Cefnogi’r gwaith o gynllunio digwyddiad

URN: SFSEVS1W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi gasglu’r wybodaeth berthnasol i ddatblygu proffil digwyddiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cysylltu â’r holl bobl berthnasol er mwyn i chi allu llunio cynllun adferadwy sy’n nodi trefn a hyd y gweithgareddau yn glir ynghyd â dyrannu adnoddau

  2. creu llinell amser a neilltuo digon o amser i bob cam ym mhroses y digwyddiad er mwyn bodloni amcanion a defnyddio adnoddau’n effeithiol

  3. cysylltu’n agos â phobl berthnasol sy’n ymwneud â chynllunio ac amserlennu gweithgareddau digwyddiadau

  4. nodi ac ystyried ffactorau sy’n debygol o achosi oedi a chanslo gweithgareddau mewn digwyddiadau

  5. llunio cynlluniau realistig wrth gefn i ddelio ag unrhyw oedi a chanslo a all godi

  6. cael y caniatâd a’r gymeradwyaeth angenrheidiol

  7. gwneud yn siŵr bod cynlluniau ac amserlenni digwyddiadau yn gywir a’u bod yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol

  8. cyflwyno cynlluniau ac amserlenni yn glir, a’u dosbarthu’n ddi-oed i’r holl bobl berthnasol

  9. annog pobl berthnasol i nodi a mynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt am ymarferoldeb cynlluniau ac amserlenni

  10. awgrymu atebion realistig, pan nodir bod anawsterau wrth roi’r cynllun ar waith

  11. rhoi gwybod ar unwaith i’r holl bobl berthnasol am newidiadau i’r amserlenni

  12. cyfrannu at lunio a chynnal a chadw cynllun y digwyddiad a chyfeirio ato drwy’r amser 

  13. nodi a blaenoriaethu mesurau perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso’r strategaeth

  14. nodi gofynion y digwyddiad o ran adnoddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. trefn ofynnol y gweithgareddau a’r hyd tebygol yng ngwahanol gamau proses y digwyddiad

  2. pwysigrwydd y llinell amser

  3. ffactorau sy’n effeithio ar y ffordd y mae gweithgareddau’n cael eu hamserlennu

  4. natur a phwysigrwydd cymharol y gweithgareddau sy’n digwydd yng ngwahanol gamau proses y digwyddiad

  5. sut mae gwahanol amgylcheddau digwyddiad, mathau a maint digwyddiadau yn debygol o effeithio ar amserlennu’r gweithgareddau

  6. y cynlluniau ar waith i ddelio â’r mathau o sefyllfaoedd a all godi ac sy’n gofyn am gynllunio wrth gefn rhwng sefydliadau perthnasol

  7. ffactorau y dylid eu cynnwys yn y cynllun digwyddiad adferadwy 

  8. y mathau o anawsterau a allai godi wrth roi’r cynllun ar waith, a sut y gellid datrys y rhain

  9. pwy fydd angen cael gwybod am newidiadau i gynllun digwyddiad

  10. pwysigrwydd cynllun digwyddiad

  11. pam a sut mae nodi a blaenoriaethu’r mesurau perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso’r strategaeth

  12. sut a pham ei bod yn bwysig nodi gofynion y digwyddiad o ran adnoddau

  13. nodi rolau a chyfrifoldebau sefydliadau a phobl berthnasol

  14. fformat priodol cynllun y digwyddiad, a yw’r cynllun ar gael yn hwylus ac i bwy mae’r cynllun yn cael ei ddosbarthu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;

cynllun digwyddiad: amserlen digwyddiad, atodlen​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS EVS 1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

digwyddiad; cyngerdd; gig; sioe; perfformiad; cynllunio; amserlenni; adnoddau