Symud ac ymdrin â nwyddau mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS19
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â symud ac ymdrin â nwyddau mewn gweithrediadau logisteg, yn cynnwys y defnydd diogel o gyfarpar, lle bo angen. Mae’n cynnwys nodi peryglon posibl a’r broses o godi, trosglwyddo a gosod nwyddau i lawr. 

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r nwyddau i gael eu symud a’u trin fel rhan o’r gweithrediadau logisteg, a chadarnhau eu bod yn addas i gael eu symud
  2. cadarnhau bod yr ardal yn ddiogel ar gyfer symud ac ymdrin â nwyddau
  3. nodi peryglon yn symud ac ymdrin â’r nwyddau, a chymryd camau i leihau risg
  4. cadarnhau’r lleoliad ar gyfer lleoli a gosod nwyddau i lawr, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. cadarnhau bod y nwyddau yn addas ar gyfer ymdrin â llaw neu bod y cyfarpar cywir yn cael ei ddewis, ei baratoi a’i fod yn weithredol
  6. nodi a defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n berthnasol ar gyfer symud ac ymdrin â nwyddau
  7. defnyddio’r dulliau angenrheidiol i symud ac ymdrin â nwyddau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. trosglwyddo nwyddau i’w lleoliad dynodedig heb golled na niwed
  9. lleoli a gosod y nwyddau i lawr yn y lleoliad dynodedig
  10. gosod y nwyddau er mwyn gallu eu nodi a chael mynediad atynt
  11. nodi ac ymateb i broblemau gyda’r nwyddau yn ystod gweithrediadau symud ac ymdrin
  12. dychwelyd unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwyd i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’w safle gwreiddiol ar ôl ei ddefnyddio
  13. cofnodi’r gwaith a wnaed, yn unol â gweithrediadau sefydliadol
  14. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â symud ac ymdrin â nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodweddion y mathau gwahanol o nwyddau sydd yn cael eu symud a’u trin a’r ffordd orau o’u symud 
  2. y mathau o gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer ymdrin a symud nwyddau 
  3. peryglon y gweithle y gellid dod ar eu traws a sut i ymateb i’r rhain
  4. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth symud ac ymdrin â nwyddau
  5. sut i symud ac ymdrin â mathau gwahanol o nwyddau yn ddiogel mewn gweithrediadau logisteg
  6. y dulliau o godi, symud a gosod nwyddau i lawr mewn perthynas â’r cyfarpar a ddefnyddir a’r math o nwyddau
  7. pryd i ofyn am gymorth yn symud ac ymdrin â nwyddau, ac i bwy i ofyn
  8. lleoliadau’r mathau gwahanol o nwyddau
  9. sut i osod nwyddau er mwyn gallu eu nodi a chael mynediad atynt
  10. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i golli neu niweidio nwyddau
  11. pwysigrwydd dychwelyd unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’w safle gwreiddiol yn barod ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  12. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
  13. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
  14. y gofynion sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â symud ac ymdrin â nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig

Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio o fewn gweithrediadau logisteg. Gallai hyn fod yn fwyd, eitemau nad ydynt yn fwyd, eiddo’r cartref, cyfarpar electronig, dodrefn, hylifau ac ati


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS19

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

symud; ymdrin; nwyddau; logisteg; symud dodrefn