Cyfathrebu’n effeithiol ag eraill

URN: SFS4W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 31 Maw 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu’n effeithiol ag eraill – ar lafar, ar bapur, gan ddefnyddio ffurfiau electronig a/neu delegyfathrebu a defnyddio ffyrdd o gyfathrebu heb eiriau.  


Defnyddir y term ‘eraill’ yn fras i gynnwys unrhyw blentyn, oedolyn, grŵp, cymuned neu asiantaeth y daw gweithwyr i gysylltiad â hwy, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.  Mae’n cynnwys aelodau’r cyhoedd, unigolion sy’n gleientiaid y sector diogelwch, a chydweithwyr yn y gweithle.

Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

Datblygu a chynnal sianelau cyfathrebu â phobl
Sicrhau diogelwch gwybodaeth

Grŵp Targed

Bwriedir i’r safon hon fod yn berthnasol i bawb sy’n gweithio yn y sector diogelwch. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Datblygu a chynnal sianelau cyfathrebu gyda phobl *


1. cyfathrebu mewn ffordd sy’n gyson â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol
2. cyfathrebu â phobl mewn ffordd a chan ddefnyddio iaith sy’n:
3. agored ac yn dangos parch iddynt fel unigolion, 
4. cyson â’u lefel o ddealltwriaeth, diwylliant, cefndir a’u hoff ffyrdd o gyfathrebu, 
5. addas i gyd-destun y cyfathrebu, 
6. hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
7. rhoi cyfleoedd i bobl sicrhau eu bod yn deall y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi iddynt a gofyn cwestiynau
8. cymryd y camau priodol i leihau unrhyw rwystrau rhag cyfathrebu’n effeithiol
9. gwneud cofnodion cywir, dealladwy a chyflawn, sy’n cynnwys ond y wybodaeth sy’n angenrheidiol at ddiben y cofnod, heb labelu na gwahaniaethu
10. gofyn am gymorth pan gewch anhawster i gyfathrebu’n briodol

Sicrhau diogelwch gwybodaeth *

11. cydymffurfio â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â diogelwch gwybodaeth
12. datgelu gwybodaeth ond i’r rheini sydd â’r hawl i’w chael ac y mae angen iddynt wybod
13. cymryd y rhagofalon priodol wrth gyfleu gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif
14. sicrhau diogelwch cofnodion wrth eu defnyddio a’u storio
15. rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os ydych yn meddwl nad yw diogelwch gwybodaeth yn cael ei sicrhau neu fod y wybodaeth yn cael ei chamddefnyddio​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyfathrebu’n effeithiol ag eraill


1. gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfathrebu ac yn benodol â diogelwch a rheoli gwybodaeth 
2. natur cyfathrebu effeithiol (gan gynnwys pan fyddwch chi’n teimlo’n hyderus wrth gyfathrebu a phan na fyddwch chi)
3. y rhesymau pam mae cyfathrebu’n effeithiol yn agwedd hanfodol o waith yn y sector diogelwch
4. yr hyn sy’n rhwystro cyfathrebu effeithiol gan gynnwys:
a) y rhwystrau sy’n ymwneud â gwahaniaethau personol o ran: diwylliant, iaith, rhyw unigolyn, lefelau llythrennedd, profiad, iechyd/salwch
b) rhwystrau amgylcheddol
c) rhwystrau cymdeithasol
5. sut mae addasu’r cyfathrebu fel bod llai o wahaniaethau rhyngoch chi a’r bobl rydych chi’n cyfathrebu â hwy
6. sut mae cyfathrebu â phobl mewn ffyrdd sy’n agored iddynt, yn dangos parch ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth (heb ddefnyddio geiriau, ar lafar, ar bapur ac yn electronig)
7. sut mae cyd-destun y cyfathrebu’n gallu effeithio ar allu pobl i ddeall a chyfathrebu
8. y rhesymau pam ddylid holi pobl i wneud yn siŵr eu bod yn deall y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi iddynt a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau
9. y camau y gellir eu cymryd i leihau rhwystrau rhag cyfathrebu a sut mae eu rhoi ar waith
10. natur a diben y cofnodion a wnewch
11. natur y wybodaeth a allai fod yn sensitif a/neu’n gyfrinachol, a’r ffordd gynnil o drin hyn
12. y rhesymau dros wneud cofnodion sydd ond yn cynnwys y wybodaeth sy’n angenrheidiol at ddiben y cofnod, heb labelu na gwahaniaethu
13. y rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth i’r bobl hynny yn unig sydd â’r hawl i’w chael ac y mae angen iddynt wybod, a sut rydych chi’n gwybod pwy yw’r bobl hyn
14. beth yw’r rhagofalon priodol wrth gyfleu gwybodaeth
15. sut mae defnyddio a storio gwybodaeth mewn modd diogel a saff
16. y rhesymau dros roi gwybod i rywun priodol pan fyddwch yn pryderu am faterion yn codi ynghylch defnyddio/camddefnyddio gwybodaeth, a phwy allai’r unigolyn hwnnw fod ar wahanol achlysuron ac o dan wahanol amgylchiadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS4

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfathrebu; datblygu; pobl; ysgrifennu; llafar, telegyfathrebu