Cynnal gwiriadau stoc a chofnodi’r canlyniadau mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS34
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal gwiriadau stoc a chofnodi’r canlyniadau, mewn cyfleusterau logisteg, fel rhan o archwiliad wedi ei gynllunio, neu ar gais. 

Mae’n cynnwys nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau sydd yn gysylltiedig â defnyddio’r gweithdrefnau adrodd sefydliadol wrth wirio stoc.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau diben a’r raddfa amser ar gyfer cynnal y gwiriad stoc yn y cyfleuster logisteg a sut i gofnodi’r canlyniadau
  2. cadarnhau pa adnoddau sydd ar gael i gwblhau’r gwiriad stoc
  3. cadarnhau bod cydweithwyr sydd yn cymryd rhan yn y gwiriad stoc yn gwybod eu rolau a’u cyfrifoldebau unigol 
  4. cyfathrebu cynnydd y gwiriad stoc wrth y cydweithwyr perthnasol 
  5. cadarnhau bod canlyniadau’r gwiriad stoc yn cael eu cofnodi a’u cydgrynhoi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. cymharu canfyddiadau’r gwiriad stoc yn erbyn cofnodion stoc er mwyn nodi unrhyw anghysondebau
  7. nodi ac ymateb i unrhyw faterion neu anghysondebau a nodir gan y gwiriad stoc
  8. nodi materion diogeledd yn ymwneud â’r gwiriad stoc a’r camau sydd yn deillio ohonynt
  9. cynhyrchu a dosbarthu eich adroddiad gwirio stoc i’r cydweithwyr perthnasol
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gwiriad stoc


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pwysigrwydd cynnal gwiriadau stoc mewn cyfleusterau logisteg, a pha mor aml y maent yn angenrheidiol gan eich sefydliad
  2. fformat, strwythur a chynnwys yr adroddiadau gwirio stoc sydd yn angenrheidiol gan eich sefydliad
  3. yr adnoddau sydd yn ofynnol i gynnal gwiriad stoc, a sut i gael y rhain
  4. sut i nodi unrhyw anghysondebau rhwng ffigurau gwirio stoc a chofnodion stoc
  5. y systemau rheoli stoc a ddefnyddir yn eich sefydliad
  6. y mathau o faterion gyda gwiriad stoc a sut i ymateb i’r rhain
  7. y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau cofnodi a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion
  8. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
  9. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol,cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gwiriad stoc


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gwirio stoc: archwilio, cyfrif, ailgyfrif, cysoni

Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS34

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

gwirio; stoc; lefelau; cofnodion