Datblygu cynllun strategol i ddarparu diogelwch mewn digwyddiad

URN: SFSEVS2W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi bennu’r blaenoriaethau strategol, a gyflawnir gyda’r adnoddau i ddarparu Diogelwch mewn Digwyddiad. Mae’r safon hon hefyd yn datblygu ac yn gweithredu cynllun strategol cysylltiedig ar gyfer darparu’r gwasanaethau perthnasol.


Argymhellir y safon hon ar gyfer rheolwyr a chanddynt gyfrifoldebau yn cynnwys datblygu strategaeth ar gyfer darparu Diogelwch mewn Digwyddiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a blaenoriaethu amcanion strategol ar gyfer darparu diogelwch mewn digwyddiad sy'n gyson ag amcanion ariannol a strategaeth fusnes y sefydliad yn ogystal â'r gofynion ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

  2. asesu opsiynau strategol i gyflawni'r amcanion a dogfennu awgrymiadau sy'n cael eu hystyried ond nid eu defnyddio

  3. nodi ac asesu'r risgiau perthnasol o ran y farchnad, cystadleuwyr, rhanddeiliaid a busnes sy'n gysylltiedig â'r opsiynau a gafodd eu hystyried

  4. cydbwyso'r risgiau a nodwyd yn erbyn y canlyniadau y dymunir eu gweld

  5. edrych ar y cyfle i greu partneriaeth a chysylltiadau posibl at gyflawni'r strategaeth ac asesu'r cyfle hwnnw

  6. cytuno ar strategaeth sy'n adeiladu ar yr opsiwn(opsiynau) gorau, gan gynnwys amcanion penodol a pherthnasol

  7. nodi a blaenoriaethu mesurau perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso'r strategaeth, gan bennu a ddylid defnyddio adnoddau allanol ar eu cyfer

  8. nodi'r camau gweithredu a'r adnoddau angenrheidiol i weithredu'r strategaeth y cytunir arni, gydag amserlen ar gyfer cymryd y camau a nodwyd

  9. cyflwyno'r cynllun strategol, a cheisio cael pob rhanddeiliad perthnasol i ymrwymo i'w gyflawni

  10. cadw cofnodion a dogfennau cywir a chyfredol y mae modd eu hadfer, yn unol â gofynion eich sefydliad

  11. llunio datganiad o fwriad sy'n amlinellu cerrig milltir, atebolrwydd, ffiniau cyfrifoldebau a chamau gweithredu clir​​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol yn ogystal â gofynion y sefydliad sy’n ymwneud â datblygu cynlluniau strategol ar gyfer darparu diogelwch mewn digwyddiad, a’u heffaith ar eich maes gwaith

  2. rôl eich sefydliad a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â gwasanaethau diogelwch mewn digwyddiadau yn eich ardal

  3. strategaeth gyffredinol eich sefydliad sy’n berthnasol i ddarparu diogelwch mewn digwyddiad

  4. cyfyngiadau eich awdurdod a chyfrifoldeb, a’r camau i’w cymryd os eir y tu hwnt i’r cyfyngiadau hynny

  5. mentrau lleol a chenedlaethol perthnasol, a’u heffaith o ran darparu diogelwch mewn digwyddiad yn eich ardal

  6. y ffactorau sy’n effeithio ar y galw am ddiogelwch mewn digwyddiad yn eich ardal leol

  7. pwysigrwydd cynllunio ar gyfer y tymor hir a’r tymor canol i lwyddiant sefydliad

  8. egwyddorion cynllunio strategol

  9. y meysydd y mae’n rhaid ymdrin â hwy mewn cynllun strategol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad

  10. anghenion a disgwyliadau’r cwsmeriaid sy’n ymwneud â diogelwch mewn digwyddiad

  11. sut mae adnabod y risgiau posibl sy’n berthnasol i gyflawni’r amcanion

  12. sut mae datblygu datganiad o fwriad sy’n amlinellu cerrig milltir, atebolrwydd, ffiniau cyfrifoldebau a chamau gweithredu clir  

  13. sut mae dirprwyo cyfrifoldeb a dyrannu adnoddau i gefnogi cynllun strategol

  14. sut mae datblygu cynlluniau wrth gefn er mwyn mynd i’r afael â risgiau ac amgylchiadau sy’n newid

  15. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu’r cynllun strategol, a sut mae gwneud hyn yn effeithiol

  16. sut mae datblygu mesurau a dulliau i fonitro a gwerthuso perfformiad o’i gymharu â’r cynllun strategol, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol

  17. ffynonellau gwybodaeth i helpu i fonitro a gwerthuso’r cynllun strategol​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;


datganiad o fwriad: datganiad ysgrifenedig yn dangos bwriad y rheini sydd wedi llofnodi isod i ymrwymo i gytundeb ffurfiol, yn arbennig trafodyn neu drefniant busnes.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS EVS 2

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

blaenoriaethau strategol; datblygu; gweithredu, darparu; gwasanaethau