Gweithio’n effeithiol gydag asiantaethau eraill

URN: SFS6W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill.  


Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

Datblygu gweithio effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill
Cynnal gweithio effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill

Grŵp Targed

Bwriedir i’r safon hon fod yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio yn y sector diogelwch ac sy’n gweithio’n gyson gyda phobl o asiantaethau eraill.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Datblygu gweithio effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill *


1. deall rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol bobl ac asiantaethau a fydd yn gweithio gyda chi
2. cytuno a chofnodi trefniadau ar gyfer cydweithio sy’n: 
a) addas i natur a phwrpas y gwaith, 
b) tebygol o fod yn effeithiol o ran cyflawni eu nodau
3. cytuno ar y wybodaeth y mae angen ei rhannu, y rhesymau dros hyn a sut mae sicrhau diogelwch gwybodaeth
4. trafod a chytuno ar sut a phryd y bydd y cydweithio’n cael ei fonitro a’i adolygu

Cynnal gweithio effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill *

5. cyflawni’ch rôl yn y cydweithio mewn modd sy’n gyson â’r cytundebau a wnaed, rôl eich swydd eich hun a pholisïau a safonau perthnasol
6. rhyngweithio â phobl yn yr asiantaeth arall mewn ffyrdd sy’n: 
7. annog perthynas a chyfranogi effeithiol, 
8. parchu eu safbwyntiau, eu rolau a’u cyfrifoldebau, 
9. hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth,  
10. cydnabod y gwerth o gydweithio
11. cynrychioli safbwyntiau a pholisïau’ch asiantaeth mewn modd clir ac adeiladol
12. sylwi ar unrhyw densiynau a phroblemau yn y cydweithio a cheisio eu datrys gyda’r bobl dan sylw
13. gofyn am y cymorth priodol pan gewch anhawster gweithio’n effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad


1. gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, a’r ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â chydweithio a sut maent yn effeithio ar yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Meithrin a chynnal perthynas waith effeithiol gyda’r staff mewn asiantaethau eraill

2. natur a diben y sector
3. rolau a swyddogaethau’r prif asiantaethau yn y sector a’u strwythurau cyffredinol, dulliau cyfathrebu a phrosesau gwneud penderfyniadau
4. sut mae strwythur a diwylliant asiantaeth yn gallu effeithio ar y cydweithio
5. egwyddorion a manteision cydweithio rhwng gwahanol asiantaethau
6. y ffactorau sy’n debygol o fod yn rhwystr i’r cydweithio (fel stereoteipio, gwahaniaethu)
7. y rhesymau dros gytuno ynghylch sut ddylai’r cydweithio ddigwydd pan fydd gwahanol unigolion yn dod yn rhan ac wrth esbonio rolau a chyfrifoldebau 
8. dulliau effeithiol o ganfod a datrys tensiynau a phroblemau
9. eich cymhwysedd eich hun i gydweithio ac i wybod pryd mae gofyn am ragor o gymorth
10. dulliau adolygu effeithiolrwydd y perthynas gydweithio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS6

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweithio; cysylltiadau; asiantaethau