Darparu gwybodaeth a chyngor yn ystod digwyddiad
URN: SFSEVS11W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar:
01 Maw 2013
Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi ddarparu gwybodaeth a chyngor yn ystod digwyddiad.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol:
1. Darparu gwybodaeth a chyngor i unigolion
2. Cynorthwyo unigolion i ddatrys cwynion
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Darparu gwybodaeth a chyngor i unigolion
1. cydnabod ceisiadau am wybodaeth a chyngor yn gwrtais ac yn ddiymdroi
2. nodi’n gywir beth yw anghenion unigolion o ran gwybodaeth a chyngor a chadarnhau’r anghenion hynny
3. cyfathrebu ag unigolion mewn ffordd glir ac mewn ffyrdd sydd fwyaf tebygol o fod yn ddealladwy i’r unigolyn
4. cymryd camau sy’n cefnogi anghenion unigolion ac yn ystyried sefyllfa’r unigolion
5. sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor a ddarperir yn briodol
6. gofyn yn gwrtais i unigolion gadarnhau bod y wybodaeth a ddarperir yn bodloni eu hanghenion
7. pan fydd unigolion yn anfodlon â’r wybodaeth a ddarperir, nodi a gweithredu ffyrdd eraill o fodloni eu hanghenion
8. rheoli disgwyliadau unigolion i wneud yn siŵr eu bod yn realistig
*Cynorthwyo unigolion i ddatrys cwynion *
9. nodi’n gywir beth yw natur y cwynion o’r wybodaeth a roddir gan unigolion
10. delio â chwynion, eu cydnabod yn glir a darparu ymateb priodol
11. sicrhau bod y camau i wneud iawn am gwynion yn gyson â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
12. cyfeirio’r mater at rywun priodol yn ddi-oed ac esbonio’r weithdrefn yn glir wrth y cwsmer pan na fydd y cam gweithredu sydd ei angen i ddelio â’r cwynion yn rhan o’ch cyfrifoldeb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
1. polisi’r sefydliad ar wasanaeth i gwsmeriaid a pherthynas â chwsmeriaid sut mae hyn yn berthnasol i’ch rôl
2. gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer delio â chwynion a sut mae asesu cwynion
Darparu gwybodaeth a chyngor i unigolion
3. sut mae rhoi gwybodaeth briodol
4. gwybodaeth benodol am ddigwyddiad a gwybodaeth sy’n ymwneud â digwyddiad
*Cynorthwyo unigolion i ddatrys cwynion *
5. pa ffyrdd eraill y gellir eu cynnig i unigolion
6. sut mae rheoli disgwyliadau unigolion
7. pwysigrwydd cadw cyfrinachedd unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Security
URN gwreiddiol
SFS EVS 11
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
diogelwch; digwyddiad; gwybodaeth; cyngor; cwynion