Gosod nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg

URN: SFLWS26
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio,Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod nwyddau mewn cyfleuster logisteg er mwyn cynyddu gofod, gwella dosbarthiad a lleihau risg. Mae’n cynnwys nodi lleoliadau ar gyfer maint, pwysau neu fath o nwyddau, yn cynnwys eu defnydd neu eu trosiant.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. lleoli a chadarnhau’r nwyddau i gael eu storio yn unol â gofynion sefydliadol
  2. nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i’r nwyddau a’r amodau storio
  3. cadarnhau bod yr ardal i gael ei defnyddio ar gyfer storio yn barod i dderbyn y nwyddau
  4. nodi unrhyw faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn ymwneud â’r nwyddau i gael eu storio
  5. nodi unrhyw amodau storio yn ymwneud â’r nwyddau
  6. ymdrin â nwyddau gan ddefnyddio’r dulliau a’r cyfarpar ymdrin angenrheidiol
  7. rhoi nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg yn unol ag unrhyw weithdrefnau gweithredol a sefydliadol ar gyfer gofynion diogelwch, defnyddio gofod a dosbarthu
  8. nodi trefniadau monitro a storio ar gyfer y nwyddau, a chofnodi a chyfathrebu’r trefniadau hyn wrth y cydweithwyr perthnasol
  9. nodi ac ymateb i faterion yn ymwneud â storio nwyddau
  10. nodi unrhyw faterion hylendid neu halogiad gyda’r nwyddau ac adrodd y rhain wrth y cydweithiwr perthnasol 
  11. cofnodi gwaith sydd yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gosod nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y mathau o nwyddau sydd yn cael eu storio yn y cyfleuster logisteg
  2. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth osod nwyddau mewn storfa 
  3. sut i osod nwyddau mewn cyfleuster storio
  4. sut i gael gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau i gael eu storio
  5. yr ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer storio nwyddau
  6. pwysigrwydd paratoi ardaloedd storio, yn cynnwys glanhau a chlirio rhwystrau
  7. yr amodau storio’n ymwneud â’r mathau gwahanol o nwyddau sydd yn cael eu storio gan y gweithrediad logisteg
  8. y mathau o gyfarpar, cyfleusterau ac unrhyw ddulliau ymdrin sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
  9. y materion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i storio nwyddau
  10. y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch sydd yn gysylltiedig â storio mathau gwahanol o nwyddau
  11. y mathau o faterion sydd yn gysylltiedig â storio nwyddau gwahanol
  12. sut i ddefnyddio a diweddaru unrhyw systemau rheoli stoc a ddefnyddir gan y sefydliad
  13. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sydd yn rhoi nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg
  14. y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion
  15. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â rhoi nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Amodau storio: amgylchol, wedi ei oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, ar wahân, mynediad cyfyngedig, cwarantîn

Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant

Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau
 
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, masgiau

Materion yn ymwneud â storio nwyddau: maint, pwysau, niferoedd, lleoliad, mynediad, trosiant stoc


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS26

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

gosod; lleoli; safle; nwyddau; deunyddiau; storfa; lleoliad; warws; logisteg; symud dodrefn