Cydosod archebion ar gyfer eu hanfon mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS30
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydosod archebion ar gyfer eu hanfon mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys nodi’r nwyddau, nodi unrhyw ofynion penodol, ymateb i broblemau a chydosod y nwyddau.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel o weithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol yn ymwneud â chydosod archebion ar gyfer eu hanfon yn unol ag unrhyw ofynion diogeledd sefydliadol
- cadarnhau manylebau’r archeb a nodi materion iechyd, diogelwch, diogeledd ac amgylcheddol sy’n berthnasol i gydosod ac anfon archebion
- cadarnhau bod yr ardal sydd yn cael ei defnyddio i anfon y nwyddau yn lân ac yn glir rhag rhwystrau a pheryglon
- nodi lleoliad y nwyddau angenrheidiol
- cadarnhau bod y nwyddau yn hygyrch er mwyn iddynt allu cael eu hanfon
- nodi gofynion llwytho neu gludo
- cynnal cyflwr y nwyddau sydd yn cael eu cydosod
- cydosod yr archebion gyda’r math a’r nifer angenrheidiol o nwyddau, fel y nodir ym manyleb yr archeb
- nodi ac ymateb i broblemau yn cydosod archebion
- cofnodi’r gwaith sydd wedi ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chydosod archebion ar gyfer eu hanfon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- natur a nodweddion y nwyddau yn yr archeb sydd yn cael ei chydosod mewn gweithrediadau logisteg
- y wybodaeth anfon sydd yn ofynnol i nodi manylebau a gofynion archebion
- sut i amserlennu anfon nwyddau yn unol ag unrhyw ofynion diogeledd sefydliadol
- y systemau rheoli stoc a ddefnyddir gan y sefydliad
- ble mae cyfyngiadau yn ymwneud ag anfon nwyddau
- y mathau o gyfarpar, cyfleusterau a dulliau ymdrin sy’n berthnasol i gydosod archebion ar gyfer eu hanfon
- y materion iechyd, diogelwch, diogeledd ac amgylcheddol sydd yn berthnasol i gydosod archebion
- y mathau o broblemau a allai godi wrth gydosod archebion
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chydosod archebion ar gyfer eu hanfon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Problemau yn cydosod archebion: nodi stoc, meintiau stoc, stoc wedi ei niweidio, deunyddiau pacio, dogfennau
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant
Gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS30
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
cydosod; archebion; anfon; anfon ymlaen; warws; logisteg