Prosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS29
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys nodi gofynion archebu cwsmeriaid a phroblemau gyda’r archeb. Mae hefyd yn cynnwys prosesu’r wybodaeth y mae’n rhaid ei throsglwyddo i gwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth berthnasol am ofynion y cwsmer ar gyfer archebu nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- darparu gwybodaeth ddosbarthu i gwsmeriaid
- trosglwyddo archebion a gwybodaeth anfonebu i gydweithwyr perthnasol
- ymateb i ymholiadau am gynnydd yr archeb
- hysbysu cwsmeriaid os na ellir dosbarthu eu harchebion o fewn yr amser a gytunwyd yn wreiddiol
- nodi ac ymateb i broblemau yn prosesu archebion
- storio manylion cwsmeriaid yn ddiogel a chadw cyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- cofnodi gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gwybodaeth am ofynion y cwsmer ar gyfer archebu nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- yr amrywiaeth o gwsmeriaid yr ydych yn prosesu archebion ar eu cyfer
- y systemau rheoli ac archebu stoc perthnasol a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y wybodaeth berthnasol sydd ei hangen gan gydweithwyr fydd yn cyflawni’r archebion
- yr amser y mae’n ei gymryd i gyflawni archebion ar gyfer nwyddau gwahanol a ddarperir gan eich sefydliad, a beth i’w wneud os na ellir cyflawni’r ffrâm amser yma
- y wybodaeth sydd ei hangen gan y cydweithwyr fydd yn cyhoeddi’r anfoneb
- sut i storio manylion personol ac ariannol cwsmeriaid yn ddiogel, sut i gadw cyfrinachedd a gofynion deddfwriaeth diogelu data
- y gofynion arbennig sy’n berthnasol i archebion
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmeriaid: mewnol, allanol
Gofynion cwsmeriaid: amser dosbarthu, cyfeiriad, enw, rhif cyswllt
Gwybodaeth ddosbarthu: amser dosbarthu, cynnydd
Problemau yn prosesu archebion: taliadau, meintiau stoc, stoc wedi ei niweidio
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion arbennig: lleoliadau dosbarthu, amserau, cyfeiriadau
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLWS29
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
prosesu; archebion; cwsmeriaid; cleientiaid