Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio offer radio yn effeithiol, gan gynnwys darlledu a derbyn dros y radio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
*Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol *
- defnyddio offer radio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr 
- cydnabod ac ymateb yn glir ac yn syth i negeseuon a ddaw i mewn, gan ddefnyddio’r derminoleg a’r gweithdrefnau priodol ar gyfer eich sefydliad 
- trosglwyddo gwybodaeth i’r bobl briodol, ac i’r rheini sydd â’r awdurdod i’w chael, o fewn amserlenni y cytunir arni yn y sefydliad 
- defnyddio offer cyfathrebu am allan yn unol â gweithdrefnau a chanllawiau’ch sefydliad 
- cadarnhau bod y bobl sy’n cael y wybodaeth gennych yn ei deall 
- defnyddio’r wyddor ffonetig yn gywir, lle bo angen 
- cydymffurfio â rheoliadau statudol wrth ddefnyddio sianeli ac amledd 
- cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau’ch sefydliad wrth ddarlledu a derbyn dros y radio 
- rhoi gwybod ar unwaith ac yn gywir i’r unigolyn perthnasol am unrhyw anawsterau wrth ddarlledu a derbyn gwybodaeth 
- cadw cofnodion cyfredol, cyflawn a chywir o negeseuon a ddarlledir ac a dderbynnir 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol
- effaith rheoliadau sy’n effeithio ar ddarlledu a derbyn negeseuon dros y radio mewn sefyllfaoedd arferol ac mewn argyfwng 
- sut mae defnyddio’r offer cyfathrebu dros y radio a ddefnyddir yn eich sefydliad 
- y gweithdrefnau cywir i gadarnhau bod yr offer cyfathrebu dros y radio yn gweithio’n iawn, a beth i’w wneud os nad yw 
- terfynau eich awdurdod a’ch cyfrifoldeb dros drosglwyddo gwybodaeth 
- yr hyn sy’n achosi darlledu neu dderbyniad gwael, a pha gamau i’w cymryd i wella’r cyfathrebu 
- sut mae dilyn gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch y derminoleg y dylid ei defnyddio, fel yr wyddor ffonetig, y cloc 24 awr, arwyddion galwad, adnabod y sawl sy’n galw a chyfrineiriau 
- gofynion eich sefydliad o ran rhoi gwybod am anawsterau wrth ddarlledu gwybodaeth gan ddefnyddio offer radio 
- gofynion eich sefydliad o ran cofnodi a chadw cofnodion o gyfathrebu dros y radio