Hybu diwylliant iach a diogel yn y gweithle

URN: SFS3W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal yr ymchwil a’r gwaith cynllunio sy’n angenrheidiol i ddatblygu diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol a chynnwys pobl eraill drwy ymgynghori, cyfathrebu a chyflwyniadau.  Mae’n ymwneud hefyd ag annog diwylliant lle mae newidiadau, a allai effeithio ar gyfarwyddiadau iechyd a diogelwch, yn cael eu trafod a’u datrys gyda’r bobl sy’n gyfrifol am faterion iechyd a diogelwch.


Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

Datblygu cynlluniau i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle
Rhoi cynlluniau ar waith i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle

Grŵp Targed

Mae’r safon hon ar gyfer y rheini sy’n gyfrifol am annog eraill i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch drwy hyrwyddo’r manteision o wneud hynny.

Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau’r Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth (ENTO ) (yr hen NTO Cyflogaeth).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Datblygu cynlluniau i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle


1. nodi’n gywir lle mae angen gwelliannau a newidiadau gan ddefnyddio ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn y gweithle
2. canfod sut mae gwybodaeth am gyfarwyddiadau a rheoliadau iechyd a diogelwch yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd yn y gweithle
3. canfod lefel dealltwriaeth bresennol pobl yn y gweithle o gyfarwyddiadau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r gefnogaeth ar gyfer hynny
4. seilio’ch cynlluniau gwella ar eich canfyddiadau
5. disgrifio’n gryno yn eich cynlluniau yr adnoddau hynny sy’n angenrheidiol i wella’r diwylliant iechyd a diogelwch presennol
6. cynnwys mesurau perfformiad addas a dyddiadau adolygu yn eich cynlluniau

Rhoi cynlluniau ar waith i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle

7. cyflwyno’ch cynlluniau ar gyfer hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch i’r bobl briodol mewn ffordd glir ac effeithiol
8. adnabod y bobl hynny yn y gweithle y bydd angen gwybodaeth a chyngor arnynt am y cynlluniau i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle
9. gwneud yn siŵr bod gwybodaeth a chyngor perthnasol yn cael ei ddarparu ar amser, lefel a chyflymder priodol
10. gwneud yn siŵr bod eich cynlluniau’n cynnwys hyrwyddo’r manteision a ddaw wrth ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r rheidrwydd cyfreithiol
11. darparu cyfleoedd ymarferol i ymgynghori’n rheolaidd ar faterion iechyd a diogelwch a ffyrdd o annog syniadau ynghylch arferion da
12. monitro effeithiolrwydd eich cynlluniau’n rheolaidd gan eu cymharu â mesurau perfformiad y cytunwyd arnynt
13. canfod ac adolygu cyfleoedd ar gyfer rhagor o welliannau i ddiwylliant iechyd a diogelwch yn y gweithle


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Hybu diwylliant iach a diogel yn y gweithle


  1. prif gyfrifoldebau cyfreithiol y cyflogwyr a’r gweithwyr o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle

  2. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â rôl eich swydd

  3. sut mae dehongli data iechyd a diogelwch gweithle a gedwir yn y gweithle sy’n ymwneud ag asesiadau risg, digwyddiadau a chwynion, gan ddangos lefel y ddealltwriaeth am iechyd a diogelwch yn y gweithle

  4. strwythur a llinellau cyfathrebu’r sefydliad 

  5. cyfarwyddiadau’r gweithle ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori a chydweithwyr a phobl eraill yn y gweithle

  6. pa beryglon a allai fod yn eich gweithle

  7. y risgiau iechyd a diogelwch penodol a allai fod yn bresennol yn eich swydd eich hun 

  8. y risgiau iechyd a diogelwch penodol a allai fod yn bresennol yn swyddi pobl eraill

  9. pwysigrwydd bod yn effro bob amser i’r peryglon a all fod yn bresennol yn y gweithle drwyddo draw

  10. pwysigrwydd delio â risgiau, neu roi gwybod amdanynt yn ddi-oed

  11. y llefydd gweithio a’r swyddi lle rydych yn adolygu’r arferion gweithio presennol 

  12. gofynion y gweithle o ran cynnal adolygiad o arferion gweithio cyfredol

  13. eich gallu eich hun a chwmpas eich swydd

  14. y llefydd gweithio a’r bobl sy’n gweithio yno

  15. anghenion gwybodaeth y bobl hynny yn y gweithle y mae’r cynlluniau’n effeithio’n arnynt

  16. y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael am iechyd a diogelwch yn y gweithle

  17. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i bobl yn rheolaidd a thrafod eu rhan


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ENTO

URN gwreiddiol

HSS4

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Darpariaeth Weithredol, Canolfan Gyswllt, iechyd a diogelwch, gwelliannau a newidiadau, cyfarwyddiadau, rheoliadau a gweithdrefnau, datblygu cynlluniau, rhoi cynlluniau ar waith