Prosesu nwyddau wedi eu dychwelyd mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS31
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu nwyddau wedi eu dychwelyd mewn gweithrediadau logisteg, gallai’r rhan fod gan gwsmeriaid, cleientiaid neu o fewn eich sefydliad eich hun. Mae’n cynnwys gwirio nwyddau i nodi eu cyflwr, eu hail-labelu a’u gwaredu, lle bo angen.

Mae’r safon hon yn berthnasol i’r holl weithredwyr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. dychwelyd mewn gweithrediadau logisteg
  2. cael gwybodaeth am y rhesymau dros ddychwelyd y nwyddau
  3. rhoi manylion perthnasol y nwyddau sydd wedi eu dychwelyd i’r cydweithiwr/cydweithwyr awdurdodedig, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a diweddaru’r system rheoli stoc sefydliadol
  4. rhoi’r nwyddau sydd wedi eu dychwelyd yn y lleoliad a nodir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 
  5. labelu’r nwyddau sydd i gael eu dychwelyd at y cyflenwr neu’r cynhyrchydd
  6. prosesu neu waredu mathau gwahanol o nwyddau sydd wedi eu dychwelyd a deunydd pacio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. nodi ac ymateb i broblemau wrth brosesu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd
  8. cwblhau a storio’r dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd a deunydd pacio 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y prif resymau dros gwsmeriaid yn dychwelyd nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
  2. sut gellir dychwelyd y nwyddau a’r trefniadau sydd yn angenrheidiol ar gyfer eu dychwelyd
  3. sut i brosesu neu waredu mathau gwahanol o nwyddau sydd wedi eu dychwelyd neu ddeunydd pacio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  4. pryd a sut i ddiweddaru’r system rheoli stoc sefydliadol
  5. ble i osod nwyddau ar gyfer eu prosesu neu eu dychwelyd at y cyflenwr neu’r cynhyrchydd
  6. eich rolau a’ch cyfrifoldebau chi a’ch cydweithwyr mewn perthynas â phrosesu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd
  7. y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad dros gynnal cofnodion
  8. y gofynion sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd a deunydd pacio 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Rhesymau dros ddychwelyd y nwyddau: wedi eu niweidio, eitem anghywir, nifer anghywir, ddim ei angen bellach, oes silff wedi dod i ben

Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid

Cwsmeriaid: mewnol, allanol

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth 

Proses: ailgylchu, ailddefnyddio, ailwerthu, gwaredu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS31

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

wedi eu dychwelyd; nwyddau; warws; logisteg