Prosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS32
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys nodi pa nwyddau a deunyddiau sydd yn addas ar gyfer ailgylchu, ailddefnyddio, ailwerthu neu eu gwaredu. Bydd yn cynnwys paratoi’r nwyddau a’r deunyddiau ar gyfer eu symud ymlaen ac ymateb i broblemau sydd yn codi wrth ddidoli’r nwyddau a’r deunyddiau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r nwyddau a’r deunyddiau a chynnal gwiriadau cychwynnol i bennu eu haddasrwydd ar gyfer eu prosesu neu eu gwaredu
  2. didoli’r nwyddau a’r deunyddiau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer prosesu neu waredu mewn gweithrediadau logisteg
  3. cael gwybodaeth a chyngor lle nad ydych yn gallu nodi neu ddosbarthu nwyddau a deunyddiau
  4. ymdrin â nwyddau a deunyddiau gan ddefnyddio dulliau ymdrin a chyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. symud y rhannau o’r nwyddau a’r deunyddiau na ellir eu hailgylchu a gwaredu’r rhain yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. gosod y nwyddau a’r deunyddiau sydd yn addas ar gyfer eu  prosesu neu eu gwaredu yn y lleoliadau angenrheidiol
  7. paratoi’r nwyddau a’r deunyddiau ar gyfer eu prosesu ymhellach yn unol â gofynion sefydliadol
  8. nodi ac ymateb i broblemau yn gysylltiedig â phrosesu neu waredu
  9. cwblhau’r dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y mathau o nwyddau a deunyddiau sydd yn addas ar gyfer prosesu, a’r rheiny nad ydynt, mewn gweithrediadau logisteg
  2. y gofynion diogelwch sefydliadol sydd yn berthnasol i brosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau
  3. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer prosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau mewn gweithrediadau logisteg
  4. sut i gael gwybodaeth am y mathau o nwyddau a deunyddiau ar gyfer prosesu a gwaredu
  5. sut i brosesu neu waredu mathau gwahanol o nwyddau a deunyddiau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. y mathau o faterion sydd yn deillio o brosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau
  7. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
  8. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
  9. y gofynion sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Nwyddau a deunyddiau: unrhyw ddeunydd gwastraff neu sydd wedi eu gwaredu, nwyddau sydd wedi eu niweidio

Prosesu: nwyddau neu ddeunyddiau y gellir eu defnyddio eto – ailgylchu, ailddefnyddio, ailwerthu

Gwaredu: nwyddau neu ddeunyddiau nad oes eu hangen ar gyfer ailddefnydd pellach

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth 

Cyfarpar: offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS32

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

didoli; gwahanu; gwirio; nwyddau; deunyddiau; ailgylchu; gwaredu; anfon ymlaen