Asesu'r risg i’r amgylchedd a rhoi sylw i hynny

URN: SFS16W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldebau pawb yn y gwaith i leihau’r risgiau i’r amgylchedd o ganlyniad i weithgareddau’r gwaith.  Mae’n disgrifio’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer sicrhau:


nad yw’r camau a gymerwch yn cynyddu’r risg i’r amgylchedd
nad ydych yn anwybyddu risgiau sylweddol i’r amgylchedd
eich bod yn cymryd camau synhwyrol i gywiro pethau, gan gynnwys rhoi gwybod am risgiau, a gofyn am gyngor

Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

Nodi’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle
Lleihau’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle 

Grŵp Targed

Mae hyn yn berthnasol i bob swydd yn y sector diogelwch ac mae’n briodol i bobl sy’n gweithio ar bob lefel ac ym mhob swydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Nodi’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle


1. adnabod y bobl yn y gweithle y dylech roi gwybod iddynt ynghylch materion amgylcheddol
2. gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod am yr arferion gweithio diweddaraf sy’n parchu’r amgylchedd ac sy’n berthnasol i’ch gweithle
3. nodi unrhyw arferion gweithio presennol yn rôl eich swydd a allai beri niwed i’r amgylchedd
4. nodi unrhyw ddeunyddiau, cynnyrch neu offer a ddefnyddir mewn unrhyw ran o rôl eich swydd a allai beri niwed i’r amgylchedd
5. rhoi gwybod am unrhyw wahaniaethau rhwng rheoliadau cyfreithiol a chyfarwyddiadau gweithle a defnyddio deunyddiau neu gynnyrch sy’n beryglus i’r amgylchedd
6. rhoi gwybod ar unwaith i’r bobl sy’n gyfrifol am faterion amgylcheddol am y peryglon hynny sy’n peri risg mawr

*Lleihau’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle *

7. dilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau amgylcheddol y gweithle ar gyfer rôl eich swydd
8. rheoli’r peryglon i’r amgylchedd o fewn eich gallu a chwmpas cyfrifoldebau eich swydd 
9. rhoi gwybod ar unwaith am risgiau i’r amgylchedd na allwch chi ddelio â hwy
10. trosglwyddo unrhyw awgrymiadau ar gyfer lleihau’r risgiau i’r amgylchedd  i’r unigolyn cyfrifol
11. dilyn cyfarwyddiadau’r cyflenwyr, y gwneuthurwyr a’r gweithle ar gyfer defnyddio a storio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. dilyn y cyfarwyddiadau cywir ar gyfer delio â deunyddiau a chynnyrch a all fod yn beryglus i’r amgylchedd
13. dilyn y cyfarwyddiadau cywir ar gyfer cael gwared ar ddeunyddiau a chynnyrch a all fod yn beryglus i’r amgylchedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Asesu'r risg i’r amgylchedd a rhoi sylw i hynny


  1. y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion amgylcheddol sy’n effeithio ar eich gweithle

  2. eich cyfrifoldebau dros yr amgylchedd fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â rôl eich swydd

  3. y risgiau penodol i’r amgylchedd a allai fod yn bresennol yn eich gweithle a/neu yn rôl eich swydd

  4. sut mae defnyddio adnoddau a deunyddiau’n effeithlon ac yn effeithiol

  5. pwysigrwydd bod yn effro bob amser i’r peryglon i’r amgylchedd a all fod yn bresennol yn y gweithle drwyddo draw

  6. pwysigrwydd delio â risgiau i’r amgylchedd, neu roi gwybod amdanynt yn ddi-oed

  7. y sylweddau a’r prosesau sy’n cael eu categoreiddio fel rhai peryglus i’r amgylchedd

  8. cyfarwyddiadau, rhagofalon a gweithdrefnau’r gweithle sy’n berthnasol i reoli’r risgiau i’r amgylchedd 

  9. cyfrifoldebau dros eitemau (deunyddiau/offer) a all fod yn beryglus i’r amgylchedd a nodir yn eich disgrifiad swydd 

  10. y bobl gyfrifol y dylech roi gwybod iddynt am faterion amgylcheddol

  11. y cyfarwyddiadau amgylcheddol sy’n benodol i’r gweithle sy’n ymwneud â rôl eich swydd

  12. cyfarwyddiadau’r cyflenwyr, y gwneuthurwyr a’r gweithle ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch a all fod yn beryglus i’r amgylchedd

  13. yr arferion gweithio ar gyfer rôl eich swydd

  14. cyfarwyddiadau cywir ar gyfer delio â deunyddiau a all fod yn beryglus i’r amgylchedd

  15. eich cyfrifoldeb dros reoli peryglon i’r amgylchedd

  16. cyfarwyddiadau’r gweithle ar gyfer delio â pheryglon i’r amgylchedd na allwch chi ddelio â hwy


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS 16

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

risg; amgylchedd; camau; adrodd; gofyn; cyngor