Gweithredu cyfarpar ar gyfer gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu cyfarpar ar gyfer gweithrediadau logisteg ac mae’n cynnwys defnyddio cyfarpar symudol a sefydlog. Mae’n cynnwys nodi’r cyfarpar ar gyfer y dasg, cadarnhau ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio a dychwelyd y cyfarpar i’w safle gwreiddiol ar ôl ei ddefnyddio.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r cyfarpar perthnasol ar gyfer y dasg i gael ei gwneud o fewn gweithrediadau logisteg
- nodi a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n berthnasol i’r cyfarpar, y nwyddau a’r amodau storio
- cadarnhau bod y cyfarpar ar gael, yn ddiogel i’w ddefnyddio ac yn weithredol
- paratoi, addasu a gweithredu’r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd perthnasol, diogelwch a gofynion y gwaith
- monitro’r cyfarpar i gynnal ei weithrediad diogel, a chofnodi diffygion neu niwed i’r cyfarpar yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi ac ymateb i broblemau tra’n defnyddio’r cyfarpar, yn unol â gofynion sefydliadol
- dychwelyd y cyfarpar yn ddiogel i’w safle dynodedig ar ôl ei ddefnyddio
- cofnodi’r gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gweithredu’r cyfarpar
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfarpar perthnasol i’w ddefnyddio ar gyfer y dasg i gael ei chyflawni yn eich maes cyfrifoldeb, mewn gweithrediadau logisteg
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth weithredu cyfarpar ar gyfer gweithrediadau logisteg
- nodweddion a galluoedd y cyfarpar sydd yn cael ei ddefnyddio
- sut i sefydlu, addasu a gweithredu’r cyfarpar ar gyfer y dasg i gael ei chyflawni
- y mathau cyffredin o broblemau a allai ddigwydd gyda’r cyfarpar yr ydych yn ei ddefnyddio a sut i nodi ac ymateb i’r rhain
- y gwiriadau arferol sydd yn ofynnol cyn ac ar ôl defnyddio’r cyfarpar
- y gweithdrefnau cynnal a chadw ar ôl stopio ar gyfer y cyfarpar
- cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd perthnasol, gweithdrefnau sefydliadol ac arferion ar gyfer gweithredu cyfarpar ar gyfer gweithrediadau logisteg
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr wrth weithredu cyfarpar
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â’r cyfarpar a’i ddefnydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS23
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
gweithredu; cyfarpar; warws; logisteg