Rheoli eich adnoddau eich hun a’ch datblygiad proffesiynol

URN: SFS13W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 31 Maw 2009

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’ch adnoddau personol (yn arbennig, gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, profiad ac amser) a’ch datblygiad proffesiynol er mwyn cyflawni’ch amcanion gwaith a’ch nodau personol a nodau gyrfa.


Mae angen i chi ddeall rôl eich gwaith a sut mae’n cydweddu â gweledigaeth ac amcanion cyffredinol y sefydliad yn ogystal â deall beth sydd yn eich ysgogi o ran eich gwerthoedd a’ch dyheadau o ran eich gyrfa a’ch dyheadau personol ehangach. 

Mae adnabod bylchau yn eich sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a rhoi sylw iddynt yn agwedd hanfodol o’r safon hon.

Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgaredd canlynol:

Rheoli eich adnoddau eich hun a’ch datblygiad proffesiynol 

Grŵp Targed

Pawb sy’n gweithio yn y sector busnes diogelwch preifat.

Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau Rheoli a Dysgu y Ganolfan Safonau Rheoli (MSC) lle mae’n ymddangos fel Uned A2.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rheoli eich adnoddau eich hun a’ch datblygiad proffesiynol ​


  1. bob hyn a hyn, gwerthuso gofynion presennol rôl eich gwaith a’r gofynion yn y dyfodol gan ystyried gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad

  2. ystyried eich gwerthoedd a’ch nodau personol a’ch nodau gyrfa a nodi gwybodaeth sy’n berthnasol i rôl eich gwaith a’ch datblygiad proffesiynol 

  3. trafod a chytuno ar amcanion gwaith personol gyda’r rheini rydych chi’n adrodd wrthynt a sut byddwch yn mesur cynnydd

  4. nodi’r arddulliau dysgu sy’n gweithio orau i chi a sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’r rhain wrth bennu gweithgareddau datblygu a’u rhoi ar waith

  5. nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion rôl eich gwaith yn awr ac yn y dyfodol a’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd

  6. trafod a chytuno ar gynllun datblygu gyda’r rheini rydych chi’n adrodd wrthynt er mwyn rhoi sylw i unrhyw fylchau a welir yn eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar y pryd, a chefnogi eich nodau personol a’ch nodau gyrfa

  7. rhoi’r gweithgareddau a nodir yn eich cynllun datblygu ar waith a gwerthuso eu cyfraniad i’ch perfformiad

  8. adolygu a diweddaru eich amcanion gwaith personol a chynllun datblygu yng ngoleuni’r perfformiad, unrhyw weithgareddau datblygu ac unrhyw newidiadau ehangach

  9. cael adborth defnyddiol a rheolaidd am eich perfformiad gan y rheini sydd mewn sefyllfa dda i farnu a rhoi adborth gwrthrychol a dilys

  10. sicrhau bod eich perfformiad yn bodloni gofynion y cytunwyd arnynt yn gyson neu’n mynd y tu hwnt iddynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol


1. yr egwyddorion sy’n sail i ddatblygiad proffesiynol
2. pwysigrwydd ystyried eich gwerthoedd a’ch nodau personol a’ch nodau gyrfa a sut mae eu gwneud yn berthnasol i rôl eich swydd a’ch datblygiad proffesiynol 
3. sut mae gwerthuso gofynion presennol rôl gwaith a sut gall y gofynion ddatblygu yn y dyfodol
4. sut mae gosod amcanion sy’n benodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac amserol
5. sut mae dynodi anghenion dysgu er mwyn rhoi sylw i unrhyw fylchau a welir rhwng gofynion rôl eich gwaith a’ch gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau ar y pryd
6. beth ddylid ei gynnwys mewn cynllun datblygu effeithiol a’r cyfnod amser y dylai fod yn weithredol
7. yr amrywiaeth o arddull(iau) dysgu gwahanol a sut mae adnabod yr arddull(iau) sy’n gweithio orau i chi
8. y math o weithgareddau datblygu y gellir eu gwneud i roi sylw i fylchau a welir yn eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau
9. sut mae gweld a yw gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad neu sut maent wedi gwneud hynny
10. sut mae diweddaru amcanion gwaith a chynlluniau datblygu yng ngoleuni perfformiad, adborth a gafwyd, unrhyw weithgareddau datblygu ac unrhyw newidiadau ehangach 
11. monitro ansawdd eich gwaith a’ch cynnydd o’i gymharu â’r gofynion a’r cynlluniau
12. sut mae gwerthuso’ch perfformiad o’i gymharu â gofynion rôl eich gwaith
13. sut mae nodi a defnyddio ffynonellau da o adborth am eich perfformiad 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i ddiogelwch

14. gofynion o ran datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus yn y diwydiant diogelwch

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i gyd-destun penodol

15. gofynion rôl eich gwaith gan gynnwys terfynau’ch cyfrifoldebau
16. gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad
17. eich gwerthoedd a’ch nodau personol a nodau gyrfa
18. eich amcanion gwaith personol
19. yr arddull(iau) dysgu sydd orau gennych
20. eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ar y pryd
21. bylchau a welir yn eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ar y pryd
22. eich cynllun datblygu personol 
23. cyfleoedd datblygu ac adnoddau sydd ar gael yn eich sefydliad
24. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad o ran datblygiad personol
25. llinellau adrodd yn eich sefydliad
26. ffynonellau posibl o adborth yn eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2013

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Management Standards Centre

URN gwreiddiol

A2

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rheoli, eich hun, adnoddau, proffesiynol, datblygiad