Amddiffyn eich hun rhag y risg o drais yn y gwaith
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thawelu sefyllfa a allai fod yn beryglus drwy geisio peidio gweithredu neu ddefnyddio geiriau a allai sbarduno ymddygiad treisgar a drwy ddangos parch at bobl, eu heiddo a’u hawliau. Mae’n ymwneud ag ymateb i sefyllfa, ceisio tawelu’r sefyllfa honno a, lle y bo’n briodol, gadael sefyllfa sy’n peri bygythiad yn ddiogel. Mae’n ymwneud hefyd ag adolygu’r digwyddiad at ddibenion cofnodi a monitro
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu i liniaru sefyllfa a allai droi'n dreisgar
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Amddiffyn eich hun rhag y risg o drais yn y gwaith
eich dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau eich lles, eich iechyd a’ch diogelwch yn y gweithle fel yr esbonnir gan ddeddfwriaeth berthnasol ym maes iechyd a diogelwch yn y gwaith
rôl, cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich swydd
eich gallu eich hun a’ch cyfyngiadau o ran diogelu’ch hun mewn sefyllfaoedd a allai droi’n dreisgar
pan fo’n briodol ac yn bosibl, cadw pellter diogel ac osgoi cyswllt corfforol
pwysigrwydd dangos parch tuag at bobl, eu heiddo a’u hawliau a sut mae gwneud hynny
sut mae osgoi ymddygiad neu iaith a allai ddangos eich bod gwahaniaethu neu’n ymddwyn yn ormesol
sut mae dehongli iaith corff syml a phwysigrwydd cydnabod gofod personol pobl eraill
pwysigrwydd bod yn effro i’r hyn sy’n sbarduno ymddygiad treisgar
pwysigrwydd cynllunio sut byddwch yn gadael sefyllfa os oes risg gorfforol gan gynnwys sylwi lle mae’r llwybrau ymadael agosaf
y prif arwyddion sy’n dangos y gallai sefyllfa arwain at ymddygiad treisgar a sut mae adnabod y rhain
pryd mae gadael y man lle bu’r digwyddiad, gofyn am help a defnyddio technegau diogel i adael y sefyllfa
y mathau o ymddygiad a chamau gweithredu y gallech eu rhoi ar waith i dawelu sefyllfaoedd
gweithdrefnau’ch sefydliad i ddelio ag ymddygiad treisgar
pwysigrwydd cael cyfle i siarad â rhywun am y digwyddiad ar ei ôl
yr adroddiadau sydd angen eu gwneud a’r cofnodion sydd angen eu cadw am achos o drais a ddigwyddodd neu a allai fod wedi digwydd
dulliau cyfathrebu effeithiol