Cynnal perthynas waith gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS22
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal perthynas waith gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys cefnogi cydweithwyr, pryd i ofyn am gymorth a chefnogaeth gan gydweithwyr, a dulliau ar gyfer lleihau gwrthdaro.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio dulliau cyfathrebu perthnasol i gyfathrebu a chynnal perthynas gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
- cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau gyda chydweithwyr
- ymateb i geisiadau gan gydweithwyr am gymorth i fodloni gofynion cynnyrch sefydliadol o fewn eich maes cyfrifoldeb
- esbonio i gydweithwyr pryd nad yw’n bosibl ymateb i’w ceisiadau
- gwneud cais am gymorth gan gydweithwyr i fodloni gofynion cynnyrch sefydliadol o fewn eich maes cyfrifoldeb
- adrodd wrth y cydweithwyr perthnasol am sefyllfaoedd sydd yn atal cyflawni gofynion cynnyrch sefydliadol
- cael adborth am eich perfformiad eich hun gan y cydweithwyr perthnasol
- nodi meysydd lle gellir gwella eich ymarfer eich hun
- ymdrin ag unrhyw wrthdaro mewn perthnasoedd gwaith a chyfrannu at eu datrys yn eich maes cyfrifoldeb
- ydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pherthynas waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gyfathrebu gyda chydweithwyr er mwyn cynnal perthynas waith yn y sefydliad
- arferion gwaith sefydliadol, y safonau ansawdd a’r gofynion cynnyrch sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith chi a’ch cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
- sut i wneud cais am gymorth ac ymateb i geisiadau am gymorth gan gydweithwyr o fewn eich maes cyfrifoldeb
- sut i ymateb pan na fyddwch yn gallu gweithredu ceisiadau cydweithwyr
- sut i gydnabod pan fydd angen cymorth ar gydweithwyr
- sut i benderfynu a yw rhoi cymorth yn cyd-fynd â’ch cyfrifoldebau
- pwysigrwydd gwrando ar gydweithwyr er mwyn helpu i wella eich arferion gweithio personol
- sut i nodi eich gofynion dysgu a’r cyfleoedd ar gyfer dysgu sydd ar gael
- sut i nodi gwrthdaro mewn perthnasoedd gwaith, cyfrannu at eu datrys a phryd i ofyn am gymorth
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â pherthnasoedd gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLWS22
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
perthynas waith; cydweithwyr; warws; logisteg