
29. sut a pham ei bod yn bwysig monitro bod pobl yn gadael yn ddiogel gan ddilyn y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
30.   camau priodol i helpu i glirio pobl o’r safle 
31.   sut mae cael gwared ar ffactorau negyddol ar lif y bobl sy’n mynd allan   
32.   sut a pham ei bod yn bwysig sicrhau nad oes neb yn dod i mewn wrth i bobl fynd allan
33. lleoliad a chynllun yr allanfeydd 
34.   beth i'w wneud pan fydd y dorf yn dod i stop wrth fynd allan
35. sut mae delio ag eiddo coll wrth i bobl fynd allan
36.   sut mae delio â phobl sydd ar goll wrth i bobl fynd allan
37.    gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer cloi’r digwyddiad
            Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2016        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Skills for Security 
        
    
URN gwreiddiol
        SFS EVS 7
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            diogelwch; digwyddiad; symudiadau pobl; mynd i mewn; mynd allan