Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

URN: SFS14W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ymhlith pobl. Mae hyn yn agwedd hanfodol ar bob swydd yn y sector diogelwch ac mae’n briodol i bobl sy’n gweithio ar bob lefel ac ym mhob swydd. Dylai hyn fod yn sail i bopeth y bydd unrhyw weithiwr yn y sector yn ei wneud. 


Defnyddir y term ‘pobl’ yn fras i gynnwys unrhyw blentyn, oedolyn, grŵp, cymuned neu asiantaeth y daw gweithwyr i gysylltiad â hwy, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae’n cynnwys aelodau’r cyhoedd, unigolion sy’n gleientiaid y sector diogelwch, a chydweithwyr yn y gweithle.

Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgaredd canlynol:

Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

Grŵp Targed

Mae hyn yn agwedd hanfodol ar bob swydd yn y sector diogelwch ac mae’n briodol i bobl sy’n gweithio ar bob lefel ac ym mhob swydd. Dylai hyn fod yn sail i bopeth y bydd unrhyw weithiwr yn y sector yn ei wneud.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

*​Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth *


  1. gweithredu yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau cyflogaeth a chodau ymarfer sy’n berthnasol i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

  2. gweithredu mewn ffyrdd sy’n: cydnabod ac adnabod cefndir a chredoau unigolion, parchu amrywiaeth, gwerthfawrogi pobl fel unigolion, a pheidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl

  3. darparu gwybodaeth sydd ei hangen ar unigolion er mwyn iddynt wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ymarfer eu hawliau

  4. darparu gwybodaeth mewn fformat sy’n briodol i’r unigolyn 

  5. ystyried sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar unigolion a'u profiad o ddiwylliant ac agwedd eich sefydliad

  6. gofyn am adborth gan unigolion am eich ymddygiad a’i ddefnyddio i wella beth rydych chi’n ei wneud yn y dyfodol

  7. herio pobl pan na fyddant yn hybu cydraddoldeb nac yn gwerthfawrogi amrywiaeth

  8. helpu eraill i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

  9. gofyn am gymorth gan ffynonellau priodol pan rydych yn ei chael yn anodd deall sut mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth​


  1. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r polisïau cyflogaeth, a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth a sut mae angen i chi gymhwyso’r rhain

  2. manteision amrywiaeth a hybu cydraddoldeb

  3. yr amrywiaeth eang o ffurfiau ar wahaniaethu a sut gall y rhain ddod i’r amlwg

  4. sut mae anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn effeithio ar unigolion, grwpiau a chymunedau a chymdeithas yn gyffredinol

  5. pam mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn hollbwysig os ydych am weithio’n effeithiol yn y sector diogelwch

  6. beth mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei olygu i chi yn eich gwaith bob dydd

  7. sut gallwch hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a hefyd amddiffyn pobl rhag y risg o gael niwed

  8. y meysydd i chi eu datblygu’n bersonol o ran hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth a sut bydd hyn o fudd i chi fel unigolyn

  9. effaith gwahaniaethau diwylliannol ar gyfathrebu llafar a chyfathrebu heb ddefnyddio geiriau

  10. sut mae ymddwyn a chyfathrebu mewn ffyrdd:

  11. sy’n cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth

  12. nad ydynt yn eithrio nac yn peri tramgwydd i bobl

  13. yn herio gwahaniaethu

  14. yn parchu gwahaniaethau unigolion

  15. nad yw’n camddefnyddio’r statws a’r pŵer sydd gennych

  16. sut mae eich ymddygiad yn cyfrannu at ddiwylliant eich sefydliad a’ch cyfrifoldeb dros ddatblygu diwylliant cadarnhaol i bawb

  17. sut mae cydweithio ag asiantaethau a gweithwyr eraill yn gallu helpu i hybu amrywiaeth

  18. sut mae darparu’r wybodaeth y mae gan unigolion yr hawl i’w chael a gwneud yn siŵr ei bod yn glir ac yn fuddiol

  19. eich gweithredoedd chi a gweithredoedd pobl eraill sy’n tanseilio cydraddoldeb ac amrywiaeth a beth i’w wneud ynghylch hyn (gan gynnwys pan fydd y bobl hyn mewn swyddi uwch na chi)

  20. beth i’w wneud am systemau a strwythurau nad ydynt yn hybu cydraddoldeb nac yn gwerthfawrogi amrywiaeth

  21. y camau y gallwch chi eu cymryd i helpu pobl eraill i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth a sut mae gwneud hyn yn effeithiol

  22. y camau y gallwch chi eu cymryd i werthfawrogi’r bobl rydych chi’n rhyngweithio â hwy a’u galluogi i ryngweithio â chi

  23. pam y dylech chi ofyn am gymorth pan fyddwch yn ei chael yn anodd hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth, ymhle mae cael gafael ar y cymorth hwn a sut mae ei ddefnyddio’n effeithiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS 14

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydraddoldeb; amrywiaeth; hybu; gwerthfawrogi; pobl