Cynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS27
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys monitro risgiau a gweithredu pan fo angen. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio cyfarpar diogelwch a chynnal cofnodion.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth am risgiau penodol nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- gweithredu rhagofalon i gynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus, yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
- nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i’r nwyddau a’r deunyddiau peryglus
- monitro cyflwr nwyddau a deunyddiau peryglus a nodi’r arwyddion sydd yn dangos problemau gyda nhw
- gweithredu, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, os yw risgiau i iechyd a diogelwch yn cael eu nodi, ac adrodd am y risgiau hyn i’r cydweithwyr perthnasol
- symud nwyddau a deunyddiau peryglus yn ddiogel gan ddefnyddio cyfarpar, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- ymateb i argyfyngau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, ac adrodd am y rhain i’r awdurdod perthnasol
- defnyddio cyfarpar diogelwch yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr
- dilyn gweithdrefnau gwacáu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi gwaith sydd yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad, a’r risgiau cysylltiedig
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth gynnal diogelwch a diogeledd nwyddau peryglus
- y gofynion a’r rhagofalon storio a dosbarthu i’w cymryd i gynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus
- y systemau monitro a ddefnyddir ar gyfer nwyddau a deunyddiau peryglus yn y sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer argyfyngau, a phwy sy’n gyfrifol am ymateb iddynt
- y cydweithwyr perthnasol i gael eu hysbysu pan fydd risgiau i iechyd a diogelwch yn cael eu nodi
- y cyfarpar i gael ei ddefnyddio ar gyfer symud nwyddau a deunyddiau peryglus
- y mathau o diffoddwyr tân a chyfarpar brys arall a sut i’w defnyddio
- pryd a sut i gychwyn y systemau larwm a chael mynediad at lwybrau dianc
- pryd i alw’r gwasanaethau brys, a pha rai i’w galw
- y marciau perygl a ddefnyddir yn eich ardal waith a beth maent yn ei olygu
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â diogelwch a diogeledd nwyddau peryglus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cyfarpar diogelwch: cyfarpar ymladd tân, systemau pibellau gwacáu, cyfarpar anadlu, setiau ynysu, pecynnau gollyngiadau
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau
Awdurdod: Gwasanaeth Tân, rheolwr llinell, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLWS27
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
diogelwch; diogeledd; nwyddau; deunyddiau; peryglus; storio; warws; logisteg