Ymateb i rywbeth yn digwydd mewn digwyddiad

URN: SFSEVS3W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi ddarparu ymateb cyntaf i ddigwyddiadau. 


Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol: 

1. Casglu gwybodaeth a llunio ymateb
2. Ymateb i ddigwyddiadau

Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb sy’n ymateb i ddigwyddiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Casglu gwybodaeth
gywir a llunio ymateb
*

1. asesu natur y digwyddiad ar sail y wybodaeth sydd ar gael
2. cael unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol er mwyn penderfynu ar yr ymateb priodol i’r digwyddiad 
3. blaenoriaethu a chynllunio’ch camau gweithredu yn unol â natur y digwyddiad 
4. ymateb i’r digwyddiad o fewn yr amserlenni priodol ac yn unol â’r polisi cyfredol
5. darparu’r wybodaeth angenrheidiol i bobl eraill am y digwyddiad

Ymateb i ddigwyddiadau 

*
6. ystyried eich iechyd a’ch diogelwch eich hunan, ac iechyd a diogelwch pobl eraill yn ystod y digwyddiad 
7. cyfleu unrhyw wybodaeth a manylion gofynnol i bobl eraill sy’n dod i’r man lle bu’r digwyddiad
8. adnabod a blaenoriaethu unrhyw ddamweiniau, gan roi unrhyw gymorth angenrheidiol
9. delio ag unigolion mewn modd moesegol, gan gydnabod eu hanghenion o ran hil, amrywiaeth a hawliau dynol
10. rheoli digwyddiadau yn unol â’r polisi cyfredol
11. herio a delio’n briodol ag unrhyw ymddygiad annerbyniol
12. defnyddio sgiliau diogelwch personol priodol yn unol â’r polisi, deddfwriaeth a’r hyfforddiant cyfredol
13. cysylltu a chyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir ag asiantaethau neu bartneriaethau eraill sy’n berthnasol i’r digwyddiad 
14. nodi a gofyn am unrhyw adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer y digwyddiad
15. nodi a chofnodi unrhyw wybodaeth, manylion a ffynonellau o’r digwyddiad 
16. cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddiogelu’r man lle bu’r digwyddiad a diogelu tystiolaeth
17. dogfennu’n llawn yr holl ddata, penderfyniadau, camau gweithredu, opsiynau a rhesymau yn unol â’r polisi a’r ddeddfwriaeth gyfredol, a chyflwyno’r rhain i’w goruchwylio o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt
18. dogfennu opsiynau sy’n cael eu hystyried ond nid eu defnyddio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

*

1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau
2. deddfwriaeth berthnasol gyfredol a gofynion y sefydliad o ran iechyd a diogelwch 
3. pwysigrwydd glynu wrth ganllawiau cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithio’n briodol â phlant a phobl ifanc

Casglu gwybodaeth a manylion 

4. sut mae casglu ac asesu gwybodaeth am ddigwyddiad 
5. sut mae defnyddio gwybodaeth a manylion i lunio’ch ymateb
6. sut mae nodi ffynonellau manylion posibl

Cyfathrebu a chysylltu â phobl eraill 

7. sut mae cyfathrebu'n effeithiol ac yn gywir
8. y mathau o arbenigwyr y byddai’n rhaid eu galw i’r digwyddiad o bosibl 
9. y mathau o asiantaethau eraill y gellid eu galw i fod yn rhan o’r digwyddiad 
10. systemau a phrotocolau ar gyfer cyfathrebu ag asiantaethau eraill

Y gymuned leol

11. cyfansoddiad ac amrywiaeth y gymuned leol

Ymateb i ddigwyddiadau

12. y mathau o ddigwyddiadau rydych chi’n debygol o fynd atynt, gan gynnwys; troseddau, heb fod yn droseddau a thraffig
13. y gweithdrefnau ar gyfer ymateb i wahanol fathau o ddigwyddiadau
14. eich rôl a’r camau gweithredu i’w cymryd os bydd digwyddiad argyfyngus 
15. sut mae darparu cymorth i ddioddefwyr, tystion ac unigolion eraill yn y digwyddiad 
16. y math o gymorth gallwch ei roi i ddioddefwyr, tystion ac unigolion eraill yn y digwyddiad 
17. sut mae delio â phobl yr amheuir eu bod wedi bod yn rhan o’r digwyddiad 
18. sut mae herio a delio ag ymddygiad annerbyniol
19. y technegau diogelwch personol (gan gynnwys defnyddio grym) y gellir eu defnyddio’n gyfreithlon a phryd mae’n briodol i’w defnyddio 
20. sut mae nodi ac ystyried iechyd a diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch eraill
21. sut mae darparu cymorth cyntaf o fewn yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu mewn hyfforddiant 
22. sut mae amddiffyn y man lle bu’r digwyddiad a diogelu tystiolaeth

Dogfennau*

23. y mathau o ddogfennau y mae’n rhaid eu llenwi
24. sut mae cwblhau dogfennau’n ymwneud â digwyddiad
25. yr amserlenni ar gyfer llenwi, ffeilio ac anfon dogfennau ymlaen at bobl eraill

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;


digwyddiad: Digwyddiad heb ei gynllunio​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS EVS 3

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

diogelwch; digwyddiad; gwybodaeth; ymateb